Hinsawdd

Oddi ar Wicipedia
Yr Amgylchedd
Yr Amgylchedd

Tywydd
Hinsawdd
Atmosffer y ddaear


Newid hinsawdd Cynhesu byd eang


Categori


Hinsawdd yw cyflwr y tywydd mewn ardal dros gyfnod o amser. Cyflwr tymor hir o dywydd rhagweladwy yw hinsawdd. Mae hinsawdd yn cael ei heffeithio gan nodweddion ffisegol y ddaear megis mynyddoedd, afonydd, lledred, diffeithdiroedd a diwasgeddau.

Dosbarthiadau hinsawdd[golygu | golygu cod]

Dosberthir hinsawdd y byd i bum prif gategori:

Arth Wen mewn ardal begynol
Map dosbarthiad hinsawdd Köppen-Geiger[1]
     Hinsawdd fforest law drofannol (Af)      Hinsawdd monsŵn trofannol (Am)      Hinsawdd safana trofannol (Aw)      Hinsawdd anialwch boeth (BWh)      Hinsawdd anialwch oer (BWk)      Hinsawdd lled-gras boeth (BSh)      Hinsawdd lled-gras oer (BSk)      Hinsawdd y Canoldir gyda hafau boeth (Csa)      Hinsawdd y Canoldir gyda hafau cynnes (Csb)      Hinsawdd is-drofannol gyda gaeafau sych (Cwa)      Hinsawdd dymherus gyda gaeafau sych (Cwb)      Hinsawdd dymherus is-pegynol gyda gaeafau sych (Cwc)      Hinsawdd is-drofannol llaith (Cfa)      Hinsawdd gefnforol (Cfb)      Hinsawdd gefnforol is-pegynol (Cfc)      Hinsawdd cyfandirol gyda hafau sych ac yn boeth (Dsa)      Hinsawdd cyfandirol gyda hafau sych ac yn cynnes (Dsb)      Hinsawdd is-arctig gyda hafau sych ac yn oer (Dsc)      Hinsawdd is-arctig gyda hafau sych ac yn oer iawn (Dsd)      Hinsawdd cyfandirol gyda gaeafau sych a hafau boeth (Dwa)      Hinsawdd cyfandirol gyda gaeafau sych a hafau cynnes (Dwb)      Hinsawdd is-arctig gyda gaeafau sych a hafau oer (Dwc)      Hinsawdd is-arctig gyda gaeafau sych a hafau oer iawn (Dwd)      Hinsawdd cyfandirol llaith gyda hafau boeth (Dfa)      Hinsawdd cyfandirol llaith gyda hafau cynnes (Dfb)      Hinsawdd is-arctig gyda hafau oer (Dfc)      Hinsawdd is-arctig gyda hafau oer iawn (Dfd)      Hinsawdd twndra (ET)      Hinsawdd pegynol (EF)

Pegynnol
Mae'r rhanbarthau yma yn oer iawn trwy gydol y flwyddyn. Mae'r tymheredd cynhesaf yn llai na 10C.

Gwanwyn mewn ardal Dymherus
Mae Dubai wedi ei lleoli ar dir Cras

Tymherus
Ardaloedd sy'n dueddol o orwedd rhwng 23.5 a 66.0 lledred. Ardaloedd lle bo'r mis oeraf llai na 18 °C ac yn fwy na -3 °C a lle bo'r mis cynhesaf yn fwy na 10 °C. Mae rhan fwyaf o Orllewin Ewrop yn yr ardal tymherus. Gweler Hinsawdd Cymru.

Cras
Dyma'r ardaloedd sych lle mae'r anweddiad yn uwch na'r dyddodiad. Mae'r ardaloedd hyn ymhell o'r môr a gall y tymheredd amrywio llawer.

Trofannol
Mae'r tymheredd yn uchel trwy gydol y flwyddyn yn yr ardaloedd hyn. Mae ganddynt 2 dymor; gwlyb a sych.

Y Môr Canoldir
Mae'r hinsawdd hon yn gynnes ac yn sych yn yr haf ac yn oer ac yn wlyb yn y gaeaf.

Ffactorau sy'n effeithio a'r hinsawdd[golygu | golygu cod]

Lledred[golygu | golygu cod]

Mae lledred yn cael ei benderfynu gan ein pellter oddi wrth y gyhydedd. Lledred y gyhydedd yw 0 gradd.

Dylanwad morol[golygu | golygu cod]

Yn anaml iawn mae Caerfyrddin yn cael eira oherwydd ei hagosrwydd at y môr

Ym Mhrydain, mae'r môr yn effeithio'r tymheredd:

  • Yn y gaeaf mae'r môr yn araf i oeri ac felly mae'r lleoedd arfordirol yn gynhesach ac yn llaith.
  • Yn yr haf mae'r môr yn araf i dwymo ac felly mae'r ardaloedd arfordirol yn oerach na'r ardaloedd bellach o'r môr.
  • Mae yna lai o amrediad i dymereddau ardaloedd arfordirol nag o dymereddau ardaloedd bellach o'r môr.

Uchder[golygu | golygu cod]

Ymhob 165m uwchben lefel y môr, mae'r tymheredd yn gostwng 1 °C oherwydd mae tir uchel yn colli mwy o wres na thir isel.

Agwedd[golygu | golygu cod]

Mae agwedd yn cyfeirio at y ffordd y mae tir yn wynebu'r haul. Yn hemisffer y gogledd, mae llethrau serth sydd yn wynebu'r dde (agwedd ddeheuol) yn gweld mwy o'r haul na'r llethrau sydd yn wynebu'r gogledd (agwedd ogleddol) ac felly maent yn gynhesach.

Gweler Hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]