Amaeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Paentiad o siambr gladdu Sennedjem o tua 1,200 CC
Ffermwr ar gefn ei tractor a wnaed yn 1970, yn aradu

Y gelfyddid o drin y tir i gynhyrchu bwyd neu rhyw nwyddau eraill yw amaeth neu amaethyddiaeth. Gelwir y weithred o wneud hyn yn 'amaethu' neu 'ffermio'. Dyma'r dechneg o dyfu planhigion megis llysiau neu ffrwythau, a rheoli, amddiffyn a bridio preiddiau o anifieliaid er mwyn cael cynnyrch megis cig, llaeth, gwlan neu ledr.

Roedd amaethu'n ddatblygiad allweddol yn nhwf gwareiddiad gan fod medru darparu bwyd yn rhyddhau pobl i ymhel â thechnolegau newydd, diwylliant ayb. Datblygiad o hyn oedd y Chwyldro Diwydiannol a ryddhaodd bobl ymhellach o fod yn gaeth i amaethu i wneud pethau eraill. Cyn y Chwyldro Diwydiannol, roedd mwyafrif llethol o bobl yn amaethwyr, gyda math o fodolaeth hunan-gynhaliol o dyfu planhigion ac anifeiliaid i'r teulu'n unig yn hytrach na'u gwerthu am arian. Yng Nghymru, gwelwyd effaith hyn yn bennaf ar ddau fath o ffermwr: y ffermwyr godro a drodd i werthu llaeth a'r ffermwyr defaid a ddechreuodd farchnata gwân.

Hanes amaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n ymddangos mai yn y Cilgant Ffrwythlon, sef y tiroedd sy'n ymestyn o Balesteina drwy ogledd Syria, Irac, Cyrdistan ac i lawr afonydd y Tigris a'r Ewffrates i fôr Gwlff Arabia, y cychwynodd amaeth a hynny tua 11,500 CP. Roedd y tir hwn yn llawer mwy ffrwythlon nag ydy heddiw. Ceir tystiolaeth fod barlys, gwenith a lentils a fridiwyd ar gyfer y bwrdd bwyd yn cael ei dyfu 9,800 o flynyddoed yn ôl.[1] Wrth gwrs, mae'n ddigon posib i hyn ddigwydd mewn sawl lle yn annibynol o'i gilydd tua'r un amser e.e. yn ne Tsieina, Sahel yn Affrica ac yn Gini Newydd. Roedd Oes yr Iâ'n dal i afael yn y tir ond roedd y glawiad yn llawer mwy ffafriol na'r hyn a geir heddiw, ac yn cynnal coedwigoedd a thiroedd agored fel y'i gilydd.

Erbyn tua 10,000 CP dofwyd sawl math o anifail gwyllt. Roedd y bual (neu'r fuwch) wyllt yn greadur peryglus, fel y mochyn gwyllt hwnnw a ddisgrifir yn Culhwch ac Olwen. Ni ddofwyd y cwbwl ac anodd yw meddwl fod pob buwch dan haul wedi tarddu o'r bualod gogleddol hyn (y buffalo). Drwy reoli ac amddiffyn preiddiau, gwelwyd newid sylweddol yn y ffordd roedd pobl yn byw a daeth cynnydd yn y boblogaeth. Erbyn tua 9,000 gwelwyd pobl yn dod at ei gilydd a gwelir strwythur i'r amaethyddiaeth gyntefig hwn: caeau, cloddiau, ffosydd amddiffynol a phentrefi. Ymhlith yr olion y mae: Jarma, Irac a Jerico ym Mhalesteina. Gelwir y cyfuniad hwn o dyfu cnydau a magu anifeiliaid dof yn 'Chwyldro Neolithig'.

Erbyn 6,500 CC roedd amaethu wedi cyrraedd de-ddwyrain Ewrop, ac erbyn tua 3,000 CC, fel y dengys lluniau a cherfiadau'r cyfnod, gwelwn fod teirw'n tynnu ceir llusg, gwartheg yn cael eu bwydo gan ddyn ac eraill yn cael eu godro. O'r ddafad moufflon mae defaid Ewrop yn tarddu. Yng nghymuned Argissa yn Thesally, Gwlad Groeg, ceir olion yr anifeiliaid dof hyn fel a ganlyn: defaid a geifr (84%), moch (10%), gwartheg (5%) a chŵn (1%).[2]

Geirdarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Daw'r gair amaeth o'r Lladin ambactus sef 'gwas', ond mae'n bosibl mai o'r Hen Gelteg yr aeth i'r Lladin. Fe'i cofnodwyd yn gyntaf yn y 13eg ganrif yn Llyfr Du'r Waun: "ni ddylai neb gymryd amayath arno oni heb wneuthur aradr...".[3]

Ffermio yng Nghymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd dyddiau pwysig ar y fferm ers stalwm pan oedd cymdogion yn dod i'r fferm i helpu i gneifio, dyrnu, lladd mochyn pluo ac ati, ond erbyn hyn mae peiriannau ar gael i wneud y gwaith a'r elfen gymdeithasol wedi lleihau. Oherwydd mynyddoedd, tywydd ac answadd ei phridd, ychydig iawn o dir sy'n addas ar gyfer cnydau, yn wahanol i Loegr. Canolbwyntiwyd, felly ar gig anifail.

Termau amaethyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymadroddion am anifail benyw mewn gwres, sy'n ysu i genehdlu:
Buwch yn gofyn tarw 
Caseg yn gofyn march / stalwyn 
Gast yn cwna 
Example 1
Buwch yn gofyn tarw

Drwy Ogledd Cymru, hyd at Machynlleth, a ffin afon Dyfi, 'gofyn tarw' yw'r ymadrodd mwyaf cyffredin a cheir ymadrodd ddigon tebyg ym Morgannwg: 'mofyn tarw'. Yng Ngheredigion dywedir fod y fuwch yn 'wasod'.[4] Sonia Cyfraith Hywel Dda (14eg ganrif) am "weithred tarw gra geisso gwartheg gwasawt o galan Mei hyd galan gaeaf." Mae dwy ardal ar wahân yn defnyddio'r un term, 'eisiau tarw', sef yr hen Sir Fflint a chanol Powys.

Ym Morgannwg hefyd arferid defnyddio: 'yn erlid' ac 'yn ysu'.[5]

Ar Ynys Môn, ar whân i'r arfordir dwyreiniol, defnyddir: 'tryfenydd', 'tyrfenydd' neu 'derefnydd' am fuwch yn ei gwres. Cofnodir hyn gyntaf yn Llyfr Iorwerth yn y 13eg ganrif: "Ny deleyr dale y teyru o hanner haf hyt Aust nac ar yt nac ar wellt, canys en er amser hunnu y byd teruenyd e guarthec prouadwy..." Dywedir ‘Mae’r terfenydd arni’ a defnyddir y termau hyn mewn mannau yn Arfon.

Caseg yn gofyn stalwyn

Ceir cryn amrywiaeth yn yr eirfa a ddefnyddir i ddisgrifio ysfa caseg pan fo hi mewn gwres ag angen stalwyn. Yng Ngogledd Cymru dywedir ei bod yn 'gofyn stalwyn' neu'n 'marchio' ('marchu' mewn rhai ardaloedd). Ym Nyffryn tanat, Powys, dywedir ei bod 'yn marchu' ac 'ym Mrycheiniog, mae'r gaseg 'yn marcha'. Yng ngogledd Maldwyn, defnyddir 'gofyn stalwyn/march/ceffyl', ac mae hyn yn dangos fod cryn amrywiaeth oddi fewn i un ardal fechan.

Yn yr hen Sir Fflint, dywedir fod y gaseg 'eisiau stalwyn', yr un patrwm a chyda tharw - 'eisiau tarw' ddywedir hefyd. Ceir 'mofyn march' ym Morgannwg a de-orllewin Brycheiniog, ac maent hwythau'n cadw i'r un patrwm ac a wnant gyda tharw - 'mofyn tarw' a ddywedant. Ond ceir gair anghyffredin yn ardal Aberangell, Llanbrynmair a Chaerwys ym Maldwyn: 'yn wynedd', a fersiwn o'r term hwn a ddefnyddir yn ne Ceredigion a de Penfro: 'yn wynen' neu 'yn wyner'. Mewn un lle yng Nghwm Llynfell (Gorllewin Morgannwg) ceir amrywiad arall: 'yn wynad'.

Gast yn cwna

Ceir amrywiaeth o dermau i ddisgrifio gast sy'n ysu i genhedlu, ond ddim cymaint ac a geir wrth ddisgrifio buwch neu geffyl. Fel gyda'r ddau anifail arall, mae afon Dyfi'n ffin eitha pendant rhwng y gwahanol dermau; dywedir fod gast yn 'cwna' i'r gogledd o'r Ddyfi. Yn rhyfeddol, dyma hefyd a ddywedir yn ne Brycheiniog, ym Morgannwg ac yng Ngwent hefyd.

Yn yr hen Sir Fflint a dwyrain Maldwyn dywedir fod gast 'yn hel cŵn'. Yng nghanol Maldwyn ceir ynys sy'n dra gwahanol ei thafodiaith (eto, fel gyda'u hymadroddion am gaseg 'yn wyned' a'u buwch 'eisiau tarw'), dywedir fod yr ast 'yn cyneica' neu 'yn gynhaig'. Fel yn y Saesneg, mae geist Ceredigion a Chaerfyrddin 'yn boeth' a geist Penfro a chymoedd y Gwendraeth yn 'yn dwym'.


Marchnadoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Arall[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. www.news.sciencemag.org; adalwyd 2015
  2. Fferm a Thyddyn; Rhif 54, 2014; gol. Twm Elias
  3. Geiriadur Prifysgol Cymru; adalwyd 2015
  4. Daw'r term yma o 'gosod', mae'n debyg hy gosodir y tarw ar gefn y fuwch sydd mewn gwres.Geiriadur Prifysgol Cymru; adalwyd Medi 2015
  5. Fferm a Thyddyn; golygydd Twm Elias; Rhif 54, 2014.