Aderyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Adar
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Cytras: Avemetatarsalia
Cytras: Ornithurae
Dosbarth: Aves
Linnaeus, 1758
Urddau
Cyfystyron
  • Neornithes Gadow, 1883

Anifail asgwrn-cefn gydag adenydd, pig, plu, dwy goes a gwaed cynnes yw aderyn (lluosog adar). Mae bron pob aderyn yn gallu hedfan, mae adar na allant hedfan yn cynnwys yr estrys, y ciwi a'r pengwiniaid. Ceir mwy na 10,400 o rywogaethau o adar.[1] Maen nhw'n byw mewn llawer o gynefinoedd gwahanol ledled y byd. Adareg (neu Adaryddiaeth) yw astudiaeth adar.

Anatomi[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae strwythur adar wedi addasu ar gyfer hediad. Mae eu coesau blaen wedi newid i adenydd. Mae gan adar big ysgafn heb ddannedd ac mae codennau aer tu fewn i'w hesgwrn.

Atgenhedliad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae adar yn dodwy wyau gyda phlisgyn caled. Mae'r rhan fwyaf o adar yn adeiladu nyth lle maen nhw'n deor eu hwyau. Mae rhai adar yn cael eu geni'n ddall a noeth. Mae adar eraill yn gallu gofalu am eu hunain bron ar unwaith.

Mudiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Aderyn mudol

Mae llawer o rywogaethau yn mudo er mwyn dianc rhag tywydd oer. Mae miliynau o adar sy'n nythu yn Hemisffer y Gogledd yn mudo i'r de. Mae rhai adar Hemisffer y De yn mudo i'r gogledd. Mae Morwennol y Gogledd yn hedfan ymhellach na unrhyw aderyn arall o'r Arctig i'r Antarctig.

Esblygiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Esblygodd adar o ddeinosoriaid o'r urdd Therapoda, mae'n debyg. Archaeopteryx yw'r adar ffosilaidd henaf. Roedd e'n byw tua 150 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Adar a dyn[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae adar yn ffynhonnell bwysig o fwyd i bobl. Mae rhai adar fel yr iâr a'r twrci wedi eu ffermio ar gyfer eu cig neu wyau. Anifeiliaid anwes poblogaidd yw rhai adar e.e. y byji a'r caneri.

Mae llawer o adar wedi eu peryglu oherwydd hela a dinistr amgylcheddol. Mae elusennau fel Cymdeithas Audubon yn yr Unol Daleithiau a’r RSPB yn y DU yn ymgyrchu dros amddiffyniad adar.

Mewn llenyddiaeth Gymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Y cyntaf i gofnodi rhai o'r adar a welodd ar ei deithiau oedd Gerallt Gymro. Nid oedd ganddo ryw lawer o ddiddordeb ynddynt ond mae rhai o'r sylwadau'n ddigon diddorol, serch hynny, e.e.

"Clywir yn y coed cyfagos chwibaniad pereiddlais aderyn bach, y dywedodd rhai mai cnocell y coed ydoedd, ond eraill, yn fwy cywir, mai peneuryn. Cnocell y coed y gelwir yr aderyn bach, yr hwn a alwyd pic yn yr iaith Ffrangeg, a dylla'r dderwen â'i ylfin cryf . . A pheneuryn y gelwir aderyn bach hynod am ei liw euraid a melyn, a ddyry, yn ei dymor priodol, yn lle cân, chwibaniad melys; ac oddi wrth ei liw euraid y derbyniodd ei enw, peneuryn."[2]

Mae'n debygol iawn mai'r euryn (golden oriole) oedd yr aderyn a glywodd Gerallt neu, fel y tybiai ei gyfeillion, cnocell werdd?

Un o gerddi mwya'r Gymraeg ydy cywydd i'r "Alarch" gan Dafydd ap Gwilym. Ceir hefyd nifer o hen benillion sy'n sôn am adar:

Gwyn eu byd yr adar gwylltion,
Hwy gânt fynd i'r fan a fynnon',
Weithiau i'r môr ac weithiau i'r mynydd,
A dod adref yn ddigerydd.

Yn y Mabinogi fe drowyd Blodeuwedd yn dylluan am gamfihafio.

Dosbarthiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Aves

Palaeognathae (paleognaths) Cayley Casuarius casuarius flipped.jpg


Neognathae

Galloanserae

Galliformes Red Junglefowl by George Edward Lodge white background.png



Anseriformes Cuvier-97-Canard colvert.jpg



Neoaves

Strisores Haaksnavelkolibrie.jpg



Columbaves
Otidimorphae

Musophagiformes Planches enluminées d'histoire naturelle (1765) (Tauraco persa).jpg




Otidiformes Cayley Ardeotis australis flipped.jpg



Cuculiformes British birds in their haunts (Cuculus canorus).jpg




Columbimorphae

Columbiformes Meyers grosses Konversations-Lexikon - ein Nachschlagewerk des allgemeinen Wissens (1908) (Antwerpener Breiftaube).jpg




Mesitornithiformes Monias benschi 1912 white background.jpg



Pteroclidiformes Pterocles quadricinctus white background.jpg







Gruiformes Cuvier-72-Grue cendrée.jpg



Aequorlitornithes

Mirandornithes

Phoenicopteriformes Cuvier-87-Flamant rouge.jpg



Podicipediformes Podiceps cristatus Naumann white background.jpg




Charadriiformes D'Orbigny-Mouette rieuse et Bec-en-ciseaux white background.jpg




Eurypygimorphae

Phaethontiformes Cuvier-95-Phaeton à bec rouge.jpg



Eurypygiformes Cuvier-72-Caurale soleil.jpg




Aequornithes Cuvier-90-Manchot du Cap.jpg




Inopinaves

Opisthocomiformes Cuvier-59-Hoazin huppé.jpg


Telluraves
Afroaves
Accipitrimorphae

Cathartiformes Vintage Vulture Drawing white background.jpg



Accipitriformes Golden Eagle Illustration white background.jpg





Strigiformes Cuvier-12-Hibou à huppe courte.jpg


Coraciimorphae

Coliidae


Eucavitaves

Leptosomatiformes


Cavitaves

Trogoniformes Harpactes fasciatus 1838 white background.jpg


Picocoraciae

Bucerotiformes A monograph of the Bucerotidæ, or family of the hornbills (Plate II) (white background).jpg




Coraciformes Cuvier-46-Martin-pêcheur d'Europe.jpg



Piciformes Atlante ornitologico (Tav. 26) (picchio verde).jpg









Australaves

Cariamiformes Cariama cristata 1838 white background.jpg


Eufalconimorphae

Falconiformes NewZealandFalconBuller white background.jpg


Psittacopasserae

Psittaciformes Pyrrhura lucianii - Castelnau 2.jpg



Passeriformes Cuvier-33-Moineau domestique.jpg














Urddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Palaeognathae[golygu | golygu cod y dudalen]

Neognathae[golygu | golygu cod y dudalen]

Galloanserae

Neoaves

Teuluoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2016 roedd 174 o deuluoedd (a grwpiau tebyg o adar):

Teuluoedd

Adar AsgelldroedAdar DailAdar DeildyAdar DreingwtAdar DrudwyAdar FfrigadAdar GwrychogAdar HaulAdar MorgrugAdar OlewAdar ParadwysAdar PobtyAdar TagellogAdar TelynAdar TomenAdar TrofannolAdar y CwilsAlbatrosiaidApostolionAsitïodBarbedauBrainBrain MoelBreisionBrenhinoeddBrychionBwlbwliaidCagwodCarfilodCasowarïaidCeiliogod y WaunCeinddrywodChwibanwyrCiconiaidCiconiaid Pig EsgidCigfachwyrCigyddionCiwïodCnocellodCoblynnodCoblynnod CoedCocatwodCogauCog-GigyddionColïodColomennodCopogionCopogion CoedCornbigauCorsoflieirCotingaodCrehyrodCrehyrod yr HaulCropwyrCrwydriaid y MalîCwrasowiaidCwroliaidCwtiaidCwyrbigau

SeriemaidCynffonau SidanDelorion CnauDreinbigauDringhedyddionDringwyr CoedDringwyr y PhilipinauDrongoaidDrywodDrywod Seland NewyddEhedyddionEmiwiaidEryrodEstrysiaidEurynnodFangáidFfesantodFflamingosFireodFwlturiaid y Byd NewyddGarannodGiachod AmryliwGïachod yr Hadau

GolfanodGwanwyrGwatwarwyrGweilch PysgodGweinbigauGwenoliaidGwenynysorionGwyachodGwybed-DdaliwyrGwybedogionGwybedysyddionGwylanodGylfindroeonHebogiaidHelyddion CoedHercwyrHirgoesauHirgoesau CrymanbigHoatsiniaidHuganodHwyaidIbisiaidIeir y DiffeithwchJacamarodJasanaodLlwydiaidLlydanbigauLlygadwynionLlygaid-DagellLlysdorwyrLorïaidManacinodMeinbigauMel-Gogau

Mêl-Gropwyr HawaiiMelysorionMesîtauMotmotiaidMulfrainParotiaidPedrynnodPedrynnodPedrynnod PlymioPelicanodPengwiniaidPennau MorthwylPibyddionPigwyr BlodauPincodPiod MôrPitaodPotwaidPreblynnodPrysgadarPysgotwyrRheaodRhedwyrRhedwyrRhedwyr y CrancodRhegennodRhesogion y PalmwyddRholyddionRholyddion DaearRobinod Awstralia

SeriemaidSgimwyrSgiwennodSgrechwyrSïednodSiglennodTapacwlosTeloriaidTelorion y Byd NewyddTeyrn-WybedogionTinamwaidTitwodTitwod CynffonhirTitwod PendilTodiaidTresglodTrochwyrTrochyddionTroellwyrTroellwyr LlydanbigTrogoniaidTrympedwyrTwcaniaidTwinc BananaTwracoaidTylluan-DroellwyrTylluanodTylluanod Gwynion

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Gill, F. & D. Donsker (goln.) (2012). IOC World Bird List, Version 3.1. Adalwyd ar 10 Mai 2012.
  2. Y Casglwr; adalwyd 27 Ebrill 2014.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Internet Archive: Adareg Canolfan Edward Llwyd, Prifysgol Cymru
  • RSPB Cymru
  • (Saesneg) Avionary Enwau adar WP mewn 41 o ieithoedd
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am aderyn
yn Wiciadur.