Vereenigde Oost-Indische Compagnie
| Enghraifft o: | busnes, cwmni siarter, menter, cwmni India'r Dwyrain, cwmni cyhoeddus |
|---|---|
| Daeth i ben | 1799 |
| Dechrau/Sefydlu | 1602 |
| Yn cynnwys | Tasik |
| Lleoliad yr archif | Internationaal Instituut voor Sociale Geschiedenis, Archives of the Dutch East India Company, Nationaal Archief, National Archives of Indonesia |
| Rhagflaenydd | United Amsterdam Company, Compagnie van De Moucheron, Delftse Vennootschap, Verenigde Zeeuwse Compagnie |
| Isgwmni/au | Dutch West India Company |
| Ffurf gyfreithiol | cwmni cyhoeddus |
| Cynnyrch | masnach speisys |
| Pencadlys | Oost-Indisch Huis, Oost-Indisch Huis, Oost-Indisch Huis, Oost-Indisch Huis, Oost-Indisch Huis, Oost-Indisch Huis |
| Enw brodorol | Verenigde Oostindische Compagnie |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0bqzf |

Cwmni o'r Iseldiroedd oedd y Vereenigde Oost-Indische Compagnie neu VOC (Iseldireg, yn golygu "Cwmni Unedig India'r Dwyrain"), a adnabyddir hefyd fel "Cwmni Iseldiraidd India'r Dwyrain." Bu'r cwmni yn llwyddiannus iawn, ac ystyrir ef fel cwmni rhyngwladol cyntaf y byd.
Sefydlwyd y cwmni yn 1602 gan Johan van Oldenbarnevelt, i fanteisio ar y cyfleoedd oedd wedi ymddangos i fasnachu yn India'r Dwyrain, yn arbennig yr ynysoedd sy'n awr yn ffurfio Indonesia. Roedd chwech kamer, yn Amsterdam, Zeeland, Enkhuizen, Delft, Hoorn a Rotterdam. Rheolid y cwmni gan gynrychiolwyr o'r rhain, oedd yn ffurfio'r bwrdd llywodraethol, yr Heeren XVII, yn cyfarfod yn Amsterdam a Middelburg bob yn ail.
Yn ystod yr 17eg ganrif, tyfodd y VOC i gyflogi 11,000 o bobl. Erbyn 1753 roedd yn cyflogi 25,000. Roedd yn cyflogi milwyr, a llwyddodd i yrru'r Portiwgeaid o Sri Lanca ac ynysoedd Indonesia. Ar ynys Jafa yr oedd canolfan y cwmni; yno y sefydlwyd dinas Batavia (Jakarta heddiw). Daeth y cwmni i ben yn 1798.
Roedd Abel Tasman yn gweithio i'r cwmni ar ei fordaith yn 1642 pan ddarganfu Tasmania a Seland Newydd.

