Cwmwl
Casgliad o ddiferynnau neu grystalau wedi rhewi yn yr awyr yw cwmwl (Lladin: cumulus). Ar y ddaear, dŵr yw'r elfen sy'n eu ffurfio.
Rhennir cymylau yn ddau brif ddosbarth, cymylau stratus (o'r Lladin stratus, yn golygu "haen") a chymylau cumulus (Lladin, "wedi eu pentyrru").
Mathau eraill o gwmwl[golygu | golygu cod y dudalen]
Gall cymylau Kelvin-Helmholtz ddigwydd mewn cysylltiad ag amryw o brif gategoriau, megis Cirrus, Altocumulus, Stratocumulus, Stratus & Cumulus. Oherwydd hyn mae‘r Swyddfa Dywydd yn dosbarthu cymylau Kelvin-Helmholtz fel ‘Cymylau Arbennig’.
Cymylau arbennig[golygu | golygu cod y dudalen]
Y Cymylau Arbennig eraill yw Nacreous, Nosloyw Noctilucent, Banner Clouds ynghyd â thonnau Kelvin-Helmholtz (terminoleg swyddogol llawn).
Cymylau Ategol[golygu | golygu cod y dudalen]
Dosbarthiad arall sy’n cynnwys cymylau llai cyffredin yw Cymylau Ategol (Accessory Clouds) megis Pileus, Pannus, Velum, Incus, Mamma, Virga, Praecipitatio, Arcus, Tuba
Cymylau anthropogenig[golygu | golygu cod y dudalen]
Gweithgareddau dyn sy’n gyfrifol am rhain, megis Olion cyddwyso (Contrails awyren), cymylau Pyrocumulus (tân) a Fumulus (mwg).[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Huw H. Jones, cys. pers.