Colomen

Oddi ar Wicipedia
Colomennod
Ysguthan (Columba palumbus)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Columbiformes
Latham, 1790
Teulu: Columbidae
Illiger, 1811
Genera

Gweler y rhestr

Teulu o golomennod yw'r Columbidae, sy'n cynnwys y sguthan, y golomen wyllt a'r durtur. Dyma'r unig deulu yn urdd y Columbiformes. Mae'r rhain yn adar cryf eu corff gyda gwddf byr a phigau main, byr. Fel y twrci, y dylluan a'r parot mae gan rhai o aelodau'r teulu yma gwyrbilen ar waelod eu pigau. Gan fwyaf, mae'r golomen yn bwydo ar hadau, ffrwythau a phlanhigion. Mae'r teulu i'w gael ledled y byd, ond mae'r amrywiaeth fwyaf yn y byd yn Indomalayan (ar draws y rhan fwyaf o Dde a De-ddwyrain Asia ac i rannau deheuol Dwyrain Asia) ac Awstralasia. Mae'r teulu'n cynnwys tua 335 o rywogaethau.[1] Maen nhw'n codi nyth syml o ffyn, lle maen nhw'n dodwy un neu ddau ŵy gwyn. Mae'r rhieni'n cynhyrchu math o "laeth" ar gyfer eu cywion nhw.

Hadau a ffrwyth yw bwyd y rhan fwyaf o golomenod a gellir rhannu'r teulu'n ddau. Gall un math o golomenod sy'n perthyn i'r Colomennod Ffrwyth Atol fwyta pryfaid a phryfaid genwair a gwybed.[2]

Mae'n symbol rhyngwladol a Christnogol o heddwch ac o ran geirdarddiad, mae'n fenthyciad o'r Lladin columba gair a ddaeth i ynysoedd Prydain gan y Rhufeiniaid, fwy na thebyg.

Mae'r teulu wedi'u rhannu'n 50 genera gyda 13 rhywogaeth wedi difodi.[3]

Yn Saesneg, mae'r rhywogaethau llai yn dueddol o gael eu galw'n "doves" a'r rhai mwy yn "pidgeons".[4] Fodd bynnag, nid yw'r gwahaniaeth yn gyson,[4] ac nid yw'n bodoli mewn unrhyw iaith arall, gan gynnwys y Gymraeg. Yr aderyn y cyfeirir ato amlaf fel "colomen" yw'r golomen ddof (Columba livia domestica), istrywogaeth, a'r aderyn cyntaf i gael ei dofi a'i chadw er mwyn ei chig a'i hwyau, ac sy'n cael ei hadnabod mewn llawer o ddinasoedd fel y golomen wyllt (hefyd Columba livia domestica). Ond mae colomen wyllt hefyd yn enw ar rywogaeth o golomennod, sef y (Columba oenas).

Nyth digon tila mae'r golomen yn ei hadeiladu fel arfer, yn aml gan ddefnyddio ffyn a malurion eraill, y gellir eu gosod ar ganghennau coed, ar silff o ryw fath, neu ar y ddaear, yn dibynnu ar y rhywogaeth. Maent yn dodwy un neu (fel arfer) ddau wy gwyn ar y tro, ac mae'r ddau riant yn gofalu am y cywion, sy'n gadael y nyth ar ôl 25-32 diwrnod. Gall colomennod hedfan erbyn y maent yn 5 wythnos oed. Mae an y cywion hyn, leisiau gwichlyd anaeddfed ond yn wahanol i'r rhan fwyaf o adar, gall colomennod o'r ddau ryw gynhyrchu "llaeth cropa" i'w fwydo i'w cywion, wedi'i secretu gan lif o gelloedd llawn hylif o leinin y cropa (neu crombil).

Tarddiad ac esblygiad[golygu | golygu cod]




Columbiformes



Cuculiformes





Pterocliformes



Mesitornithiformes




Phylogentic relationship of Columbiformes in the Neoaves clade[5]

Columbiformes yw un o'r cladau mwyaf amrywiol o neoafiaid, ac mae ei wreiddiau yn y cyfnod Cretasaidd[6] ac yn ganlyniad arallgyfeirio cyflym ar ddiwedd ffin K-Pg.[7] Dadansoddwyd y genom cyfan yn y 2010au, a darganfyddwyd bod gan y columbiformes gysylltiad agos â'r gog (Cuculiformes), gan ffurfio grŵp sy'n chwaer gytras i grŵp y grugieir (Pterocliformes) a'r mesitiaid (Mesitornithiformes).[8][9]

Tacsonomeg a systemateg[golygu | golygu cod]

Cyflwynwyd yr enw 'Columbidae' i'r teulu gan y sŵolegydd o Loegr William Elford Leach mewn canllaw i gynnwys yr Amgueddfa Brydeinig a gyhoeddwyd yn 1820.[10][11] Columbidae yw'r unig deulu byw yn y drefn Columbiformes. Roedd y grugieir tywod (Pteroclidae) yn cael eu gosod yma gynt, ond fe'u symudwyd i urdd ar wahân, sef Pterocliformes, oherwydd gwahaniaethau anatomegol sylfaenol (fel yr anallu i yfed trwy "sugno" neu "bwmpio").[12]

Rhennir y Columbidae fel arfer yn bum is-deulu, yn anghywir yn ôl pob tebyg.[13] Er enghraifft, mae'r colomennod daear a sofliar Americanaidd (Geotrygon), sydd fel arfer yn cael eu gosod yn y Columbinae, yn ymddangos mewn dau is-deulu ar wahân.[a] Mae'r drefn a gyflwynir yma yn dilyn Baptista et al. (1997),[14] gydag ambell ddiweddariad.[15][16][17]

Mae trefniant genera ac enwi is-deuluoedd mewn rhai achosion yn amodol oherwydd bod dadansoddiadau o ddilyniannau DNA gwahanol yn rhoi canlyniadau sy'n wahanol, yn aml yn radical, wrth leoli rhai genera (Indo-Awstralia yn bennaf).  Mae'n ymddangos bod yr amwysedd hwn, a achosir yn ôl pob tebyg gan 'atyniad cangen hir', yn cadarnhau bod y colomennod cyntaf wedi datblygu yn Awstralasia, a bod y "Treronidae" a'r ffurfiau perthynol (colomennod coronog a'r golomen ffesant, er enghraifft) yn cynrychioli tarddiad cynharaf y grwp. 

Cyn hynny roedd y teulu Columbidae hefyd yn cynnwys y teulu Raphidae, a oedd yn cynnwys y Rodrigues solitaire diflanedig a'r dodo.[18][19][20] Mae'r rhywogaethau hyn yn ôl pob tebyg yn rhan o gangen Indo-Awstralia a gynhyrchodd y tri is-deulu bach a grybwyllir uchod, gyda'r colomennod ffrwythau ee colomen Nicobar. Felly, cânt eu cynnwys yma fel is-deulu Raphinae, tra'n aros am dystiolaeth berthnasol, well o'u hunion berthynas.[21]

Gan waethygu'r materion hyn, nid yw'r columbiaid yn cael eu cynrychioli'n dda yn y cofnod ffosil.[22] Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw ffurfiau gwirioneddol gyntefig hyd yn hyn. Mae'r genws Gerandia wedi'i ddisgrifio o ddyddodion Mïosen Cynnar yn Ffrainc, ond er y credid ers tro ei fod yn golomen,[23] fe'i hystyrir bellach yn grugiar dywod (y Pteroclidae).[24] Darganfuwyd rhanau o golomennod "ptilinopine" y cyfnod Mïosen Cynnar mae'n debyg yn Ffurfiant Bannockburn yn Seland Newydd ac fe'i disgrifiwyd fel Rupephaps.[24][25][26]

Colomen y graig (Columba livia ) yn hedfan
Dwy golomen y graig yn paru

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Maint ac ymddangosiad[golygu | golygu cod]

Mae colomennod yn amrywio'n sylweddol o ran maint, yn amrywio o ran hyd, sef rhwng15 a 75 cm (5.9 i 29.5 mod), ac mewn pwysau o 30 gm i dros 2,000 gm.[27] Y rhywogaeth fwyaf yw'r golomen goronog o Gini Newydd,[28] sydd bron yr un maint a thwrci, ac yn pwyso 2-4 km (4.4-8.8 pwys).[29] Y lleiaf o'r colomennod yw colomen ddaear y Byd Newydd o'r genws Columbina, sydd yr un maint ag aderyn y to, ac yn pwyso cyn lleied â 22 gram (0.049 pwys).[30] Y turtur ffrwythau fechan, a all fesur cyn lleied â 13 cm yw'r lleiaf o'r teulu hwn.Gwall cyfeirio: Mae tag clo </ref> ar goll ar gyfer y tag <ref>

Anatomeg a ffisioleg[golygu | golygu cod]

Yn gyffredinol, nodweddir anatomeg aelodau o'r teulu Columbidae gan goesau byr, pigau byr gyda chwyrbilen (cere), a phennau bach ar gyrff gymharol fawr.[31] Fel rhai adar eraill, nid oes gan y Columbidae goden fustl.[32] Daeth rhai naturiaethwyr canoloesol i’r casgliadfod hyn yn egluro natur felys cig y golomen.[33] Mewn gwirionedd, fodd bynnag, mae ganddynt fustl (fel y sylweddolodd Aristotle yn gynharach), sy'n cael ei secretu'n uniongyrchol i'r perfedd.[34]

Mae turtur dorchog (Streptopelia decaocto) yn glanio ac yn arddangos plu hedfan ei hadenydd agored

Mae'r adenydd yn fawr, a cheir 11 prif bluen;[35] mae gan golomennod gyhyrau cryf yn eu hadenydd (cyhyrau adenydd yw 31–44% o bwysau eu cyrff [36]) ac maen nhw ymhlith yr hedfanwyr cryfaf o'r holl adar.[35]

Mewn cyfres o arbrofion yn 1975 gan Dr. Mark B. Friedman, gan ddefnyddio colomennod, dangoswyd bod eu pen yn pendilio lan a lawr oherwydd eu hawydd naturiol i gadw eu golwg ar rywbeth yn gyson.[37] Fe'i dangoswyd eto mewn arbrawf yn 1978 gan Dr. Barrie J. Frost, ar felin redeg, lle sylwyd nad oeddent yn pendilio eu pennau, gan fod eu hamgylchoedd yn gyson.[38]

Plu[golygu | golygu cod]

Mae gan aelodau o deulu'r Columbidae blu unigryw ar eu cyrff, gyda'r coesyn yn gyffredinol eang, cryf, a gwastad, yn lleihau'n raddol i bwynt main.[39] Yn gyffredinol, mae'r adbluen (aftershaft) yn absennol; fodd bynnag, efallai y ceir rhai bach ar rai plu cynffon ac adain.[40] Mae gan blu'r corff waelodion trwchus iawn, sy'n cysylltu'n rhydd â'r croen ac yn disgyn yn hawdd,[41] o bosibl er mwyn osgoi ysglyfaethwyr,[42] mae niferoedd mawr o blu yn cwympo allan yng ngheg yr ymosodwr os caiff yr aderyn ei gipio, gan ei gwneud yn haws i'r aderyn ddianc.

Ceir cryn amrywiaeth o fewn plu'r teulu.[43] Mae gan rai rhywogaethau blu llachar.[44] Y Ptilinopus (y colomennod ffrwythau ee y Turtur ffrwythau benlas) yw rhai o'r colomennod mwyaf lliwgar, gyda'r tair rhywogaeth endemig o Fiji ac Alectroenas Cefnfor India y disgleiriaf.[45] Yn ogystal mae gan rhai colomennod gribau neu addurniadau eraill.[46]

Hedfan[golygu | golygu cod]

Dyma deulu o hedfanwyr rhagorol oherwydd y lifft (neu'r codiad) a ddarperir gan eu hadenydd mawr;[47][48] ac mae ganddynt gymhareb agwedd (aspect ratio) isel oherwydd lled eu hadenydd, gan ganiatáu iddynt fedru lansio i'w hedfaniad yn gyflym, gan ddianc rhag ysglyfaethwyr, ond am gost ynni uchel.[49]

Dosbarthiad a chynefin[golygu | golygu cod]

Mae'r turtur resog (y Geopelia striata) wedi'i chyflwyno'n eang ledled y byd.

Mae colomennod yn cael eu dosbarthu dros y Ddaear, ac eithrio ardaloedd sychaf Anialwch y Sahara, Antarctica a'r ynysoedd cyfagos, a'r Arctig uchel.[50] Maent wedi gwladychu'r rhan fwyaf o ynysoedd cefnforol y byd, gan gyrraedd dwyrain Polynesia ac Ynysoedd Chatham yn y Cefnfor Tawel, Mauritius, y Seychelles a Réunion yng Nghefnfor India, a'r Azores yng Nghefnfor yr Iwerydd.

Mae'r teulu wedi addasu i'r rhan fwyaf o'r cynefinoedd sydd ar gael ar y blaned. Ceir rhywogaethau amrywiol hefyd mewn: safanas, glaswelltiroedd, anialwch, coetir tymherus a choedwigoedd, coedwigoedd mangrof, a hyd yn oed tywod a graean diffrwyth yr atolau.[51]

Mae gan rai rhywogaethau diriogaethau enfawr, gyda'r durtur glustiog yn ymestyn ar draws De America i gyd o Colombia i Tierra del Fuego,[52] mae gan y durtur dorchog enfawr o ynysoedd Prydain ar draws Ewrop, y Dwyrain Canol, India, Pacistan a Tsieina,[53] a'r durtur chwerthinog ar draws y rhan fwyaf o Affrica Is-Sahara, yn ogystal ag India, Pacistan, a'r Dwyrain Canol.[54] Mae gan rywogaethau eraill ddosbarthiad bychan, cyfyngedig; mae hyn yn fwyaf cyffredin mewn ynysoedd endemig . Mae'r durtur benfelen yn endemig i Ynys fechan Kadavu yn Fiji,[55] cyfyngir Turtur ddaear Ynysoedd Truk i ddwy ynys, Truk a Pohnpei yn Ynysoedd Caroline,[56] a chyfyngir turtur Grenada i Grenada ei hun, yn y Caribî.[57] Mae gan ambell rywogaethau cyfandirol hefyd ddosbarthiad bychain; er enghraifft, cyfyngir y golomen wregysog i ardal fechan o Dir Arnhem yn Awstralia,[58] cyfyngir y golomen Somalia i ardal fechan iawn yng ngogledd Somalia,[59] a chyfyngir turtur ddaear lygatfoel i'r ardal o gwmpas Salta a Tucuman yng ngogledd Ariannin.[60]

Y rhywogaeth gyda'r ardal fwyaf (o unrhyw rywogaeth) yw'r golomen graig.[61] Mae ei chynefin yn eang iawn: o ynysoedd Prydain ac Iwerddon i ogledd Affrica, ar draws Ewrop, Arabia, Canolbarth Asia, India, yr Himalaya, i Tsieina a Mongolia.[61] Daeth y cynnydd hwn drwy ddofi colomennod, a llawer o'r rheiny'n dianc i'r gwyllt, yn enwedig mewn dinasoedd.[61][61] Ond nid yw'r unig golomen sydd wedi cynyddu ei hardal oherwydd gweithredoedd dyn; mae nifer o rywogaethau eraill wedi ymsefydlu y tu allan i'w cynefin naturiol ar ôl dianc o gaethiwed.[60] Canfu astudiaeth yn 2020 fod Arfordir Dwyreiniol yr Unol Daleithiau yn cynnwys dwy fegaddinas genetig y golomen: Efrog Newydd a Boston, lle nad yw'r adar yn cymysgu â'i gilydd.[62]

Fel bwyd[golygu | golygu cod]

Pryd o fwyd Sundanaidd, o Indonesia: colomen wedi'i ffrio gyda timbel nasi (reis wedi'i lapio â dail banana), tempeh, tofu, a llysiau.

Defnyddir sawl math o golomennod fel bwyd; ac mae pob rhywogaeth yn fwytadwy.[63] Defnyddiwyd y mathau dof fel ffynhonnell bwyd ers sawl mileniwm.[64] Fe'i defnyddiwyd yn helaeth o fewn bwydydd Iddewig, Arabaidd a Ffrengig. Yn ôl y Tanakh, kosher yw colomennod, a dyma'r unig adar y gellir eu defnyddio ar gyfer corban. Defnyddir colomennod hefyd mewn bwydydd Asiaidd, megis bwydydd Tsieineaidd, Asameg ac Indonesia.

Yn Ewrop, mae sguthanod yn cael eu saethu'n gyffredin fel aderyn helwriaeth,[65] tra bod colomennod y graig yn cael eu dofi yn wreiddiol er mwyn eu cig.[66] Roedd difodiant colomennod crwydr yng Ngogledd America o leiaf yn rhannol oherwydd iddynt gael eu hela am eu cig.[67] Mae'r llyfr Mrs Beeton's Book of Household Management yn cynnwys ryseitiau ar gyfer colomennod rhost a phastai colomennod, bwyd poblogaidd, rhad yng ngwledydd Prydain yn Oes y Llymru.[68]

Genera[golygu | golygu cod]

Rhestr Wicidata:

teulu enw tacson delwedd
Adeinefydd Prydain Newydd Henicophaps foersteri
Adeinefydd bach Phaps elegans
Adeinefydd cyffredin Phaps chalcoptera
Colomen Seland Newydd Hemiphaga novaeseelandiae
Colomen alarus Zenaida macroura
Cordurtur befriol Geotrygon chrysia
Cordurtur ffrwynog Geotrygon mystacea
Cordurtur goch Geotrygon montana
Cordurtur gribog Geotrygon versicolor
Dodo Raphus cucullatus
Turtur Streptopelia turtur
Turtur Inca Columbina inca
Turtur Zenaida Zenaida aurita
Turtur adeinlas Turtur afer
Turtur adeinwen Zenaida asiatica
Turtur adeinwerdd Turtur chalcospilos
Turtur alarus Streptopelia decipiens
Turtur benlas Turtur brehmeri
Turtur bigddu Turtur abyssinicus
Turtur ddaear Buckley Columbina buckleyi
Turtur ddaear adeinefydd Metriopelia aymara
Turtur ddaear blaen Columbina minuta
Turtur ddaear grawciol Columbina cruziana
Turtur ddaear gyffredin Columbina passerina
Turtur ddaear las Claravis pretiosa
Turtur ddaear lygatlas Columbina cyanopis
Turtur ddaear wynepfoel Metriopelia ceciliae
Turtur dorchgoch Streptopelia tranquebarica
Turtur dorchog Streptopelia decaocto
Turtur dorchog Affrica Streptopelia roseogrisea
Turtur dorchog Jafa Streptopelia bitorquata
Turtur dorchog adeinwen Streptopelia reichenowi
Turtur dorwridog Streptopelia hypopyrrha
Turtur y Dwyrain Streptopelia orientalis
Turtur y Galapagos Zenaida galapagoensis
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. World Bird Names (2013) Sandgrouse & pigeons Archifwyd 2013-10-15 yn y Peiriant Wayback., Fersiwn 3.5.
  2. Baptista, L. F.; Trail, P. W. & Horblit, H. M. (1997): Family Columbidae (Doves and Pigeons). In: del Hoyo, J.; Elliott, A. & Sargatal, J. (editors): Handbook of birds of the world, Cyfrol 4: Sandgrouse to Cuckoos. Lynx Edicions, Barcelona. ISBN 84-87334-22-9
  3. Gill, Frank; Donsker, David; Rasmussen, Pamela, gol. (2020). "Pigeons". IOC World Bird List Version 10.1. International Ornithologists' Union. Cyrchwyd 27 February 2020.
  4. 4.0 4.1 McDonald, Hannah (17 August 2008). "What's the Difference Between Pigeons and Doves?". Big Questions. Mental Floss.
  5. H Kuhl, C Frankl-Vilches, A Bakker, G Mayr, G Nikolaus, S T Boerno, S Klages, B Timmermann, M Gahr (2020) An unbiased molecular approach using 3’UTRs resolves the avian family-level tree of life. Molecular Biology and Evolution. https://doi.org/10.1093/molbev/msaa191
  6. Pereira, S.L. et al. (2007) Mitochondrial and nuclear DNA sequences support a Cretaceous origin of Columbiformes and a dispersal-driven radiation in the Paleocene.
  7. Soares, A.E.R. et al. (2016) Complete mitochondrial genomes of living and extinct pigeons revise the timing of the columbiform radiation.
  8. Jarvis, E.D. (2014). "Whole-genome analyses resolve early branches in the tree of life of modern birds". Science 346 (6215): 1320–1331. Bibcode 2014Sci...346.1320J. doi:10.1126/science.1253451. PMC 4405904. PMID 25504713. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4405904.
  9. Prum, R.O. (2015). "A comprehensive phylogeny of birds (Aves) using targeted next-generation DNA sequencing". Nature 526 (7574): 569–573. Bibcode 2015Natur.526..569P. doi:10.1038/nature15697. PMID 26444237.
  10. Leach, William Elford (1820). "Eleventh Room". Synopsis of the Contents of the British Museum. 17 (arg. 17th). London: British Museum. t. 68.
  11. Bock, Walter J. (1994). History and Nomenclature of Avian Family-Group Names. Bulletin of the American Museum of Natural History. Number 222. New York: American Museum of Natural History. t. 139.
  12. Cade, Tom J.; Willoughby, Ernest J.; MacLean, Gordon L. (1966). "Drinking Behavior of Sandgrouse in the Namib and Kalahari Deserts, Africa". The Auk 83 (1): 124–126. doi:10.2307/4082983. JSTOR 4082983. http://sora.unm.edu/sites/default/files/journals/auk/v083n01/p0124-p0126.pdf.
  13. Allen, Barbara (2009). Pigeon. Reaktion Books. ISBN 978-1-86189-711-4.
  14. Baptista, L. F.; Trail, P. W.; Horblit, H. M. (1997). "Family Columbidae (Doves and Pigeons)". In del Hoyo, J.; Elliott, A.; Sargatal, J. (gol.). Handbook of birds of the world. 4: Sandgrouse to Cuckoos. Barcelona: Lynx Edicions. ISBN 978-84-87334-22-1.
  15. Johnson, Kevin P.; Clayton, Dale H. (2000). "Nuclear and Mitochondrial Genes Contain Similar Phylogenetic. Signal for Pigeons and Doves (Aves: Columbiformes)". Molecular Phylogenetics and Evolution 14 (1): 141–151. doi:10.1006/mpev.1999.0682. PMID 10631048. http://www.inhs.uiuc.edu/~kjohnson/kpj_pdfs/MPE.Johnson.Clayton.2000.pdf.
  16. Johnson, Kevin P.; de Kort, Selvino; Dinwoodey, Karen; Mateman, A. C.; ten Cate, Carel; Lessells, C. M.; Clayton, Dale H. (2001). "A molecular phylogeny of the dove genera Streptopelia and Columba". Auk 118 (4): 874–887. doi:10.1642/0004-8038(2001)118[0874:AMPOTD]2.0.CO;2. JSTOR 4089839. https://sora.unm.edu/sites/default/files/p00874-p00887.pdf.
  17. Shapiro, Beth; Sibthorpe, Dean; Rambaut, Andrew; Austin, Jeremy; Wragg, Graham M.; Bininda-Emonds, Olaf R. P.; Lee, Patricia L. M.; Cooper, Alan (2002). "Flight of the Dodo". Science 295 (5560): 1683. doi:10.1126/science.295.5560.1683. PMID 11872833.
  18. Shapiro, Beth; Sibthorpe, Dean; Rambaut, Andrew; Austin, Jeremy; Wragg, Graham M.; Bininda-Emonds, Olaf R. P.; Lee, Patricia L. M.; Cooper, Alan (2002). "Flight of the Dodo". Science 295 (5560): 1683. doi:10.1126/science.295.5560.1683. PMID 11872833.Shapiro, Beth; Sibthorpe, Dean; Rambaut, Andrew; Austin, Jeremy; Wragg, Graham M.; Bininda-Emonds, Olaf R. P.; Lee, Patricia L. M.; Cooper, Alan (2002).
  19. Janoo, Anwar (2005). "Discovery of isolated dodo bones Raphus cucullatus (L.), Aves, Columbiformes from Mauritius cave shelters highlights human predation, with a comment on the status of the family Raphidae Wetmore, 1930". Annales de Paléontologie 91 (2): 167. doi:10.1016/j.annpal.2004.12.002.
  20. Cheke, Anthony; Hume, Julian P. (2010). Lost Land of the Dodo: The Ecological History of Mauritius, Réunion and Rodrigues. Bloomsbury Publishing. ISBN 978-1-4081-3305-7.
  21. Christidis, Les; Boles, Walter E. (2008). Systematics and Taxonomy of Australian Birds. Csiro Publishing. ISBN 978-0-643-09964-7.
  22. Fountaine, Toby M. R.; Benton, Michael J.; Dyke, Gareth J.; Nudds, Robert L. (2005). "The quality of the fossil record of Mesozoic birds". Proceedings of the Royal Society B: Biological Sciences 272 (1560): 289–294. doi:10.1098/rspb.2004.2923. PMC 1634967. PMID 15705554. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1634967.
  23. Olson, Storrs L. (1985). "The fossil record of birds". In Farmer, Donald S.; King, James R.; Parkes, Kenneth C. (gol.). Avian Biology, Vol. VIII. Academic Press. tt. 79–238. ISBN 978-0-12-249408-6. The earliest dove yet known, from the early Miocene (Aquitanian) of France, was a small species named Columba calcaria by Milne-Edwards (1867–1871) from a single humerus, for which Lambrecht (1933) later created the genus Gerandia
  24. 24.0 24.1 Worthy, Trevor H.; Hand, Suzanne J.; Worthy, Jennifer P.; Tennyson, Alan J. D.; Scofield, R. Paul (2009). "A large fruit pigeon (Columbidae) from the Early Miocene of New Zealand". The Auk 126 (3): 649–656. doi:10.1525/auk.2009.08244. https://archive.org/details/sim_auk_2009-07_126_3/page/649. "Because Columba calcaria Milne-Edwards, 1867–1871, from the Lower Miocene at Saint-Gérand-le-Puy in France, is now also considered a sandgrouse, as Gerandia calcaria (Mlíkovský 2002), there is no pre-Pliocene columbid record in Europe."
  25. "Fossilworks: Gateway to the Paleobiology Database". fossilworks.org.
  26. Mayr, Gerald (2009). Paleogene Fossil Birds. Springer. ISBN 978-3-540-89628-9.
  27. "Columbidae (doves and pigeons)". Animal Diversity Web.
  28. "Victoria crowned-pigeon videos, photos and facts – Goura victoria". Arkive. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 April 2017. Cyrchwyd 23 April 2017.
  29. "Southern crowned-pigeon videos, photos and facts – Goura scheepmakeri". Arkive. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 April 2017. Cyrchwyd 23 April 2017.
  30. Baptista, L. F.; Trail, P. W.; Horblit, H. M. (1997). "Family Columbidae (Doves and Pigeons)". In del Hoyo, J.; Elliott, A.; Sargatal, J. (gol.). Handbook of birds of the world. 4: Sandgrouse to Cuckoos. Barcelona: Lynx Edicions. ISBN 978-84-87334-22-1.Baptista, L. F.; Trail, P. W.; Horblit, H. M. (1997).
  31. Smith, Paul. "COLUMBIDAE Pigeons and Doves FAUNA PARAGUAY". www.faunaparaguay.com.
  32. Hagey, LR; Schteingart, CD; Ton-Nu, HT; Hofmann, AF (1994). "Biliary bile acids of fruit pigeons and doves (Columbiformes)". Journal of Lipid Research 35 (11): 2041–8. doi:10.1016/S0022-2275(20)39950-8. PMID 7868982. https://archive.org/details/sim_journal-of-lipid-research_1994-11_35_11/page/2041.
  33. "Doves". The Medieval Bestiary. Cyrchwyd 31 January 2010.
  34. Browne, Thomas (1646). Pseudodoxia Epidemica. III.iii (arg. 1672). available online at University of Chicago. Cyrchwyd 31 January 2010.
  35. 35.0 35.1 "Columbiformes (Pigeons, Doves, and Dodos) – Dictionary definition of Columbiformes (Pigeons, Doves, and Dodos)". www.encyclopedia.com.
  36. Clairmont, Patsy (2014). Twirl: A Fresh Spin at Life. Harper Collins. ISBN 978-0-8499-2299-2.
  37. "Why do pigeons bob their heads when they walk? Everyday Mysteries: Fun Science Facts from the Library of Congress". www.loc.gov.
  38. Necker, R (2007). "Head-bobbing of walking birds". Journal of Comparative Physiology A 193 (12): 1177–83. doi:10.1007/s00359-007-0281-3. PMID 17987297. http://www.reinhold-necker.de/Head%20bobbing%20print.pdf.
  39. "Columbiformes (Pigeons, Doves, and Dodos) – Dictionary definition of Columbiformes (Pigeons, Doves, and Dodos)". www.encyclopedia.com."Columbiformes (Pigeons, Doves, and Dodos) – Dictionary definition of Columbiformes (Pigeons, Doves, and Dodos)". www.encyclopedia.com.
  40. Schodde, Richard; Mason, I. J. (1997). Aves (Columbidae to Coraciidae). Csiro Publishing. ISBN 978-0-643-06037-1.
  41. Skutch, A. F. (1964). "Life Histories of Central American Pigeons". Wilson Bulletin 76 (3): 211. https://sora.unm.edu/sites/default/files/journals/wilson/v076n03/p0211-p0247.pdf.
  42. "DiversityofLife2012 – Pigeon". diversityoflife2012.wikispaces.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-06. Cyrchwyd 2022-05-19.
  43. Hilty, Steven L. (2002). Birds of Venezuela. Princeton University Press. ISBN 978-1-4008-3409-9.
  44. Baptista, L. F.; Trail, P. W.; Horblit, H. M. (1997). "Family Columbidae (Doves and Pigeons)". In del Hoyo, J.; Elliott, A.; Sargatal, J. (gol.). Handbook of birds of the world. 4: Sandgrouse to Cuckoos. Barcelona: Lynx Edicions. ISBN 978-84-87334-22-1.Baptista, L. F.; Trail, P. W.; Horblit, H. M. (1997).
  45. Valdez, Diego Javier; Benitez-Vieyra, Santiago Miguel (2016). "A Spectrophotometric Study of Plumage Color in the Eared Dove (Zenaida auriculata), the Most Abundant South American Columbiforme". PLOS ONE 11 (5): e0155501. Bibcode 2016PLoSO..1155501V. doi:10.1371/journal.pone.0155501. PMC 4877085. PMID 27213273. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4877085.
  46. "Pigeon family Columbidae". creagrus.home.montereybay.com.
  47. Alerstam, Thomas (1993). Bird Migration. Cambridge University Press. ISBN 978-0-521-44822-2.
  48. Forshaw, Joseph; Cooper, William (2015). Pigeons and Doves in Australia. Csiro Publishing. ISBN 978-1-4863-0405-9.
  49. Pap, Péter L.; Osváth, Gergely; Sándor, Krisztina; Vincze, Orsolya; Bărbos, Lőrinc; Marton, Attila; Nudds, Robert L.; Vágási, Csongor I. (2015). Williams, Tony. ed. "Interspecific variation in the structural properties of flight feathers in birds indicates adaptation to flight requirements and habitat" (yn en). Functional Ecology 29 (6): 746–757. doi:10.1111/1365-2435.12419.
  50. "Columbidae (doves and pigeons)". Animal Diversity Web."Columbidae (doves and pigeons)".
  51. "Pigeons and Doves (Columbidae) – Dictionary definition of Pigeons and Doves (Columbidae)". www.encyclopedia.com.
  52. "Zenaida auriculata (eared dove)". Animal Diversity Web.
  53. "Eurasian collared dove (Streptopelia decaocto) detail". natureconservation.in. 5 February 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-06-29. Cyrchwyd 2022-05-19.
  54. "Laughing Dove This Bird Is Native To Subsaharan Africa The Middle East And India Where It Is Known As The Little Brown Dove It Inhabits Scrubland And Feeds On Grass Seeds And Grain Stock Photo". www.gettyimages.in. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 April 2017. Cyrchwyd 24 April 2017.
  55. "Whistling Fruit Doves". www.beautyofbirds.com.
  56. Gibbs, David (2010). Pigeons and Doves: A Guide to the Pigeons and Doves of the World. Bloomsbury Publishing. ISBN 978-1-4081-3555-6.
  57. "Grenada Dove (Leptotila wellsi) - BirdLife species factsheet". datazone.birdlife.org.
  58. Schodde, Richard; Mason, I. J. (1997). Aves (Columbidae to Coraciidae). Csiro Publishing. ISBN 978-0-643-06037-1.
  59. Baptista, Luis F.; Trail, Pepper W.; Horblit, H. M.; Sharpe, Christopher J.; Boesman, Peter F. D.; Garcia, Ernest (4 March 2020). Del Hoyo, Josep; Elliott, Andrew; Sargatal, Jordi et al.. eds. "Somali Pigeon (Columba oliviae)". Birds of the World. doi:10.2173/bow.sompig1.01. http://www.hbw.com/species/somali-pigeon-columba-oliviae.
  60. 60.0 60.1 Baptista, L. F.; Trail, P. W.; Horblit, H. M. (1997). "Family Columbidae (Doves and Pigeons)". In del Hoyo, J.; Elliott, A.; Sargatal, J. (gol.). Handbook of birds of the world. 4: Sandgrouse to Cuckoos. Barcelona: Lynx Edicions. ISBN 978-84-87334-22-1.Baptista, L. F.; Trail, P. W.; Horblit, H. M. (1997).
  61. 61.0 61.1 61.2 61.3 "Rock Pigeons (Columba livia) aka Feral or Domestic Pigeons". www.beautyofbirds.com.
  62. Sokol, Joshua (2020-04-23). "New York and Boston Pigeons Don't Mix". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2020-04-27.
  63. Eggs.
  64. Eastman, John (2000). The Eastman Guide to Birds: Natural History Accounts for 150 North American Species. Stackpole Books. ISBN 978-0-8117-4552-9.
  65. "TPWD: Doves and Pigeons – Introducing Birds to Young Naturalists". tpwd.texas.gov.
  66. "Pigeons and Doves (Columbidae) – Dictionary definition of Pigeons and Doves (Columbidae)". www.encyclopedia.com."Pigeons and Doves (Columbidae) – Dictionary definition of Pigeons and Doves (Columbidae)". www.encyclopedia.com.
  67. "Why the Passenger Pigeon Went Extinct". Audubon. 17 April 2014.
  68. CHAPTER 40 – DINNERS AND DINING Mrs Beeton's Book of Household Management Archifwyd 2013-04-29 yn y Peiriant Wayback..

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]



Gwall cyfeirio: Mae tagiau <ref> yn bodoli am grŵp o'r enw "lower-alpha", ond ni ellir canfod y tag <references group="lower-alpha"/>