Altostratus
Gwedd
| Math | Stratus, mid-level cloud |
|---|---|
| Dyddiad darganfod | 1877 |
| Gwefan | https://cloudatlas.wmo.int/altostratus-as.html |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01683s |
Math o gymylau yw Altostatus.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Nid yw'r cymylau hyn fel arfer yn fawr mwy na haenau llwydion sy'n dueddol o dewychu nes bo'r haul yn graddol ddiflannu wrth i'r awyr dywyllu a llenwi cyn glaw. Ceir sawl disgrifiad o'r modd y mae'r haul, neu'r lleuad yn y nos, yn diflannu'n raddol wrth i'r haenau dewychu:
Dywediadau
[golygu | golygu cod]- Yr haul (neu'r lleuad yn y nos) yn boddi – glaw cyn bo hir (cyffredin)
- Yr awyr yn ceulo – glaw yn fuan (Gwynedd)
Weithiau ceir patrwm arbennig i'r haenau Altostratus:
Os bydd 'caws a llath' ar y wybr, glaw yn agos (Llandysul) Neu, ychydig funudau cyn iddi lawio gwelir ffurflau arbennig ar waelod y cymylau:
- Clytiau tonnog – dyma'r ffurf a elwir yn Altostratus undulatus
- 'Bronnau' yn crogi o waelod y cwmwl – dyma Altostratus mamma
- Yr awyr 'yn dorrog' o law neu eira (gogledd Ceredigion). Cymylau boliog llawn glaw.
Galeri
[golygu | golygu cod]-
Altostratus undulatus adeg y wawr.
-
Altostratus opacus
-
Altostratus translucidus hefo cumulus humilis oddi dano
-
Altostratus translucidus