Avemetatarsalia

Oddi ar Wicipedia
Scleromochlus BW.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynoltacson Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonarchosaur Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Clocwedd o'r chwith i'r dde, ac o'r brig:
Tupuxuara leonardi (a pterosaur),
Alamosaurus sanjuanensis, (sauropod),
Tsintaosaurus spinorhinus (ornithopod),
Daspletosaurus torosus (tyrannosawrws),
Pentaceratops sternbergii (ceratopsian),
a'r Garan cyffredin (aderyn).

Mewn tacsonomeg, cytras o anifeiliaid yw Avemetatarsalia (Lladin: "aderyn" a "metatarsals") a grewyd gan y paleontolegydd Michael J. Benton yn 1999 i ddisgrifio grŵp o archosawrws sy'n nes at aderyn nag at grocodeilod.[1] Mae'n cynnwys is-grŵp arall hynod o debyg o'r enw Ornithodira. Enw amgen amdano yw Pan-Aves, neu'r "holl adar".

Mae aelodau'r grŵp hwn yn cynnwys y Dinosauromorpha, y Pterosauromorpha, a'r genws Scleromochlus.

Mae'r Dinosauromorpha yn cynnwys y ffurfiau y Lagerpeton a'r Marasuchus, yn ogystal â rhywogaethau a darddodd o'r rhain e.e. y dinosawriaid. Mae'r grŵp adar, yn ôl y rha fwyaf o wyddonwyr, yn perthyn i'r 'Marasuchus, fel aelodau o'r theropodau. Mae'r Pterosauromorpha hefyd yn cynnwys y Pterosauria, sef yr anifail asgwrn cefn cyntaf i fedru hedfa.

Cladogram Nesbitt (2011):

Avemetatarsalia 
Ornithodira 

Pterosauromorpha (=Pterosauria) Anhanguera skeleton white background.JPG


 Dinosauromorpha 

Lagerpetonidae


 Dinosauriformes 

Marasuchus Marasuchus white background.JPG




Silesauridae


 Dinosauria 

Ornithischia Triceratops Skeleton Senckenberg 2 White Background.jpg


 Saurischia 

Theropoda Staurikosaurus pricei white background.jpg



Sauropodomorpha MUJA-Sauropod white background.JPG









Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Michael J. Benton (2004). "Origin and relationships of Dinosauria". In David B. Weishampel; Peter Dodson; Halszka Osmólska (Hrsg.) (gol.). The Dinosauria. Berkeley: Zweite Auflage, University of California Press. tt. 7–19. ISBN 0-520-24209-2.