Deinosor

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Deinosoriaid
Amrediad amseryddol: Triasig Canol - Diweddar, 231.4–0 Miliwn o fl. CP
Tyrannosaurus rex
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Reptilia
Is-ddosbarth: Diapsida
Ddim wedi'i restru: Archosauria
Uwchurdd: Dinosauria
Owen, 1843
Prif grwpiau

Ornithischia

Saurischia

Ymlusgiaid sydd wedi darfod o'r tir, rhai ohonynt yn meddianu corff enfawr, yw deinosoriaid. Roedd y deinosoriaid cyntaf yn byw tua 210 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ond amryfalasant yn gyflym ar ôl y cyfnod Triasig. Roeddent yn fwyaf niferus yn ystod y cyfnodau Jwrasig (ee Stegosaurus) a Chretasaidd, ond wedi'r cyfnod Cretasaidd diflanodd pob rywogaeth ohonynt, heblaw am y rheini a ddatblygodd i fod yn adar, yn ystod y Difodiant Cretasaidd-Paleogen tua 65 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Defnyddiodd Richard Owen, gwyddonydd a hanai o Gymru, y gair Dinosauria yn gyntaf ym mlwyddyn 1842. Mae'r gair hwn yn gyfuniad o'r geiriau Groegaidd deinos ("ofnadwy" neu "arswydus") a sauros ("genau-goeg" neu "ymlusgiad"). Enwyd un rhywogaeth ar ôl Richard Owen, tad y deinosoriaid, sef yr Owenodon.

Deinosoriaid yng Nghymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Deinosoriaid yng Nghymru

Ar wahân i Richard Owen, ceir llawer o baleontolegwyr eraill yng Nghymru a ystyrir o bwys mawr, gan gynnwys Dorothea Bate a aned yn Sir Gaerfyrddin, y ferch gyntaf i weithio yn Natural History Museum, Llundain.

Dim ond mewn creigiau a gafwyd eu ffurfio yn y cyfnodau Triasig a'r Jurasig y ceir olion deinororiaid, ac mae'r rhan fwyaf o greigiau drwy Gymru yn llawer hŷn na hynnny ac felly wedi eu ffurfio cyn oes y Deinosoriaid. Ond fe'i ceir mewn un rhan yn y de - rhwng Porthcawl a Phenarth, ond prin iawn ydy'r olion:

  • Ichthyosauriaid yn bennaf. Mae ffosiliau o'r rhain wedi'u ffurfio pan syrthion nhw i'r môr, neu'r traeth a'u gorchuddio gan dywod yn eitha sydyn, cyn iddyn nhw gael eu bwyta. Roedd gan yr ichthyosaur gorff tebyg i ddolffin a dannedd miniog i ddal a llarpio cig.
  • Dracoraptor hanigani - canfuwyd ei ffosiliau ar draeth Larnog (Lavernock) gan Nick a Rob Hanigan, o Lanilltud Fawr yng ngwanwyn 2014. Y penglog ddaeth gyntaf ac yna esgyrn eraill. Galwyd ef yn "Dracoraptor " (draig-leidr). Roedd yn 2.2tr o daldra a 6.5 tr o'i ben i'w gynffon. Canfuwyd 40% o esgyrn yr anifail. Mae'n deillio o ddechrau'r cyfnod Jwrasig, pan oedd yr hinsawdd yn yr ardal yma yn llawer cynesach nag yw e heddiw.
  • Pantydraco - a alwyd ar ôl chwarel leol. Mae tua'r un maint ag oedolyn o ran ei daldra, ond yn dair metr o'i sowdwl i ben ei gynffon, gyda phen fel draig a gên cryf iawn. Canfuwyd Pantydraco ym Mhant-y-ffynnon - chwarel ger y Bont-faen; o'r 'Pant' y daeth yr enw a 'drac' unwaith eto, sef y Lladin am 'ddraig'.
  • Clevosaurus cambrica - er nad yw'n dechnegol yn ddeinosor, byddai'r anifail hwn wedi cydfyw gyda'r deinosoriaid, yn wir, yr un pryd a'r Pantydraco. Fe'i canfuwyd gan fyfyriwr o Brifysgol Bryste Emily Keeble tra'n astudio ffosiliau a oedd wedi'u canfod yn y 1950au ar gyfer ei chwrs ar balaeontoleg. Roedd y ffosiliau wedi eu canfod yn yr un chwarel, sef Pant-y-ffynnon, ac yn rhywogaeth newydd a berthynai'n agos i'r Clevosaurus (neu'r "Gloucester lizard").
Map o'r wyth lleoliad yng Nghymru lle cafwyd hyd i ffosiliau deinosoriaid (hyd at 2018).

Mae'r darganfyddiadau hyn o bwysigrwydd bydeang, nid oherwydd y nifer, ond gan fod y darganfyddiadau'n eitha cyflawn, ymlusgiaid wedi'u cadw a'u prisyrfio yn dda. Anifeiliaid bychan ydyn nhw i gyd, a gellir eu dychmygu'n ceisio dianc oddi wrth rai mwy.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. walesonline.co.uk; adalwyd 18 Ebrill 2018.