Dyodiad
Jump to navigation
Jump to search

Glawiad hafol yn Denmarc.
Unrhyw fath o gyddwysiad yw dyodiad. Gall hyn cynnwys glaw, eira, eirlaw, cenllysg, cesair a gwlith.
Pan fo dyodiad yn disgyn mae dafnau o ddŵr a ffurfiwyd mewn cymylau yn disgyn tuag at y ddaear. Nid yw dyodiad bob amser yn cyrraedd y ddaear. Os yw'n disgyn drwy awyr sych fe all droi'n anwedd. Pan nad oes dim dyodiad yn cyrraedd y ddaear, gelwir y cyddwysiad yn virga.