Tasmania
| Math | talaith o fewn Awstralia |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Abel Tasman |
| Prifddinas | Hobart |
| Poblogaeth | 539,590 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Jeremy Rockliff |
| Cylchfa amser | UTC+10:00, UTC+11:00, Australia/Hobart |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Awstralia |
| Sir | Awstralia |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 68,401 ±1 km² |
| Uwch y môr | 1,009 metr |
| Yn ffinio gyda | Victoria |
| Cyfesurynnau | 42°S 147°E |
| AU-TAS | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Llywodraeth Tasmania |
| Corff deddfwriaethol | Senedd Tasmania |
| Swydd pennaeth y wladwriaeth | Rhaglaw Tasmania |
| Pennaeth y wladwriaeth | Barbara Baker |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Tasmania |
| Pennaeth y Llywodraeth | Jeremy Rockliff |
![]() | |

Ynys a thalaith yng Nghymanwlad Awstralia (neu Awstralia) yw Tasmania (Tasmanieg: Lutruwita). Mae cyfandir Awstralia yn gorwedd i’r gogledd o’r ynys a'r Antarctig i’r de ohoni. I'r dwyrain, rhwng yr ynys a Seland Newydd, ceir Môr Tasman. Cafodd ei enwi ar ôl y fforiwr o'r Iseldiroedd, Abel Janszoon Tasman. Tasmania yw'r chweched ar hugain fwyaf o ynysoedd y byd yn ddaearyddol. Mae 484,700 o bobl yn byw yn Nhasmania (Mawrth 2005, ABS).
Prifddinas Tasmania yw Hobart. Mae dinasoedd eraill yn cynnwys Launceston yn y gogledd a Devonport a Burnie yn y gogledd-orllewin.

Hanes Tasmania
[golygu | golygu cod]Cyrhaeddodd y bobl gyntaf Dasmania rhwng tua 29,000 a 140,000 o flynyddoedd yn ôl.
Sefydlodd llywodraeth Prydain Fawr y drefedigaeth gosbol gyntaf ar yr ynys yn 1803, yn Hobart. Roedd y gwladychwyr cyntaf gan amlaf yn garcharion a'u gwarchodwyr, a weithiai i ddatblygu diwydiant ac amaeth. Mae'r trefedigaethau cosbol eraill yn cynnwys Port Arthur a Macquarie Harbour.
Chwaraeon
[golygu | golygu cod]Chwaraeon mwyaf poblogaidd Tasmania yw criced a phêl-droed rheolau Awstralaidd.
Anifeiliaid brodorol
[golygu | golygu cod]- Blaidd Tasmania neu Thailasin – nas gwelwyd ers 1936
- Cythraul Tasmania
Enwogion Tasmania
[golygu | golygu cod]- Errol Flynn (actor)
- Mary Donaldson (brenhines Denmarc)
- Ricky Ponting (cricedwr)
- Truganini (y brodor olaf)
|
Taleithiau a thiriogaethau Awstralia |
|
|---|---|
|
De Awstralia | De Cymru Newydd | Gorllewin Awstralia | Queensland | Tasmania | Tiriogaeth y Gogledd | Tiriogaeth Prifddinas Awstralia | Victoria | |
