Oes yr Iâ

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rhewlifiant Hemisffer y Gogledd yn ystod yr oesoedd iâ diwethaf.

Cyfnod o oerfel eithriadol yn hanes y ddaear sy'n gallu parhau am gannoedd neu filoedd o flynyddoedd yw Oes yr Iâ. Yn ystod cyfnod fel hyn mae haen trwchus yn gorchuddio rhannau o'r cyfandiroedd.

Rhenir llinell amser daearegol y Ddaear yn bedair Eon: y cyntaf yw'r Eon Hadeaidd, a'i chychwyn yw ffurfio'r Ddaear. Fel yr awgryma'r gair, a ddaw o'r Hen Roeg 'Hades', roedd y Ddaear yn aruthrol o boeth, gyda llosgfynyddoedd byw ymhobman, ond yn araf oeroedd y Ddaear ac erbyn y 3ydd Eon, y Proterosöig, daeth y tymheredd mewn rhai mannau o'r Ddaear yn is na rhewbwynt a chafwyd haenau trwchus o rewlifau'n ffurfio. Ers hynny cafwyd o leiaf 5 Oes yr Iâ sylweddol: y Rhewlifiad Hwronaidd (Huronian), y Rhewlifiad Cryogenaidd (Cryogenian), y Rhewlifiad Andea-Saharaidd (Andean-Saharan), Oes Iâ Karoo a'r Rhewlifiant Cwaternaidd sef yr Oes Iâ rydym yn byw ynddi heddiw). Ar wahân i'r 5 cyfnod hyn, mae'n fwy na phosibl nad oedd rhew ledled y Ddaear gyfan.[1][2] Credir i gapiau rhew yr Arctig a'r Antartig gael eu ffurfio rhwng 5 a 15 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP).

Diagram yn dangos y 4 Eon (Hadeaidd, Archeaidd, Proterosöig a Ffanerosöig sef yr oes bresennol ar yr ochr dde. Yn y gwaelod ceir y 5 prif Oes Iâ.

Ers tua 3 miliwn o flynyddoedd yn ôl, mae hinsawdd cymharol oer yn gyffredinol wedi parhau gyda chyfnodau oer a chyfnodau cynnes yn dilyn ei gilydd, am gyfnodau o tua 100,000 o flynyddoedd fel rheol. Yn ystod Oesoedd yr Iâ roedd rhewlifau'n gorchuddio'r rhan helaeth o Ewrop, gogledd Asia, Gogledd America a Japan. Am fod yr iâ yn ddwfn iawn, roedd lefelau y môr sawl troedfedd yn is na heddiw. Ar ôl Oes yr Iâ roedd lefel y môr yn codi drachefn gan gyrraedd y lefel presennol tua 3,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn ogystal, mae'r tir yn codi ar ôl i bwys yr iâ gael eu cymryd i ffwrdd (e.e. mae'r Alban yn dal i godi 10,000 flynyddoedd ar ôl i'r iâ diweddaraf doddi) (cymhwysiad isostatig).

Mae'r rhewlifau yn creu mynyddoedd trwy gludo tywod a cherrig. Ac oherwydd y dŵr ychwanegol o'r iâ toddedig, mae dyffrynnoedd ac afonydd newydd yn ffurfio.

Mae anifeiliaid nodweddiadol o Oes yr Iâ yn cynnwys mamothau a rhinoserosau gwlanog.

O ganol y 14eg ganrif hyd y 19eg cafwyd cyfnod o oerfel a adnabyddir fel yr Oes Iâ Fach.

Ynys Prydain[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymddangosodd yr iâ cyntaf ar yr hyn a elwir heddiw'n Ynys Brydain tua 2.5 miliwn CP. Oherwydd newid ysbeidiol yng nghylchdro'r Haul, ceir newidiadau hefyd yn nhymheredd y Ddaear a hynny'n dilyn mewn patrwm eitha rheolaidd. Cafwyd yr Oes Iâ fwyaf ddiweddar tua 21,000 o flynyddoedd yn ôl, pan gafwyd haen iâ o drwch hyd at 3 km, gyda tua 32% o'r tir o dan iâ (y cyfran heddiw yw tua 10%) a'r dymheredd ar gyfartaledd yn 5 - 6 °C yn is na heddiw. Golygai hyn, wrth gwrs, fod unrhyw olion o bobl wedi cael ei grafu ymaith a'i ddileu - oni bai eu bod o dan y Ddaear mewn ogofâu. Dyma sut y bu i olion y Dyn Neanderthal mwyaf gogleddol yn Ewrop gael ei gadw yn Ogof Bontnewydd ger Llanelwy. Ond ni orchuddiwyd y cyfan o Ynys Prydain, ac roedd rhannau o Dde Lloegr yn rhydd o rew. Roedd hi'n gwbwl bosibl i berson gerdded o Orllewin Iwerddon i Norwy. Dywedir fod astudio'r hyn a ddigwyddodd ugain mil o flynyddoedd yn ôl yn y rhan yma o Ewrop yn paratoi Daearegwyr i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Pe doddir holl rew'r Arctig a'r Antartig yn ystod y blynyddoedd nesaf, oherwydd Cynhesu byd eang yna amcangyfrifir y byddai lefel y môr yn codi 230 troedfedd (dros 70 metr). Un o'r daearegwyr mwyaf blaenllaw'r byd yn y maes hwn ydy Bethan Davies, Prifysgol Holloway Brenhinol, Llundain.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Lockwood, J.G.; van Zinderen-Bakker, E. M. (Tachwedd 1979). "The Antarctic Ice-Sheet: Regulator of Global Climates?: Review". The Geographical Journal 145 (3): 469–471. doi:10.2307/633219. JSTOR 633219.
  2. Warren, John K. (2006). Evaporites: sediments, resources and hydrocarbons. Birkhäuser. p. 289. ISBN 978-3-540-26011-0. 
  3. Papur newydd y Sunday Times; 14 Awst 2016; erthygl gan Jonathan Leake; tud 8 (News).