Tywydd
Yr Amgylchedd | |
![]() |
|
Tywydd Newid hinsawdd Cynhesu byd eang |
Tywydd yw cyflwr yr atmosffer ar foment mewn amser. Gall tywydd amrywio yn fawr iawn dros gyfnod byr iawn. Mesuriad o dywydd dros gyfnod hir yw hinsawdd.
Tywydd y Ddaear[golygu | golygu cod y dudalen]
Ar y Ddaear, rydym yn profi ffenomenau tywydd megis gwynt, glaw, eira a niwl yn aml. Rydym yn profi trychinebau naturiol megis corwyntoedd, troellwyntoedd, a stormydd iâ yn llai aml. Mae'r ffenomenau hyn yn digwydd oherwydd Troposffer sef sector isaf yr atmosffer. Mae tywydd yn digwydd ar y ddaear yn anad dim oherwydd dwysedd a thymheredd rhannau gwahanol yr atmsoffer.
Ffenomenau yr ydym yn gweld yn aml ar y ddaear:
Cwmwl[golygu | golygu cod y dudalen]
Casgliad o ddiferynnau neu grystalau wedi rhewi yn yr awyr yw cwmwl (Lladin: cumulus). Ar y ddaear, dŵr yw'r elfen sy'n eu ffurfio. Rhennir cymylau yn ddau brif ddosbarth, cymylau stratus (o'r Lladin stratus, yn golygu "haen") a chymylau cumulus (Lladin, "wedi eu pentyrru").
Diwasgedd[golygu | golygu cod y dudalen]
Pan mae dau aergorff gwahanol yn cwrdd, mae'r ffin rhyngddynt yn cael ei galw'n "ffrynt". Aergorff yw dau wahanol fath o aer. Ym Mhrydain mae hyn i'w weld pan mae aer oer pegynnol yn cwrdd ag aer cynnes trofannol. Mae diwasgeddau yn gysylltiedig ag ardaloedd gwasgedd isel oherwydd mae'r aer o fewn y diwasgedd yn codi a throi.
Dyodiad[golygu | golygu cod y dudalen]
Unrhyw fath o gyddwysiad yw dyodiad.
Glaw[golygu | golygu cod y dudalen]
Math o gyddwysiad yw glaw. Ffurfiau eraill ar gyddwysiad anwedd dŵr yw eira, eirlaw, cenllysg/cesair a gwlith.
Mewn llenyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Ceir nifer o ganeuon plant am y tywydd gan gynnwys: "Mae'n bwrw glaw yn sobor iawn!" acheir rhai hen benillion hefyd:
- Mae gen i ac mae gan lawer
- Gloc ar y mur i ddweud yr amser,
- Mae gan Moses Pant-y-meysydd
- Gloc ar y mur i ddweud y tywdd.