Anifail

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Animalia)
Anifail
Enghraifft o'r canlynoltacson, first-order class Edit this on Wikidata
Mathheterotroph Edit this on Wikidata
Safle tacsonteyrnas Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonFilozoa Edit this on Wikidata
DechreuwydMileniwm 666. CC Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Anifeiliaid
Dosbarthiad gwyddonol
Parth: Eukaryota
Teyrnas: Animalia
Linnaeus, 1758
Ffyla

Is-deyrnas Parazoa

Is-deyrnas Eumetazoa

Organebau amlgellog, ewcaryotig yn y deyrnas fiolegol Animalia yw anifeiliaid (a elwir hefyd yn wyddonol yn Metazoa). Gydag ychydig eithriadau, mae anifeiliaid yn bwyta deunydd organig, yn anadlu ocsigen, yn gallu symud, atgenhedlu'n rhywiol, a mynd trwy gyfnod ontogenetig lle mae eu corff yn cynnwys sffêr gwag o gelloedd, y blastula, yn ystod datblygiad embryonig. Mae dros 1.5 miliwn o rywogaethau o anifeiliaid byw wedi’u disgrifio'n wyddonol— ac mae tua miliwn ohonynt yn bryfed—, ond amcangyfrifir bod cyfanswm o dros 7 miliwn o rywogaethau o anifeiliaid. Mae hyd anifeiliaid yn amrywio o 8.5 micrometr (0.00033 mod) i 33.6 metr (110 tr). Yr astudiaeth o anifeiliaid yw sŵoleg.

Pan yn siarad yn gyffredinol am anifeiliaid, nid yw'n cynnwys bodau dynol yn aml, ond mewn gwirionedd mae dyn yn anifail, hefyd.[1]

Yn ystod y cyfnod Cambriaidd yr ymddangosodd y ffylwm anifail, a hynny oddeutu 542 miliwn o flynyddoedd yn ôl; gwelwn hyn yn y dystiolaeth o ffosiliau o'r cyfnod. Rhennir y grwp 'anifeiliaid' yn isgrwpiau, gan gynnwys: adar, mamaliaid, amffibiaid, ymlusgiaid, pysgod a pryfaid.

O ran dosbarthiad, mae'r rhan fwyaf o rywogaethau o anifeiliaid yn byw mewn Bilateria (hy anifeiliaid gyda chymesured dwyochr), ac yn cynnwys y protostomau, sy'n cynnwys infertebratau megis nematodau, arthropodau, a molysgiaid, a'r deuterostomau, sy'n cynnwys yr echinodermau a'r cordadau, gyda'r olaf yn ffylwm o anifeiliaid sy'n cynnwys y fertebratau. Roedd ffurfiau bywyd a ddehonglir fel anifeiliaid cynnar yn bresennol ym biota Ediacaraidd y Cyn-Gambriaidd diweddar. Daeth llawer o ffyla anifeiliaid modern yn amlwg yn y cofnod ffosil fel rhywogaethau morol yn ystod y ffrwydrad Cambriaidd, a ddechreuodd tua 542 miliwn o flynyddoedd yn ôl. mae 6,331 o grwpiau o enynnau sy'n gyffredin i bob anifail byw wedi'u cofnodi; gall y rhain fod wedi codi o un hynafiad cyffredin a oedd yn byw 650 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP).

Yn hanesyddol, dosbarthodd Aristotle anifeiliaid i'r rhai â gwaed a'r rhai heb waed. Creodd Carl Linnaeus y dosbarthiad biolegol hierarchaidd cyntaf ar gyfer anifeiliaid ym 1758 gyda'i Systema Naturae, ac ehangwyd gan Jean-Baptiste Lamarck i 14 ffylwm erbyn 1809. Ym 1874, rhannodd Ernst Haeckel y deyrnas anifeiliaid i'r Metasoa amlgellog (sy'n gyfystyr bellach ag Animalia) a'r Protozoa, organebau ungellog nad oeddent bellach yn cael eu hystyried yn anifeiliaid. Yn y cyfnod modern, mae dosbarthiad biolegol anifeiliaid yn dibynnu ar dechnegau uwch, megis ffylogeneteg moleciwlaidd, sy'n effeithiol wrth ddangos y berthynas esblygiadol rhwng y gwahanol tacsa.

Mae bodau dynol yn defnyddio llawer iawn o rywogaethau o anifeiliaid i'w ddibenion a'i bwrpas ei hun, megis ar gyfer bwyd (gan gynnwys cig, llaeth, ac wyau), ar gyfer deunyddiau (fel lledr, sidan a gwlân), fel anifeiliaid anwes, ac fel anifeiliaid gwaith gan gynnwys ar gyfer cludo. Defnyddiwyd cŵn i hela, yn ogystal ag adar ysglyfaethus, tra bod llawer o anifeiliaid daearol a dyfrol yn cael eu hela ar gyfer chwaraeon. Mae anifeiliaid wedi ymddangos mewn celf o'r amseroedd cynharaf ac yn cael sylw mewn mytholeg a chrefydd.

Mae'r hwiangerdd Gymraeg Pais Dinogad yn nodi llawer o anifeiliad oedd yn cael eu hela gan dad y plentyn:

Peis dinogat e vreith vreith (Pais Dinogad sydd fraith, fraith,)
o grwyn balaot ban wreith (O groen y bela y mae'i waith)

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Benthyciwyd y gair Cymraeg anifail o'r Lladin animalia, o bosib yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Daw animalia o'r Lladin animalis, sy'n golygu 'gydag anadl' neu 'gydag enaid' hy 'bod yn fyw'.[2] Mae'r diffiniad biolegol yn cynnwys holl aelodau'r deyrnas Animalia. Ar lafar defnyddir y term anifail yn aml i gyfeirio at unrhyw anifail nad yw'n fod dynol.[3][4][5][6][7][8]

Paentiad o Ogof Lascaux: gwartheg (Bos primigenius), ceffylau a cheirw

Nodweddion[golygu | golygu cod]

Mae anifeiliaid yn unigryw oherwydd bod pelen celloedd yr embryo cynnar (1) yn datblygu'n bêl wag neu'n blastwla (2).

Mae gan anifeiliaid sawl nodwedd sy'n eu gosod ar wahân i bethau byw eraill. Mae anifeiliaid yn ewcaryotig ac yn organebau amlgellog.[9][10] Yn wahanol i blanhigion ac algâu, sy'n cynhyrchu eu maetholion eu hunain,[11] mae anifeiliaid yn heterotroffig,[10][12] yn bwydo ar ddeunydd organig ac yn ei dreulio'n fewnol.[13] Gydag ychydig iawn o eithriadau, (enghraifft; Henneguya zschokkei [14]) mae anifeiliaid yn resbiradu yn aerobig.[15] Mae pob anifail yn symudol[16] (yn gallu symud eu cyrff yn ddigymell) yn ystod rhan neu'r cyfan o'u cylch bywyd, ond mae rhai anifeiliaid, megis sbyngau, cwrelau, cregyn gleision a chregyn llong (neu gwyran), yn dod yn ddigoes tua diwedd eu bywydau. Mae'r blastula yn gyfnod yn y datblygiad embryonig sy'n unigryw i anifeiliaid,[17] (er ei fod wedi'i golli mewn rhai) gan ganiatáu gwahaniaethu celloedd i feinweoedd ac organau arbenigol, cymhleth.

Strwythur[golygu | golygu cod]

Mae pob anifail yn cynnwys celloedd, wedi'u hamgylchynu gan fatrics allgellog (extracellular matrix) sy'n cynnwys colagen a glycoproteinau elastig.[18] Yn ystod datblygiad, mae matrics allgellog anifeiliaid yn ffurfio fframwaith cymharol hyblyg lle gall celloedd symud o gwmpas ac ad-drefnu eu hunain, gan ei gwneud yn bosibl ffurfio strwythurau cymhleth. Gall y ffurfiau hyn fod o galch ee strwythurau fel cregyn, esgyrn, a sbigylau sbwng.[19] Mewn cyferbyniad, mae celloedd organebau amlgellog eraill (algae, planhigion a ffyngau'n bennaf) yn cael eu dal yn eu lle gan gellfuriau, ac felly'n dibynnu ar dyfiant cynyddol.[20] Mae celloedd anifeiliaid yn unigryw ac yn meddu ar y cyffyrdd cell (cell junctions) elwir yn gyffyrdd tynn, cyffyrdd bwlch, a desmosomau.[21]

Gydag ychydig iawn o eithriadau - yn arbennig, y sbyngau a'r placozoans - mae cyrff anifeiliaid yn gymysgedd o wahanol feinweoedd,[22] gan gynnwys cyhyrau, sy'n galluogi symudiad, a meinweoedd nerfol, sy'n trosglwyddo signalau ac yn cydlynu'r corff. Yn nodweddiadol, mae yna hefyd siambr dreulio fewnol gyda naill ai un agoriad (yn Ctenophora, Cnidaria, a llyngyr lledog) neu ddau agoriad (yn y rhan fwyaf o bilateriaid), y ceg a'r anws.[23]

Atgynhyrchu a datblygu[golygu | golygu cod]

Mae atgenhedlu rhywiol bron yn gyffredinol mewn anifeiliaid, fel y gweision neidr hyn.

Mae bron pob anifail yn defnyddio rhyw fath o atgenhedlu rhywiol.[24] Cynhyrchant gametau haploid trwy feiosis; mae'r gametau symudol llai yn sbermatosoa a'r gametau ansymudol mwyaf yw ofa.[25] Mae'r rhain yn asio i ffurfio sygotau,[26] sy'n datblygu trwy mitosis yn sffêr gwag, a elwir yn blastwla. Mewn sbyngau, mae larfa blastula yn nofio i leoliad newydd, yn glynu wrth wely'r môr, ac yn datblygu'n sbwng newydd.[27] Yn y rhan fwyaf o grwpiau eraill, mae'r blastula yn cael ei aildrefnu'n fwy cymhleth.[28] Mae'n ymweinio (o'r gair 'gwain') yn gyntaf, i ffurfio gastrwla gyda siambr dreulio a dwy haen germ ar wahân, ectoderm allanol ac endoderm mewnol.[29] Yn y rhan fwyaf o achosion, mae trydedd haen germ, y mesoderm, hefyd yn datblygu rhyngddynt.[30] Yna mae'r haenau germ hyn yn gwahaniaethu i ffurfio meinweoedd ac organau. [31]

Mae achosion mynych o baru gyda pherthynas agos (yn ystod atgenhedlu rhywiol) yn gyffredinol yn arwain at iselder mewnfridio o fewn poblogaeth ac yn niweidiol.[32][33] Mae anifeiliaid wedi datblygu nifer o fecanweithiau ar gyfer osgoi mewnfridio agos (neu llosgach).[34]

Mae rhai anifeiliaid yn gallu atgenhedlu anrhywiol, sy'n aml yn arwain at glôn genetig y rhiant. Gall hyn ddigwydd trwy tmddarnio; egino, megis yn Hydra a cnidariaid eraill; neu parthenogenesis, lle cynhyrchir wyau ffrwythlon heb baru, megis mewn pryfed gleision (affid).[35][36]

Ecoleg[golygu | golygu cod]

Mae ysglyfaethwyr, fel y gwybedog glas aelwyn hwn (Ficedula superciliaris), yn bwydo ar anifeiliaid eraill ee pryfaid

Mae anifeiliaid yn cael eu categoreiddio i grwpiau ecolegol yn dibynnu ar sut y maent yn cael bwyd neu'n bwyta deunydd organig megis cigysyddion, llysysyddion, hollysyddion, detritivatores,[37] a pharasitiaid.[38] Mae'r rhyngweithio rhwng anifeiliaid yn ffurfio gweoedd bwyd cymhleth. Mewn rhywogaethau cigysol neu hollysol, mae ysglyfaethwr yn bwydo ar organeb arall (a elwir yn ysglyfaeth).[39] Mae'r pwysau parhaus rhwng yr ysglyfaethwr a'i ysglyfaeth yn arwain at gystadleuaeth esblygiadol gan arwain at wahanol addasiadau yng nghyrff yr anifeiliaid hyn.[40][41] Mae bron pob ysglyfaethwr amlgellog yn anifail.[42] Mae rhai defnyddwyr yn defnyddio nifer o ddulliau; er enghraifft, mewn gwenyn meirch parasitaidd, mae'r larfa'n bwydo ar feinwe byw y gwesteiwr, gan eu lladd yn y broses,[43] ond mae'r oedolion yn bwyta neithdar o flodau, yn bennaf.[44] Gall fod gan anifeiliaid eraill ymddygiad bwydo penodol iawn, fel crwban Môr Gwalchbig sy'n bwyta sbyngau'n bennaf. [45]

Mae'r rhan fwyaf o anifeiliaid yn dibynnu ar y biomas a'r egni a gynhyrchir gan blanhigion trwy ffotosynthesis. Mae llysysyddion yn bwyta deunydd planhigion yn uniongyrchol, tra bod cigysyddion, ac anifeiliaid eraill ar lefelau troffig uwch fel arfer yn ei gaffael yn anuniongyrchol trwy fwyta anifeiliaid eraill. Mae anifeiliaid yn ocsideiddio carbohydradau, lipidau, proteinau, a biomoleciwlau eraill i ddatgloi egni cemegol ocsigen moleciwlaidd,[46] sy'n caniatáu i'r anifail dyfu a chynnal prosesau biolegol megis ymsymudiad.[47][48][49] Mae anifeiliaid sy'n byw yn agos at fentiau hydrothermol a diferion oer ar wely'r môr tywyll yn bwyta deunydd organig archaea a bacteria a gynhyrchir yn y lleoliadau hyn trwy chemosynthesis (trwy ocsideiddio cyfansoddion anorganig, fel hydrogen sylffid).[50]

Esblygodd anifeiliaid yn y môr yn wreiddiol. Cytrefodd llinachau o arthropodau'r tir tua'r un adeg â phlanhigion tir, yn ôl pob tebyg rhwng 510 a 471 miliwn o flynyddoedd yn ôl (CP) yn ystod y Cyfnod Cambriaidd Diweddar neu'r Ordofigaidd Cynnar.[51] Dechreuodd fertebratau fel y pysgodyn asgellog Tiktaalik symud i'r tir yn y Defonaidd hwyr, tua 375 miliwn CP.[52][53] Mae anifeiliaid, bellach, wedi meddiannu bron pob un o gynefinoedd a microgynefinoedd y ddaear, gan gynnwys dŵr hallt, fentiau hydrothermol, dŵr croyw, ffynhonnau poeth, corsydd, coedwigoedd, porfeydd, anialwch, aer, a thu mewn i anifeiliaid, planhigion, ffyngau a chreigiau.[54] Fodd bynnag, nid yw anifeiliaid yn gallu goddef gwres yn arbennig o dda; ychydig iawn ohonynt sy'n gallu goroesi ar dymheredd cyson uwchlaw 50 °C (122 °F).[55] Ac ar ochr arall y geiniog, dim ond ychydig iawn o rywogaethau o anifeiliaid (nematodau'n bennaf) all fyw yn niffeithdiroedd oer mwyaf eithafol Antarctica cyfandirol.[56]

Amrywiaeth[golygu | golygu cod]

Y morfil glas yw'r anifail mwyaf sydd erioed wedi byw; yma gwelir mam a'i phlentyn.

Maint[golygu | golygu cod]

Y morfil glas (Balaenoptera musculus) yw'r anifail mwyaf sydd erioed wedi byw, gan bwyso hyd at 190 tunnell ac yn mesur hyd at 33.6 metr (110 tr) o hyd. Yr anifail tir mwyaf sy'n bodoli yw'r eliffant llwyni, Affricanaidd (Loxodonta africana), sy'n pwyso hyd at 12.25 tunnell[57] ac yn mesur hyd at 10.7 metr (35 tr) o hyd.[57] Yr anifeiliaid daearol mwyaf a fu byw erioed oedd y deinosoriaid sauropod titanosaur fel yr Argentinosaurus, a allai fod wedi pwyso cymaint â 73 tunnell.[58] Mae sawl anifail yn feicrosgopig; nid yw rhai Myxozoa (parasitiaid gorfodol o fewn y Cnidaria) byth yn tyfu'n fwy nag 20 µm,[59] ac nid yw'r Myxobolus shekel yn fwy na 8.5 µm pan fydd wedi tyfu'n llawn.[60]

Niferoedd a chynefinoedd[golygu | golygu cod]

Mae’r tabl a ganlyn yn rhestru amcangyfrif o’r niferoedd o rywogaethau sy’n bodoli ar gyfer y grwpiau anifeiliaid sydd â’r niferoedd mwyaf o rywogaethau,[61] ynghyd â’u prif gynefinoedd (daearol, dŵr croyw, [62] a morol),[63] a byw’n rhydd neu ffyrdd parasitig o fyw.[64] Mae'r amcangyfrifon o rywogaethau a ddangosir yma yn seiliedig ar niferoedd a ddisgrifir yn wyddonol; mae amcangyfrifon llawer mwy wedi'u cyfrifo yn seiliedig ar wahanol ddulliau o ragfynegi, a gall y rhain amrywio'n fawr. Er enghraifft, disgrifiwyd tua 25,000–27,000 o rywogaethau o nematodau, tra bod amcangyfrifon cyhoeddedig o gyfanswm nifer y rhywogaethau nematodau yn cynnwys 10,000–20,000; 500,000; 10 miliwn; a 100 miliwn.[65] Gan ddefnyddio patrymau o fewn yr hierarchaeth dacsonomig, cyfrifwyd bod cyfanswm y rhywogaethau anifeiliaid—gan gynnwys y rhai nad ydynt wedi’u disgrifio eto—tua 7.77 miliwn yn 2011.[66][67]

Phylwm Enghraifft Nifer of

Rywogaethau
Ar y Ddaear Yn y Môr Dŵr
Croyw
Byw'n

Rhydd
Parasitig
Anelidau 17,000[61] Ie (pridd)[63] Ie[63] Ie[62] Ie 400[64]
Arthropodau 1,257,000[61] 1,000,000

(pryfaid)[68]
>40,000

(Malac-

ostraca)[69]
94,000[62] Ie[63] >45,000 (heb gynnwys parasitiaid)[64]
Bryozoa 6,000[61] Ie[63] 60–80[62] Ie
Cordogau >70,000[61][70]

23,000[71]


13,000[71]
18,000[62]

9,000[71]
Ie 40

(cat-fôr)[72][64]
Cnidaria 16,000[61] Ie[63] Ie (few)[63] Ie[63] >1,350

(Myxozoa)[64]
Echinodermau 7,500[61] 7,500[61] Ie[63]
Molysgau 85,000[61]

107,000[73]


35,000[73]


60,000[73]
5,000[62]

12,000[73]
Ie[63] >5,600[64]
Llyngyr crwn 25,000[61] Ie (pridd)[63] 4,000[65] 2,000[62] 11,000[65] 14,000[65]
Llyngyr lledog 29,500[61] Ie[74] Ie[63] 1,300[62] Ie[63]

3,000–6,500[75]

>40,000[64]

4,000–25,000[75]

Rhodfilod 2,000[61] >400[76] 2,000[62] Ie
Sbwng 10,800[61] Ie[63] 200-300[62] Ie Ie[77]
Cyfanswm y rhywogaethau (yn 2013): 1,525,728[61]

Tarddiad esblygiadol[golygu | golygu cod]

Dickinsonia costata o'r biota Ediacaran (c. 635–542 miliwn o flynyddoedd yn ôl) yw un o'r rhywogaethau anifeiliaid hysbys cynharaf.[78]

Mae'r ffosilau cyntaf a allai gynrychioli anifeiliaid yn ymddangos yng nghreigiau 665-miliwn oed Ffurfiant Trezona yn Ne Awstralia. Mae'n debyg mai sbyngau cynnar yw'r ffosilau hyn.[79]

Mae anifeiliaid i'w cael mor bell yn ôl â'r biota Ediacaran, tua diwedd y Cyn-Gambriaidd, ac efallai ychydig yn gynharach. Roedd amheuaeth ers tro a oedd y ffurfiau bywyd hyn yn cynnwys anifeiliaid,[80][81][82] ond mae darganfod colesterol lipid anifeiliaid mewn ffosilau Dickinsonia yn cadarnhau hyn.[78] Credir bod anifeiliaid wedi tarddu o dan amodau ocsigen isel, sy'n awgrymu eu bod yn gallu byw'n gyfan gwbl trwy resbiradaeth anaerobig, ond wrth iddynt arbenigo mewn metaboledd aerobig daethant yn gwbl ddibynnol ar ocsigen yn eu hamgylcheddau.[83]

Mae Anomalocaris canadensis yn un o'r llu o rywogaethau o anifeiliaid a esblygodd yn y ffrwydrad Cambriaidd, gan ddechrau tua 542 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ac a ddarganfuwyd yng ngwâu ffosil y siâl Burgess.

Ymddangosodd llawer o ffyla o anifeiliaid am y tro cyntaf yn y cofnodion ffosil yn y ffrwydrad Cambriaidd, gan ddechrau tua 542 miliwn o flynyddoedd yn ôl, mewn gwelyau fel siâl Burgess. Ymhlith y ffyla sy'n bodoli yn y creigiau hyn mae molysgiaid, braciopodau, onychophorans, Arafsymudwr (y tardigrades), arthropodau, echinodermau a'r hemichordatiaid, ynghyd â nifer o ffurfiau a ddifodwyd megis yr Anomalocaris rheibus. Fodd bynnag, gall sydynrwydd y digwyddiad fod oherwydd fod y cofnod ffosil yn wallus, yn hytrach na bod yr holl anifeiliaid hyn wedi ymddangos ar yr un pryd.[84][85][86][87]

Ffylogeni[golygu | golygu cod]

Mae anifeiliaid yn fonoffyletig, sy'n golygu eu bod yn deillio o hynafiad cyffredin. Mae anifeiliaid yn chwaer i'r Choanoflagellata ac maent yn ffurfio'r Choanozoa.[88] Mae gan yr anifeiliaid mwyaf sylfaenol, y Porifera, Ctenophora, Cnidaria, a Placozoa, gynlluniau corff sydd heb gymesuredd dwyochrog. Mae eu perthynas yn dal i fod yn destun dadl; gallai'r chwaer grŵp i bob anifail arall fod yn Porifera neu'r Ctenophora,[89] sydd â diffyg genynnau hox, sy'n holl bwysig wrth ddatblygu cynllun y corff cyfan.[90]

Mae'r goeden ffylogenetig (o'r prif linachau yn unig) yn dynodi tua sawl miliwn o flynyddoedd yn ôl ( mya ) y holltodd y llinachau.[91][92][93][94][95]

Anifeiliaid nad ydynt yn ddwyochrog[golygu | golygu cod]

Mae rhai nad ydynt yn ddwyochrog (o ran cymesuredd) yn cynnwys sbyngau (canol) a chwrelau (cefndir).

Mae gan nifer o anifeiliaid ddiffyg cymesuredd dwyochrog ac ymhlith y rhain, mae'n debyg bod y sbyngau (Porifera) wedi dargyfeirio gyntaf, gan gynrychioli'r ffylwm anifail hynaf.[96] Nid ydynt yn organebau cymhleth, fel y rhan fwyaf o ffyla eraill;[97] ceir amrywiaeth yn y math o gelloedd, ond yn y rhan fwyaf o achosion nid ydynt wedi'u trefnu'n feinweoedd gwahanol.[98] Maent fel arfer yn bwydo trwy dynnu dŵr trwy fandyllau.[99]

Dwyochredd (Bilateria)[golygu | golygu cod]

Mae'r anifeiliaid sy'n weddill, y mwyafrif helaeth—yn cynnwys rhyw 29 ffyla a thros filiwn o rywogaethau—yn ffurfio cytras (clade), sef y Bilateria. Mae'r corff yn driploblastig, gyda thair haen o germ sydd wedi'u datblygu'n dda, ac mae eu meinweoedd yn ffurfio organau gwahanol. Mae gan y siambr dreulio ddau agoriad, ceg ac anws, a cheir ceudod corff mewnol, coelom neu ffug-goelom. Mae gan anifeiliaid sydd â'r cynllun dwyochrog cymesur hwn i'w corff y gallu i symud, pen blaen (anterior), a phen ôl (posterior) yn ogystal â chefn (dorsal) a bol (ventral); felly y mae ganddynt hefyd ochr dde ac ochr chwith.[100][101]

Mae astudiaethau genetig wedi newid dealltwriaeth sŵolegwyr yn sylweddol o'r perthnasoedd o fewn y Bilateria. Ymddengys bod y rhan fwyaf yn perthyn i ddwy brif linach, y protostomau a'r deuterostomau.[102][103][104][105]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Animals". Merriam-Webster's. Cyrchwyd 16 May 2010. 2 a : one of the lower animals as distinguished from human beings b : mammal; broadly : vertebrate
  2. Cresswell, Julia (2010). The Oxford Dictionary of Word Origins (arg. 2nd). New York: Oxford University Press. ISBN 978-0-19-954793-7. 'having the breath of life', from anima 'air, breath, life'.
  3. "animal". English Oxford Living Dictionaries. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 July 2018. Cyrchwyd 26 July 2018.
  4. Boly, Melanie; Seth, Anil K.; Wilke, Melanie; Ingmundson, Paul; Baars, Bernard; Laureys, Steven; Edelman, David; Tsuchiya, Naotsugu (2013). "Consciousness in humans and non-human animals: recent advances and future directions". Frontiers in Psychology 4: 625. doi:10.3389/fpsyg.2013.00625. PMC 3814086. PMID 24198791. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3814086.
  5. "The use of non-human animals in research". Royal Society. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 June 2018. Cyrchwyd 7 June 2018.
  6. "Nonhuman definition and meaning". Collins English Dictionary. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 June 2018. Cyrchwyd 7 June 2018.
  7. Cresswell, Julia (2010). The Oxford Dictionary of Word Origins (arg. 2nd). New York: Oxford University Press. ISBN 978-0-19-954793-7. having the breath of life', from anima 'air, breath, life. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  8. "Animal". The American Heritage Dictionary (arg. 4th). Houghton Mifflin Company. 2006.
  9. Avila, Vernon L. (1995). Biology: Investigating Life on Earth. Jones & Bartlett Learning. tt. 767–. ISBN 978-0-86720-942-6.
  10. 10.0 10.1 "Palaeos:Metazoa". Palaeos. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 February 2018. Cyrchwyd 25 February 2018.
  11. Davidson, Michael W. "Animal Cell Structure". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 September 2007. Cyrchwyd 20 September 2007.
  12. Bergman, Jennifer. "Heterotrophs". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 August 2007. Cyrchwyd 30 September 2007.
  13. Douglas, Angela E.; Raven, John A. (January 2003). "Genomes at the interface between bacteria and organelles". Philosophical Transactions of the Royal Society B 358 (1429): 5–17. doi:10.1098/rstb.2002.1188. PMC 1693093. PMID 12594915. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1693093.
  14. Andrew, Scottie (26 February 2020). "Scientists discovered the first animal that doesn't need oxygen to live. It's changing the definition of what an animal can be". CNN. Cyrchwyd 2020-02-28.
  15. Mentel, Marek; Martin, William (2010). "Anaerobic animals from an ancient, anoxic ecological niche". BMC Biology 8: 32. doi:10.1186/1741-7007-8-32. PMC 2859860. PMID 20370917. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2859860.
  16. Saupe, S. G. "Concepts of Biology". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 November 2007. Cyrchwyd 30 September 2007.
  17. Minkoff, Eli C. (2008). Barron's EZ-101 Study Keys Series: Biology (arg. 2nd, revised). Barron's Educational Series. t. 48. ISBN 978-0-7641-3920-8.
  18. Alberts, Bruce; Johnson, Alexander; Lewis, Julian; Raff, Martin; Roberts, Keith; Walter, Peter (2002). Molecular Biology of the Cell (arg. 4th). Garland Science. ISBN 978-0-8153-3218-3. Cyrchwyd 29 August 2017.
  19. Sangwal, Keshra (2007). Additives and crystallization processes: from fundamentals to applications. John Wiley and Sons. t. 212. ISBN 978-0-470-06153-4.
  20. Becker, Wayne M. (1991). The world of the cell. Benjamin/Cummings. ISBN 978-0-8053-0870-9.
  21. Magloire, Kim (2004). Cracking the AP Biology Exam, 2004–2005 Edition. The Princeton Review. t. 45. ISBN 978-0-375-76393-9.
  22. Starr, Cecie (2007). Biology: Concepts and Applications without Physiology. Cengage Learning. tt. 362, 365. ISBN 978-0-495-38150-1.
  23. Hillmer, Gero; Lehmann, Ulrich (1983). Fossil Invertebrates. Translated by J. Lettau. CUP Archive. t. 54. ISBN 978-0-521-27028-1. Cyrchwyd 8 January 2016.
  24. Knobil, Ernst (1998). Encyclopedia of reproduction, Volume 1. Academic Press. t. 315. ISBN 978-0-12-227020-8.
  25. Schwartz, Jill (2010). Master the GED 2011. Peterson's. t. 371. ISBN 978-0-7689-2885-3.
  26. Hamilton, Matthew B. (2009). Population genetics. Wiley-Blackwell. t. 55. ISBN 978-1-4051-3277-0.
  27. Ville, Claude Alvin; Walker, Warren Franklin; Barnes, Robert D. (1984). General zoology. Saunders College Pub. t. 467. ISBN 978-0-03-062451-3.
  28. Hamilton, William James; Boyd, James Dixon; Mossman, Harland Winfield (1945). Human embryology: (prenatal development of form and function). Williams & Wilkins. t. 330.
  29. Philips, Joy B. (1975). Development of vertebrate anatomy. Mosby. t. 176. ISBN 978-0-8016-3927-2.
  30. The Encyclopedia Americana: a library of universal knowledge, Volume 10. Encyclopedia Americana Corp. 1918. t. 281.
  31. Romoser, William S.; Stoffolano, J. G. (1998). The science of entomology. WCB McGraw-Hill. t. 156. ISBN 978-0-697-22848-2.
  32. Charlesworth, D.; Willis, J. H. (2009). "The genetics of inbreeding depression". Nature Reviews Genetics 10 (11): 783–796. doi:10.1038/nrg2664. PMID 19834483.
  33. Bernstein, H.; Hopf, F. A.; Michod, R. E. (1987). The molecular basis of the evolution of sex. 24. tt. 323–370. doi:10.1016/s0065-2660(08)60012-7. ISBN 978-0-12-017624-3. PMID 3324702.
  34. Pusey, Anne; Wolf, Marisa (1996). "Inbreeding avoidance in animals". Trends Ecol. Evol. 11 (5): 201–206. doi:10.1016/0169-5347(96)10028-8. PMID 21237809. https://archive.org/details/sim_trends-in-ecology-evolution_1996_11_5/page/201.
  35. Adiyodi, K. G.; Hughes, Roger N.; Adiyodi, Rita G. (July 2002). Reproductive Biology of Invertebrates, Volume 11, Progress in Asexual Reproduction. Wiley. t. 116. ISBN 978-0-471-48968-9.
  36. Schatz, Phil. "Concepts of Biology: How Animals Reproduce". OpenStax College. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 March 2018. Cyrchwyd 5 March 2018.
  37. Marchetti, Mauro; Rivas, Victoria (2001). Geomorphology and environmental impact assessment. Taylor & Francis. t. 84. ISBN 978-90-5809-344-8.
  38. Levy, Charles K. (1973). Elements of Biology. Appleton-Century-Crofts. t. 108. ISBN 978-0-390-55627-1.
  39. Begon, M.; Townsend, C.; Harper, J. (1996). Ecology: Individuals, populations and communities (arg. Third). Blackwell Science. ISBN 978-0-86542-845-4.
  40. Allen, Larry Glen; Pondella, Daniel J.; Horn, Michael H. (2006). Ecology of marine fishes: California and adjacent waters. University of California Press. t. 428. ISBN 978-0-520-24653-9.
  41. Caro, Tim (2005). Antipredator Defenses in Birds and Mammals. University of Chicago Press. tt. 1–6 and passim.
  42. Simpson, Alastair G.B; Roger, Andrew J. (2004). "The real 'kingdoms' of eukaryotes". Current Biology 14 (17): R693–696. doi:10.1016/j.cub.2004.08.038. PMID 15341755.
  43. Stevens, Alison N. P. (2010). "Predation, Herbivory, and Parasitism". Nature Education Knowledge 3 (10): 36. https://www.nature.com/scitable/knowledge/library/predation-herbivory-and-parasitism-13261134. Adalwyd 12 February 2018.
  44. Jervis, M. A.; Kidd, N. A. C. (November 1986). "Host-Feeding Strategies in Hymenopteran Parasitoids". Biological Reviews 61 (4): 395–434. doi:10.1111/j.1469-185x.1986.tb00660.x. https://archive.org/details/sim_biological-reviews_1986-11_61_4/page/395.
  45. Meylan, Anne (22 January 1988). "Spongivory in Hawksbill Turtles: A Diet of Glass". Science 239 (4838): 393–395. Bibcode 1988Sci...239..393M. doi:10.1126/science.239.4838.393. JSTOR 1700236. PMID 17836872. https://archive.org/details/sim_science_1988-01-22_239_4838/page/393.
  46. Schmidt-Rohr, Klaus (2020). "Oxygen is the High-Energy Molecule Powering Complex Multicellular Life: Fundamental Corrections to Traditional Bioenergetics". ACS Omega 5 (5): 2221–2233. doi:10.1021/acsomega.9b03352. PMC 7016920. PMID 32064383. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=7016920.
  47. Clutterbuck, Peter (2000). Understanding Science: Upper Primary. Blake Education. t. 9. ISBN 978-1-86509-170-9.
  48. Gupta, P. K. (1900). Genetics Classical To Modern. Rastogi Publications. t. 26. ISBN 978-81-7133-896-2.
  49. Garrett, Reginald; Grisham, Charles M. (2010). Biochemistry. Cengage Learning. t. 535. ISBN 978-0-495-10935-8.
  50. Castro, Peter; Huber, Michael E. (2007). Marine Biology (arg. 7th). McGraw-Hill. t. 376. ISBN 978-0-07-722124-9.
  51. Rota-Stabelli, Omar; Daley, Allison C.; Pisani, Davide (2013). "Molecular Timetrees Reveal a Cambrian Colonization of Land and a New Scenario for Ecdysozoan Evolution". Current Biology 23 (5): 392–8. doi:10.1016/j.cub.2013.01.026. PMID 23375891.
  52. Daeschler, Edward B.; Shubin, Neil H.; Jenkins, Farish A., Jr. (6 April 2006). "A Devonian tetrapod-like fish and the evolution of the tetrapod body plan". Nature 440 (7085): 757–763. Bibcode 2006Natur.440..757D. doi:10.1038/nature04639. PMID 16598249. https://archive.org/details/sim_nature-uk_2006-04-06_440_7085/page/757.
  53. Clack, Jennifer A. (21 November 2005). "Getting a Leg Up on Land". Scientific American 293 (6): 100–7. Bibcode 2005SciAm.293f.100C. doi:10.1038/scientificamerican1205-100. PMID 16323697.
  54. Margulis, Lynn; Schwartz, Karlene V.; Dolan, Michael (1999). Diversity of Life: The Illustrated Guide to the Five Kingdoms. Jones & Bartlett Learning. tt. 115–116. ISBN 978-0-7637-0862-7.
  55. Clarke, Andrew (2014). "The thermal limits to life on Earth". International Journal of Astrobiology 13 (2): 141–154. Bibcode 2014IJAsB..13..141C. doi:10.1017/S1473550413000438. http://nora.nerc.ac.uk/id/eprint/507274/1/Clarke.pdf.
  56. "Land animals". British Antarctic Survey. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 November 2018. Cyrchwyd 7 March 2018.
  57. 57.0 57.1 Wood, Gerald (1983). The Guinness Book of Animal Facts and Feats. Enfield, Middlesex : Guinness Superlatives. ISBN 978-0-85112-235-9.
  58. Mazzetta, Gerardo V.; Christiansen, Per; Fariña, Richard A. (2004). "Giants and Bizarres: Body Size of Some Southern South American Cretaceous Dinosaurs". Historical Biology 16 (2–4): 71–83. doi:10.1080/08912960410001715132.
  59. Fiala, Ivan (10 July 2008). "Myxozoa". Tree of Life Web Project. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 March 2018. Cyrchwyd 4 March 2018.
  60. Kaur, H.; Singh, R. (2011). "Two new species of Myxobolus (Myxozoa: Myxosporea: Bivalvulida) infecting an Indian major carp and a cat fish in wetlands of Punjab, India". Journal of Parasitic Diseases 35 (2): 169–176. doi:10.1007/s12639-011-0061-4. PMC 3235390. PMID 23024499. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3235390.
  61. 61.00 61.01 61.02 61.03 61.04 61.05 61.06 61.07 61.08 61.09 61.10 61.11 61.12 61.13 Zhang, Zhi-Qiang (2013-08-30). "Animal biodiversity: An update of classification and diversity in 2013. In: Zhang, Z.-Q. (Ed.) Animal Biodiversity: An Outline of Higher-level Classification and Survey of Taxonomic Richness (Addenda 2013)". Zootaxa 3703 (1): 5. doi:10.11646/zootaxa.3703.1.3. https://biotaxa.org/Zootaxa/article/download/zootaxa.3703.1.3/4273. Adalwyd 2 March 2018.
  62. 62.00 62.01 62.02 62.03 62.04 62.05 62.06 62.07 62.08 62.09 Balian, E. V.; Lévêque, C.; Segers, H.; Martens, K. (2008). Freshwater Animal Diversity Assessment. Springer. t. 628. ISBN 978-1-4020-8259-7.
  63. 63.00 63.01 63.02 63.03 63.04 63.05 63.06 63.07 63.08 63.09 63.10 63.11 63.12 63.13 Hogenboom, Melissa. "There are only 35 kinds of animal and most are really weird". BBC Earth. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 August 2018. Cyrchwyd 2 March 2018.
  64. 64.0 64.1 64.2 64.3 64.4 64.5 64.6 Poulin, Robert (2007). Evolutionary Ecology of Parasites. Princeton University Press. t. 6. ISBN 978-0-691-12085-0.
  65. 65.0 65.1 65.2 65.3 Felder, Darryl L.; Camp, David K. (2009). Gulf of Mexico Origin, Waters, and Biota: Biodiversity. Texas A&M University Press. t. 1111. ISBN 978-1-60344-269-5.
  66. "How many species on Earth? About 8.7 million, new estimate says". 24 August 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 July 2018. Cyrchwyd 2 March 2018.
  67. Mora, Camilo; Tittensor, Derek P.; Adl, Sina; Simpson, Alastair G.B.; Worm, Boris (2011-08-23). Mace, Georgina M.. ed. "How Many Species Are There on Earth and in the Ocean?". PLOS Biology 9 (8): e1001127. doi:10.1371/journal.pbio.1001127. PMC 3160336. PMID 21886479. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3160336.
  68. Stork, Nigel E. (January 2018). "How Many Species of Insects and Other Terrestrial Arthropods Are There on Earth?". Annual Review of Entomology 63 (1): 31–45. doi:10.1146/annurev-ento-020117-043348. PMID 28938083. Stork notes that 1m insects have been named, making much larger predicted estimates.
  69. Poore, Hugh F. (2002). "Introduction". Crustacea: Malacostraca. Zoological catalogue of Australia. 19.2A. CSIRO Publishing. tt. 1–7. ISBN 978-0-643-06901-5.
  70. Uetz, P.. "A Quarter Century of Reptile and Amphibian Databases". Herpetological Review 52: 246–255. https://www.researchgate.net/publication/352462027.
  71. 71.0 71.1 71.2 Reaka-Kudla, Marjorie L.; Wilson, Don E.; Wilson, Edward O. (1996). Biodiversity II: Understanding and Protecting Our Biological Resources. Joseph Henry Press. t. 90. ISBN 978-0-309-52075-1.
  72. Burton, Derek; Burton, Margaret (2017). Essential Fish Biology: Diversity, Structure and Function. Oxford University Press. tt. 281–282. ISBN 978-0-19-878555-2. Trichomycteridae ... includes obligate parasitic fish. Thus 17 genera from 2 subfamilies, Vandelliinae; 4 genera, 9spp. and Stegophilinae; 13 genera, 31 spp. are parasites on gills (Vandelliinae) or skin (stegophilines) of fish.
  73. 73.0 73.1 73.2 73.3 Nicol, David (June 1969). "The Number of Living Species of Molluscs". Systematic Zoology 18 (2): 251–254. doi:10.2307/2412618. JSTOR 2412618.
  74. Sluys, R. (1999). "Global diversity of land planarians (Platyhelminthes, Tricladida, Terricola): a new indicator-taxon in biodiversity and conservation studies". Biodiversity and Conservation 8 (12): 1663–1681. doi:10.1023/A:1008994925673.
  75. 75.0 75.1 Pandian, T. J. (2020). Reproduction and Development in Platyhelminthes. CRC Press. tt. 13–14. ISBN 978-1-000-05490-3.
  76. Fontaneto, Diego. "Marine Rotifers | An Unexplored World of Richness" (PDF). JMBA Global Marine Environment. tt. 4–5. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2 March 2018. Cyrchwyd 2 March 2018.
  77. Morand, Serge; Krasnov, Boris R.; Littlewood, D. Timothy J. (2015). Parasite Diversity and Diversification. Cambridge University Press. t. 44. ISBN 978-1-107-03765-6. Cyrchwyd 2 March 2018.
  78. 78.0 78.1 Bobrovskiy, Ilya; Hope, Janet M.; Ivantsov, Andrey; Nettersheim, Benjamin J.; Hallmann, Christian; Brocks, Jochen J. (20 September 2018). "Ancient steroids establish the Ediacaran fossil Dickinsonia as one of the earliest animals". Science 361 (6408): 1246–1249. Bibcode 2018Sci...361.1246B. doi:10.1126/science.aat7228. PMID 30237355. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "Bobrovskiy Hope Ivantsov Nettersheim pp. 1246–1249" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  79. Maloof, Adam C.; Rose, Catherine V.; Beach, Robert; Samuels, Bradley M.; Calmet, Claire C.; Erwin, Douglas H.; Poirier, Gerald R.; Yao, Nan et al. (17 August 2010). "Possible animal-body fossils in pre-Marinoan limestones from South Australia". Nature Geoscience 3 (9): 653–659. Bibcode 2010NatGe...3..653M. doi:10.1038/ngeo934.
  80. Shen, Bing; Dong, Lin; Xiao, Shuhai; Kowalewski, Michał (2008). "The Avalon Explosion: Evolution of Ediacara Morphospace". Science 319 (5859): 81–84. Bibcode 2008Sci...319...81S. doi:10.1126/science.1150279. PMID 18174439.
  81. Chen, Zhe; Chen, Xiang; Zhou, Chuanming; Yuan, Xunlai; Xiao, Shuhai (1 June 2018). "Late Ediacaran trackways produced by bilaterian animals with paired appendages". Science Advances 4 (6): eaao6691. Bibcode 2018SciA....4.6691C. doi:10.1126/sciadv.aao6691. PMC 5990303. PMID 29881773. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5990303.
  82. Schopf, J. William (1999). Evolution!: facts and fallacies. Academic Press. t. 7. ISBN 978-0-12-628860-5.
  83. Zimorski, Verena; Mentel, Marek; Tielens, Aloysius G. M.; Martin, William F. (2019). "Energy metabolism in anaerobic eukaryotes and Earth's late oxygenation". Free Radical Biology and Medicine 140: 279–294. doi:10.1016/j.freeradbiomed.2019.03.030. PMC 6856725. PMID 30935869. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6856725.
  84. Maloof, A. C.; Porter, S. M.; Moore, J. L.; Dudas, F. O.; Bowring, S. A.; Higgins, J. A.; Fike, D. A.; Eddy, M. P. (2010). "The earliest Cambrian record of animals and ocean geochemical change". Geological Society of America Bulletin 122 (11–12): 1731–1774. Bibcode 2010GSAB..122.1731M. doi:10.1130/B30346.1.
  85. "New Timeline for Appearances of Skeletal Animals in Fossil Record Developed by UCSB Researchers". The Regents of the University of California. 10 November 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 September 2014. Cyrchwyd 1 September 2014.
  86. Conway-Morris, Simon (2003). "The Cambrian "explosion" of metazoans and molecular biology: would Darwin be satisfied?". The International Journal of Developmental Biology 47 (7–8): 505–515. PMID 14756326. http://www.ijdb.ehu.es/web/paper.php?doi=14756326. Adalwyd 28 February 2018.
  87. "The Tree of Life". The Burgess Shale. Royal Ontario Museum. 10 June 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 February 2018. Cyrchwyd 28 February 2018.
  88. Budd, Graham E.; Jensen, Sören (2017). "The origin of the animals and a 'Savannah' hypothesis for early bilaterian evolution". Biological Reviews 92 (1): 446–473. doi:10.1111/brv.12239. PMID 26588818.
  89. Kapli, Paschalia; Telford, Maximilian J. (11 Dec 2020). "Topology-dependent asymmetry in systematic errors affects phylogenetic placement of Ctenophora and Xenacoelomorpha". Science Advances 6 (10): eabc5162. Bibcode 2020SciA....6.5162K. doi:10.1126/sciadv.abc5162. PMC 7732190. PMID 33310849. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=7732190.
  90. Giribet, Gonzalo (27 September 2016). "Genomics and the animal tree of life: conflicts and future prospects". Zoologica Scripta 45: 14–21. doi:10.1111/zsc.12215.
  91. Peterson, Kevin J.; Cotton, James A.; Gehling, James G.; Pisani, Davide (27 April 2008). "The Ediacaran emergence of bilaterians: congruence between the genetic and the geological fossil records". Philosophical Transactions of the Royal Society of London B: Biological Sciences 363 (1496): 1435–1443. doi:10.1098/rstb.2007.2233. PMC 2614224. PMID 18192191. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2614224.
  92. Parfrey, Laura Wegener; Lahr, Daniel J. G.; Knoll, Andrew H.; Katz, Laura A. (16 August 2011). "Estimating the timing of early eukaryotic diversification with multigene molecular clocks". Proceedings of the National Academy of Sciences 108 (33): 13624–13629. Bibcode 2011PNAS..10813624P. doi:10.1073/pnas.1110633108. PMC 3158185. PMID 21810989. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3158185.
  93. "Raising the Standard in Fossil Calibration". Fossil Calibration Database. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 March 2018. Cyrchwyd 3 March 2018.
  94. Laumer, Christopher E.; Gruber-Vodicka, Harald; Hadfield, Michael G.; Pearse, Vicki B.; Riesgo, Ana; Marioni, John C.; Giribet, Gonzalo (2018). "Support for a clade of Placozoa and Cnidaria in genes with minimal compositional bias". eLife 2018;7: e36278. doi:10.7554/eLife.36278. PMC 6277202. PMID 30373720. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6277202.
  95. Adl, Sina M.; Bass, David; Lane, Christopher E.; Lukeš, Julius; Schoch, Conrad L.; Smirnov, Alexey; Agatha, Sabine; Berney, Cedric et al. (2018). "Revisions to the Classification, Nomenclature, and Diversity of Eukaryotes". Journal of Eukaryotic Microbiology 66 (1): 4–119. doi:10.1111/jeu.12691. PMC 6492006. PMID 30257078. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6492006.
  96. Bhamrah, H. S.; Juneja, Kavita (2003). An Introduction to Porifera. Anmol Publications. t. 58. ISBN 978-81-261-0675-2.
  97. Sumich, James L. (2008). Laboratory and Field Investigations in Marine Life. Jones & Bartlett Learning. t. 67. ISBN 978-0-7637-5730-4.
  98. Jessop, Nancy Meyer (1970). Biosphere; a study of life. Prentice-Hall. t. 428.
  99. Sharma, N. S. (2005). Continuity And Evolution Of Animals. Mittal Publications. t. 106. ISBN 978-81-8293-018-6.
  100. Minelli, Alessandro (2009). Perspectives in Animal Phylogeny and Evolution. Oxford University Press. t. 53. ISBN 978-0-19-856620-5.
  101. Brusca, Richard C. (2016). Introduction to the Bilateria and the Phylum Xenacoelomorpha | Triploblasty and Bilateral Symmetry Provide New Avenues for Animal Radiation (PDF). Sinauer Associates. tt. 345–372. ISBN 978-1-60535-375-3. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2019-04-24. Cyrchwyd 4 March 2018.
  102. Telford, Maximilian J. (2008). "Resolving Animal Phylogeny: A Sledgehammer for a Tough Nut?". Developmental Cell 14 (4): 457–459. doi:10.1016/j.devcel.2008.03.016. PMID 18410719.
  103. Philippe, H.; Brinkmann, H.; Copley, R.R.; Moroz, L. L.; Nakano, H.; Poustka, A.J.; Wallberg, A.; Peterson, K. J. et al. (2011). "Acoelomorph flatworms are deuterostomes related to Xenoturbella". Nature 470 (7333): 255–258. Bibcode 2011Natur.470..255P. doi:10.1038/nature09676. PMC 4025995. PMID 21307940. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4025995.
  104. Perseke, M.; Hankeln, T.; Weich, B.; Fritzsch, G.; Stadler, P.F.; Israelsson, O.; Bernhard, D.; Schlegel, M. (August 2007). "The mitochondrial DNA of Xenoturbella bocki: genomic architecture and phylogenetic analysis". Theory Biosci 126 (1): 35–42. doi:10.1007/s12064-007-0007-7. PMID 18087755. http://www.bioinf.uni-leipzig.de/Publications/PREPRINTS/07-009.pdf. Adalwyd 4 March 2018.
  105. Cannon, Johanna T.; Vellutini, Bruno C.; Smith III, Julian.; Ronquist, Frederik; Jondelius, Ulf; Hejnol, Andreas (3 February 2016). "Xenacoelomorpha is the sister group to Nephrozoa". Nature 530 (7588): 89–93. Bibcode 2016Natur.530...89C. doi:10.1038/nature16520. PMID 26842059. http://urn.kb.se/resolve?urn=urn:nbn:se:nrm:diva-1844.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am anifail
yn Wiciadur.