Tir Arnhem

Oddi ar Wicipedia
Tir Arnhem
Mathrhanbarth o Diriogaeth y Gogledd, cyrchfan i dwristiaid Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlArnhem Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolTop End Edit this on Wikidata
GwladBaner Awstralia Awstralia
Cyfesurynnau12.73°S 134.59°E Edit this on Wikidata
Map

Rhanbarth o Diriogaeth y Gogledd, Awstralia, yw Tir Arnhem.[1]

Ymwelodd Ewropeaid â'r rhanbarth hwn yn gyntaf ym 1623 pan hwyliodd Willem Joosten van Colster, capten gyda Chwmni Iseldiraidd India'r Dwyrain, ei long Arnhem drwy Wlff Carpentaria. Enwir yr ardal ar ôl y llong, a enwyd yn ei thro ar ôl dinas Arnhem, yn yr Iseldiroedd.

Prif dref y rhanbarth yw Nhulunbuy, sydd 600 cilomedr i'r dwyrain o Darwin. Mae'r rhanbarth yn gorchuddio 97,000 cilomedr sgwâr o dir. Mae gan Tir Arnhem boblogaeth o tua 16,000, ac mae 12,000 ohonynt yn Gynfrodorionau Awstralaidd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gareth Jones (gol.), Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999)