Dŵr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dŵr

Yr hylif mwya cyffredin ar y ddaear yw dŵr, gyda thua 70% o arwyneb y ddaear wedi ei gorchuddio gan yr hylif ar ffurf cefnforoedd, moroedd, afonydd, llynnoedd a'r pegynnau iâ.

Ocsigen a hydrogen yw'r cyfansoddyn hwn, gyda'r fformiwla gemegol: H2O. Dŵr wedi'i rewi yw ; ager yw anwedd dŵr.

Mae'r corff dynol yn cynnwys rhywle rhwng 55% a 78% o ddŵr, yn dibynnu ar faint y corff hwnnw.[1] Pan mae'r corff dynol yn derbyn dŵr drwy'r ceg fe â'i i’r stumog cyn mynd i mewn i’r gwaed ac oddi yno i’r celloedd cyn diweddu yn yr arenau fel troeth. Er mwyn gweithio'n iawn, mae'r corff angen rhwng un a saith litr o ddŵr pob dydd gyda'r union faint yn dibynnu ar sawl ffactor: pa mor weithgar yw'r corff, tymheredd y corff, lleithder yr amgylchedd o'i gwmpas ayb. Drwy fwyta ac yfed mae'r corff yn derbyn y dŵr hwn. Mae'r farn gyffredinol yn mynnu fod rhwng 6 - 7 gwydriad o ddŵr yn lleiafswm y dylid ei yfed.[2]

Priodweddau cemegol[golygu | golygu cod y dudalen]

Berwbwynt dŵr[golygu | golygu cod y dudalen]

Beth ydy berwbwynt dŵr? Yn anffodus - fel cymaint o ffeithiau gwyddonol mae’r ateb yn dibynnu ar eich safbwynt. Oherwydd gwasgedd isel yr awyr ar ben Mynydd Everest mae dŵr yn berwi ar ddim ond 70 gradd canradd. Dim gobaith am baned rhesymol o de yno, felly. Cyfeiria’r 100 gradd at wasgedd safonol awyr ar lefel y môr. Yn “Hafan Eryri”, caffi newydd yr Wyddfa, bydd tegell yn berwi ar tua 97 gradd. Ond beth os plymiwch i ddyfnderoedd y môr? Yno mae’r gwasgedd yn cynyddu’n sylweddol - tuag un atmosffer ar gyfer pob 10 metr. Mi fyddai paned wedi’i baratoi (a’i yfed) ar waelod pwll nofio Bangor yn mesur dros 110 gradd braf ! Dros y tair blynedd diwethaf mae tîm o Brifysgol Bremen wedi bod yn mesur tymheredd dŵr yn codi o simneiau folcanig 3 cilomedr o dan wyneb yr Iwerydd.[3] Yno daethant o hyd i’r dŵr poethaf a fesurwyd erioed - 464 gradd canradd. Ond ar wasgedd o 300 atmosffer mae pethau rhyfedd yn digwydd i ddŵr. Nid yw’n berwi, fel y cyfryw, ond yn gweddnewid yn ddi-dor o hylif i anwedd - nid oes “swigod”. Gelwir hwn yn hylif uwch-gritigol. Dyma’r tro cyntaf i’w gweld ar y ddaear y tu allan i’r labordy. Bydd dŵr uwch-gritigol yn ymdoddi mineralau a metalau - megis aur a haearn - o’r creigiau yn effeithiol iawn, a thybir mai dyma darddiad llawer o halwynau’r môr. Wedi dod o hyd i, ac astudio’r, simneiau hyn bydd modd dysgu llawer am y prosesau sy’n creu’r moroedd a chynnal y bywyd sydd ynddynt.

Dŵr ymhell o'r Ddaear[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym Medi 2015 cyhoeddodd NASA fod un o'u cerbydau gofod, Curiosity, wedi darganfod olion dŵr ar ochrau un o geudyllau Mawrth, sef Gale. Ceir cafnau ar ochr y ceudwll (sy'n 154 km (96 mill) mewn diameter sy'n debyg i greithiau a adewir pan fo dŵr wedi llifo.[4][5] Eisioes yn Rhagfyr 2012, roedd gwyddonwyr wedi cyhoeddi fod dadansoddiad o bridd y blaned a analeiddiwyd gan Curiosity wedi awgrymu'r posibilrwydd y bu yno ddŵr ar un cyfnod, gan y canfuwyd yno foleciwlau dŵr, swlffwr, clorin a chyfansoddion organig. Mae dŵr yn hanfodol i fywyd, ac yn un o'r pethau pwysicaf mae gwyddonwyr y gofod yn chwilio amdano.

Y pedwar lle mwyaf tebygol o fod a dŵr arnynyt yw Y Blaned Mawrth, Titan (un o leuadau Sadwrn), Europa (un o leuadau Iau) ac Enceladus (lleuad arall Sadwrn). Yn y tabl canlynol, edrychir ar y tebygolrwydd; nodir hefyd, er mwy eu cymharu - y Ddaear a'n lleuad:

Testun y pennawd Planed Daear Y Lleuad Y Blaned Mawrth Titan

(un o leuadau Sadwrn)

! Europa

(un o leuadau Iau)

! Enceladus

(un o leuadau Sadwrn)

The Earth seen from Apollo 17.jpg
Luna vista desde el hemisferio sur.jpg
Celestia mars.jpg
Titan Visible.jpg
FullMoon2010.jpg
Enceladus from Voyager.jpg
Pellter o'r Ddaear
(Mewn cilometrau)
356,400 54 miliwn 1.2 biliwn 628 miliwn 1.2 biliwn
Diametr
(Mewn milltiroedd)
7,918 2,159 4,212 1,950 3,200 313
Posibilrwydd Dim Posibilrwydd cryf iawn fod dŵr

o dan wyneb y blaned

Posibilrwydd cryf fod dŵr o dan wyneb y blaned Posibilrwydd cryf iawn Posibilrwydd cryf
Ymweliadau Na Yn 2015 roedd 5 lloeren yn ei amgylchynu a dau robot yn

crwydro'i wyneb
*2018 ExoMars (Ewrop)

TiME (NASA) *US Europa (NASA)
*European Juice (Ewrop)
*2030 Life Finder

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]



Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am dŵr
yn Wiciadur.