Cwrel

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cwrell
Pillar coral, Dendrogyra cylindricus
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Cnidaria
Dosbarth: Anthozoa
Ehrenberg, 1831
Urddau ac Is-ddorbarthiadau

Octocorallia [1]
 Alcyonacea
 Helioporacea
 Pennatulacea
Hexacorallia [2]
 Actiniaria
 Antipatharia
 Corallimorpharia
 Scleractinia
 Zoantharia

Infertebratau morol yn y Dosbarth Anthozoa o ffylwm Cnidaria. Fel arfer mae nhw'n byw mewn cytrefi, gyda phob unigolyn yn goiau perffaith o'i gilydd, a elwir yn 'polyps', sy'n ddim mwy nag ychydig genitmetrau ac sy'n debyg i sach bychan o ran ei siap. Mae'r grŵp yn cynnwys adeiladwyr y riff cwrel a geir yng nghefnforoedd y trofannau, sy'n secretu (neu'n 'poeri') calsiwm carbonad sy'n caledu'n ysgerbwd. Mae gan y cwrel hwn dentaclau o gwmpas ei geg.

Dros genedlaethau lawer, mae'r cytrefi hyn yn ffurfio'n un ysgerbwd mawr, ac mae hyn yn nodweddiadol o'r rhywogaeth hon. Creir y pennau bychan drwy i'r polyps atgynhyrchu mewn modd anrhywiol. Mae cwrel hefyd yn atgynhyrchu mewn modd rhywiol drwy silio (spawn): mae polyps o'r un rhyw yn gollwng gametau ar yr un pryd dros gyfnod o tua 24 awr, pan fo'r lleuad yn llawn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]