Criced

Oddi ar Wicipedia
Gêm o griced

Mae criced yn gamp bat a phêl ym myd chwaraeon sydd gan amlaf yn cael ei chwarae rhwng dau dîm o un ar ddeg chwaraewr. Caiff ei chwarae ar gae gwair newydd ei dorri (sydd fel arfer yn siap ofal) a sydd â 'llain' o dir, dwy lath ar hugain o hyd, sy'n ddi-wair ar y cyfan. Chwaraeir y gêm gan 120 miliwn o bobl drwy'r byd, mewn nifer o wledydd, gan ei gwneud yr ail gamp fwyaf poblogaidd.[1] Mae tri math o griced - criced undydd (50 pelawd ar lefel ryngwladol), criced 5 niwrnod a chriced 20 pelawd.

Ar bob pen y llain, mae strwythur pren wedi ei ffurfio o dri pholyn paralel, fertigol (a elwir yn 'stympiau') wedi eu gyrru i mewn i'r ddaear a dau ddarn croes (caten/catiau) yn gorwedd ar ben y stympiau. Gelwir y strwythurau hyn yn 'wicedi'. Bydd un o chwaraewyr y tîm sy'n maesu (y 'bowliwr') yn bowlio pêl ledr o un wiced tuag at y wiced arall, gan geisio ei tharo. Wedi ei 'bowlio', fel arfer, bydd y bêl yn adlamu unwaith oddi ar y llain cyn cyrraedd chwaraewr o'r tîm arall (y 'batiwr'), sy'n amddiffyn y wiced rhag y bêl gyda bat criced pren. Ceir 6 phelen mewn 'pelawd' a cheir nifer o belawdau mewn gêm ee 20, 40 neu 50.

Clwb Criced Bae Colwyn gyda Morgannwg yn chwarae yn erbyn Swydd Gaerhirfryn; 21 Gorffennaf 2015.

Mewn criced proffesiynol, mae hyd y gêm yn amrywio o 20 pelawd (Twenty20) (i bob tîm) - i griced prawf a chwaraeir dros gyfnod o bum niwrnod. Y 'Cyngor Criced Rhyngwladol' (yr ICC) a Chlwb Criced Marylebone (MCC) sy'n gyfrifol am gyfreithiau'r gêm undydd a phrawf.[2]

Dywedir i griced gael ei chwarae yn gyntaf yn ne Lloegr tua'r 16eg ganrif ac erbyn y 18fed ganrif datblygodd i fod yn brif gamp genedlaethol yn Lloegr. Lledodd y chwarae i nifer o wledydd yr Ymerodraeth Brydeinig a chwaraewyd y gêm ryngwladol gyntaf ganol y 19eg ganrif. Mae gan yr ICC ddeg aelod llawn (deg gwlad) a 37 o aelodau cysylltiol.[3] O ran niferoedd mae criced yn fwyaf poblogaidd yn Awstralia, Lloegr, India, Pacistan, India'r Gorllewin a gwledydd de Affrica.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Tim criced Castell Newydd Emlyn yn 1893. Ffotograff o gasgliad John Thomas.
Criced ar y traeth yn y Rhyl. Ffotograff gan Geoff Charles (1955).

"Creckett" oedd y sillafiad gwreiddiol a chofnodwyd hynny mewn llys barn yn Surrey yn 1598.[4] Mae'n bosibl mai tarddiad y gair ydy cricc neu cryce sef yr Hen Saesneg am ffon gerdded, neu fagl.[5] Mae Samuel Johnson yn ei eiriadur Dictionary, yn nodi mai o'r gair Sacsoneg "cryce, y daw, sef ffon".[6] Fodd bynnag, mae'r gair Ffrangeg criquet hefyd yn golygu 'ffon', felly nid oes sicrwydd pendant.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Mughal, Khabir Uddin. "Top 10 Most Popular Sports in the World". Sporteology. Cyrchwyd 2015-06-23.
  2. MCC – the official Laws of Cricket. Retrieved 25 July 2009.
  3. CricketArchive – full list of ICC member countries. Retrieved 25 July 2009.
  4. www.cricketanalytix.com; Archifwyd 2016-06-17 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 22 Gorffennaf 2015
  5. Birley, tud.3
  6. Altham, tud.21
  7. Birley, op. cit.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Chwiliwch am criced
yn Wiciadur.
Eginyn erthygl sydd uchod am griced. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.