Richard Owen
Richard Owen | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
20 Gorffennaf 1804 Lancaster, Lloegr |
Bu farw |
18 Rhagfyr 1892 (88 oed) Parc Richmond, Llundain |
Cenedligrwydd | Y Deyrnas Unedig |
Meysydd |
Anatomeg gymharol Paleontoleg Swoleg[1] Bioleg[1] |
Alma mater |
Prifysgol Caeredin Ysbyty St Bartholomew |
Enwog am | Amgueddfa Brydeinig Hanes Naturiol |
Prif wobrau |
Medal Wollaston (1838) Medal Frenhinol (1846) Medal Copley (1851) Medal Clarke (1878) Medal Linnean (1888) |
Anatomegwr oedd Richard Owen (20 Gorffennaf 1804 – 18 Rhagfyr 1892). Cafodd ei eni yng Nghaerhirfryn, yn fab ieuengaf i fasnachwr (o Fulmer Place, Berks) a oedd yn delio â'r 'West India'. Yn 1792 y priododd ei rieni, a hynny yn Preston. Ef yn 1841 a fathodd y term deinosor.
Addysg[golygu | golygu cod y dudalen]
Bu ym Mhrifysgol Caeredin a choleg Bartholomew yn Llundain a chafodd swydd yng Ngholeg Llawfeddygon Llundain yn 1827.
Llyfrau[golygu | golygu cod y dudalen]
Sgwennodd lyfr, "Memoir on the Pearly Nautilus" yn 1832, llyfryn a'i gododd i rengoedd uchaf anatomi cymharol led-led y byd. Fe'i gwnaed yn Athro yn yr adran Anatomi a Ffisioleg Cymharol yn 1832. Catalogodd sawl math gwahanol o anifeiliaid a ffosiliau a sgwennodd ychwaneg o lyfrau gan gynnwys:
- History of British Fossil Mammals and Birds (1846),
- History of British Fossil Reptiles (1849-1884),
- Researches on Fossil Remains of Extinct Mammals of Australia (1877-1878),
- Memoirs on Extinct Wingless Birds of New Zealand (1879).
Ei waith[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn 1820 cafodd waith fel prentis i lawfeddyg.
Erbyn 1856 roedd yr anatomydd pwysicaf a mwyaf dylanwadol drwy Ewrop. Sicrhaodd arian, a chododd yn Ne Kensington amgueddfa newydd, sef 'The National Natural History Museum' a agorwyd yn 1881.
Anghytunodd yn hallt gyda Charles Darwin a'i syniadau newydd ynglyn ag esblygiad. Credodd (yn gywir felly) os oedd modd dangos sut mae anifail wedi esblygu dros miliynau o flynyddoedd, y dylem hefyd weld olion o'r creaduriaid a esblygwyd yn ddeinosor. Hyd yma, nid oes yr un wedi ei ddarganfod.
Yn 1852 fe roddwyd iddo anrheg gan ffrind mynwesol iddo, y Frenhines Victoria, sef: Sheen Lodge ar Ystâd Richmond Estate lle y preswyliodd am weddill ei oes.
Ef hefyd (yn 1841) a fathodd y term deinosor, 'deinos' sef y gair Groeg am 'anhygoel' a 'sauros' sef 'madfall'. Roedd yn gyfrifol am yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain rhwng 1856 ac 1883. Yn 1884 cafod ei wneud yn Farchog. Anatomeg cymharol oedd ei bwnc arbenigol.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Dolennau Allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Ei fywyd a'i waith
- (Saesneg) Coffâd (gwreiddiol) iddo