Genws

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lefelau dosbarthiad biolegol Rhywogaeth Genws Teulu Urdd Dosbarth Ffylwm Teyrnas Parth Bywyd

Magnify-clip.png
Y prif rengoedd mewn dosbarthiad biolegol.

Rheng tacson yw genws (lluosog: genera, genysau) neu dylwyth a ddefnyddir i ddosbarthu'n wyddonol organebau byw (anifeiliaid, planhigion ayb). Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ffosiliau ac organebau a ddifodwyd o fewn bywydeg.

Yn hierarchaeth y dosbarthu, mae genws yn uwch na rhywogaeth ac yn is na theulu. O ran enwau deuol, mae genws yn ffurfio rhan gyntaf enw'r rhywogaeth e.e. mae Felis catus a Felis silvestris yn ddwy rywogaeth wahanol o fewn y genws Felis. Mae Felis, felly'n genws o fewn y teulu Felidae.

Mae'r union ddosbarthiad yn cael ei benderfynu gan dacsonomegwyr. Nid yw'r dosbarthiadau hyn wedi'u naddu mewn gwenithfaen, ac mae awdurdodau gwahanol yn aml yn nodi dosbarthiad gwahanol ar gyfer y genera. Ceir canllawiau ymarferol, fodd bynnag, er mwyn cysoni'r gwaith,[1] gan gynnwys y cysyniad y dylai unrhyw genws newydd fod yn driw i'r tri maen prawf canlynol:

  1. monophyly – rhoddir holl ddisgynyddion tacson mewn un grŵp[2]
  2. cywasgu rhesymol - ni ddylid ehangu'r genws yn ddiangen
  3. eglureder - fel arfer, yng nghyd-destun meini prawf sy'n ymwneud ag esblygiad, e.e. ecoleg, morffoleg neu bioddaearyddiaeth, ystyrir 'dilyniant y DNA' yn "ganlyniad" yn hytrach nag yn "gyflwr" llinellau newydd sy'n esblygu.[3]

Geirdarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

O'r Lladin y daw'r term genws ("ffynhonnell; math; grŵp; cenedl"),[4], enw sy'n gytras â gignere ("beichiogi; geni"). Linnaeus a wnaeth y gair yn boblogaidd, a hynny yn 1753 pan gyhoeddodd Species Plantarum, ond ystyrir y botanegydd Joseph Pitton de Tournefort (1656–1708) fel sylfaenydd y cysyniad modern o genera.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gill, F. B.; Slikas, B.; Sheldon, F. H. (2005). "Phylogeny of titmice (Paridae): II. Species relationships based on sequences of the mitochondrial cytochrome-b gene". Auk 122 (1): 121–143. doi:10.1642/0004-8038(2005)122[0121:POTPIS]2.0.CO;2.
  2. De la Maza-Benignos, M. , Lozano-Vilano, M.L., & García-Ramírez, M. E. (2015). Response paper: Morphometric article by Mejía et al. 2015 alluding genera Herichthys and Nosferatu displays serious inconsistencies. Neotropical Ichthyology, 13(4), 673-676.http://www.scielo.br/scielo.php?pid=S1679-62252015000400673&script=sci_arttext
  3. De la Maza-Benignos, M., Lozano-Vilano, M. L., & García-Ramírez, M. E. (2015). Response paper: Morphometric article by Mejía et al. 2015 alluding genera Herichthys and Nosferatu displays serious inconsistencies. Neotropical Ichthyology, 13(4), 673-676.http://www.scielo.br/scielo.php?pid=S1679-62252015000400673&script=sci_arttext
  4. Merriam Webster Dictionary
  5. Stuessy, T. F. (2009). Plant Taxonomy: The Systematic Evaluation of Comparative Data (2nd ed.). New York: Columbia University Press. p. 42. ISBN 9780231147125.