Iau (planed)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Iau
|

Iau

Symbol
Nodweddion orbitol
Pellter cymedrig i'r Haul 5.20336301US
Radiws cymedrig 778,412,010km
Echreiddiad 0.04839266
Parhad orbitol 11b 315d 1.1a
Buanedd cymedrig orbitol 13.0697 km s-1
Gogwydd orbitol 1.30530°
Nifer o loerennau 63
Nodweddion materol
Diamedr cyhydeddol 142984 km
Arwynebedd 6.41×1010km2
Más 1.899×1027 kg
Dwysedd cymedrig 1.33 g cm−3
Disgyrchiant ar yr arwyneb 23.12 m s−2
Parhad cylchdro 9a 55.5m
Gogwydd echel 3.12°
Albedo 0.52
Buanedd dihangfa 59.54 km s−1
Tymheredd ar yr arwyneb:
isafrif cymedrig uchafrif
110K 152K ...
Nodweddion atmosfferig
Gwasgedd atmosfferig 70kPa
Hydrogen ~86%
Heliwm ~14%
Llosgnwy 0.1%
Anwedd dŵr 0.1%
Amonia 0.02%
Ethan 0.0002%
Ffosffin 0.0001%
Hydrogen sylffid <0.0001%

Iau yw planed fwyaf Cysawd yr Haul. Mae'n gawr nwy, a'r mwyaf amlwg hefyd i'w gweld o'r ddaear. Dyma frenin y planedau, y pumed o'r haul, ac mae'n anferth – dros ddwywaith cymaint a'r holl blanedau eraill efo'i gilydd. Gellid ffitio 1,300 planed o faint ein daear ni, fel pŷs mewn pot jam, o'i mewn.

O ran cyfansoddiad mae'n wahanol i'r 4 planed carregog sydd agosaf i'r haul (Mercher, Gwenner, y Ddaear a Mawrth). Iau yw'r cyntaf a'r mwyaf o 4 o blanedau mawrion a ddisgrifir fel y 'cewri nwy' (Iau, Sadwrn, Iwranws a Neifion) a gyfansoddir, yn bennaf, o heidrogen, heliwm, dŵr, methên ag ammonia.

Mae'n ymddangos bod cnewyllyn eiriasboeth Iau wedi ei amgylchu gan haen drwchus o heidrogen metalaidd ac yna haen hylifog o heidrogen a heliwm. Troia'r Heidrogen yn fetalaidd dan ddylanwad pwysedd disgyrchiant enfawr a gwres aruthrol Iau (amcanir bod y cnewyllyn tua 30,000°C). Mewn gwirionedd petae'r blaned ychydig yn fwy byddai'n ddigon i gynneu ymasiad (fusion) niwclear fyddai'n ei throi yn ail haul. Wrth lwc ni ddigwyddodd hynny neu fe fyddai bywyd yn amhosib ar ein daear ni. O amgylch y cyfan ceir atmosffer o nwyon heidrogen a heliwm yn bennaf â chyfansoddion eraill megis dŵr, methên ag ammonia yn ffurfio sawl haen o gymylau trwchus lliwgar.

Am fod Iau yn troi ar ei echel bob 9.8 awr, sy'n llawer cyflymach na'r un blaned arall (cyflymder o 28,000 mya) yng nghysawd yr haul, ceir 'tywydd' amlwg iawn – efo gwyntoedd cryfion, hyd at 250 mya ar y cyhydedd, yn rhuthro'n ddi-baid gan roi cyfres o wregysau lliwgar o gymylau terfysglyd yn ymestyn i'r pegynnau, lle bydd y gwyntoedd wedi arafu i tua 100mya. Ceir patrymau tonnog hardd ar y ffiniau rhwng y gwregysau – a dim rhyfedd chwaith, oherwydd mae cyfeiriad y gwynt yn newid o un i'r llall gan lifo'n groes i'w gilydd, bob yn ail, yn union fel y gwnant ar ein daear ni, ond yn llai nerthol o gryn dipyn! Nodwedd amlwg iawn rhwng y cyhydedd a'r pegwn deheuol yw'r 'smotyn coch' enwog. Hyricên enfawr hirgron a pharhaus yw hwn, sydd tua 30,000 milltir o hyd a chymaint a phedair gwaith cymaint a'n daear ni.

Am fod patrymau'r cymylau yn newid yn gyson mae Iau wedi ennyn cryn chwilfrydedd ymysg seryddwyr, astrolegwyr ac artistiaid o bob math. Cyfansoddodd Mozart a Holst symffoinîae, neu rannau ohonynt, i'r blaned a seiliodd yr awdur Arthur C Clarke rai o'i nofelau ffug-wyddonol, e.e. 'Meeting with Medusa' (1972) a '2001, A Space Odessey' (ddaeth hefyd yn ffilm adnabyddus), ar ddigwyddiadau dychmygol yng nghyffiniau'r blaned fawr.

Chwiliedyddion[golygu | golygu cod y dudalen]

Pioneer 10 oedd y chwiliedydd gofod cyntaf i ymweld â'r blaned ym 1973, ond roedd ei offerynnau gwyddonol yn gymharol ansoffistigedig, ac roedd rhaid i wyddonwyr aros tan 1978, a chyrhaeddiad Voyager 1 a Voyager 2, tan iddynt dderbyn lluniau a mesuriadau gwell. Yn fwy diweddar, ymwelodd Galileo â'r blaned, yn gwneud mesuriadau gwyddonol o 1995 i 2003.

Erbyn 2010, roedd wyth o chwiliedyddion gofod wedi ymweld ag Iau. Bydd y chwiliedydd NASA Juno y cerbyd nesaf i ymweld â'r blaned. Lawnsiwyd Juno yn 2011; bydd o'n cyrraedd y blaned yn 2015.

Mae cynllun arall ar y gweill i'r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (ESA) anfon chwiliedydd gofod newydd, y Jupiter Icy Moon Explorer, yn y dyfodol er mwyn darganfod mwy am loerennau Iau, yn cynnwys Ganymede, a Ewropa, sydd gan wyneb o iâ. Credir bod yna fôr o ddŵr odan y gwyneb sydd, efallai, yn cynnwys organeddau byw. Ni disgwylir lawnsiad o'r Jupiter Icy Moon Explorer yn gynharach na 2022.

Prif loerennau Iau[golygu | golygu cod y dudalen]

Astroleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymera Iau 11.9 mlynedd i gylchdroi rownd yr haul Golyga hynny ei fod, wrth ddilyn llwybr y planedau ar draws y wybren, yn symud yn araf drwy'r cytserau sy'n rhoi inni 12 arwydd y Sidydd yn eu tro, gan gymeryd tua blwyddyn i groesi bob un. Dim rhyfedd felly bod maint a rheoleidd-dra'r blaned Iau yn golygu ei bod yn fawr ei dylanwad mewn cyfundrefnau astrolegol ar draws y byd, e.e. yn astroleg Tsieina cynrychiola gyfraith a threfn ddwyfol sy' yn ei dro yn dylanwadu ar ffawd ac yn rhoi arweiniad i gyfreithwyr daearol.

Chwedloniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ddwy fil o flynyddoedd cyn Crist yr enw ar y blaned Iau ym mytholeg Mesopotamia oedd Marduk. Ef oedd y duw greawdwr a fu'n gyfrifol am ladd y dduwies Tiamat a'i anghenfilod anrhefn cyn ei hollti'n ddwy ran i wneud y ddaear a'r awyr ac yna defnyddio ei phoer i wneud glaw, gwynt a chymylau. O ganlyniad daeth Marduk yn brif dduw y Mesopotamiaid ac yn gyfrifol yn arbennig am amaethyddiaeth a'r ffrwythlondeb ddeilliai o lawogydd a llifogydd tymhorol yr afonydd.

Ceir adlais gref o stori Marduk yn y fytholeg gynnar am Zeus, prif dduw'r Groegiaid, ddaeth i gynrychioli cyfraith, trefn ac awdurdod. Roedd yr hen Zeus yn enwog iawn am ei anturiaethau rhywiol niferus ac yn gyfrifol am dadogi llu o dduwiau eraill ac arwyr daearol. Dim rhyfedd, felly, i'r pedwar lleuad oedd yn hysbys i seryddwyr, cyn dyddiau telescopau modern, gael eu henwi ar ôl rhai o'i gariadon: Io, Ewropa, Ganymede a Callisto. Gelwir rhain y lleuadau Galileaidd, oherwydd mai Galileo a'u darganfyddodd yn 1610.

Yn dilyn ymweliadau lloerennau megis Galileo yn 1995 ac yn arbennig Cassini yn 2000 cynyddodd niferoedd lleuadau Iau erbyn hyn i dros 60! Canfyddwyd nodweddion arbennig iawn ar wynebau rhai ohonynt ac enwyd un o graterau amlwg Ewropa yn 'Pwyll' ar ôl pendefig Dyfed y Mabinogion.

Cafodd llawer o chwedloniaeth Zeus y Groegiaid ei fabwysiadu a'i addasu ar gyfer Iau y Rhufeiniaid, neu Jupiter Pluvalis – duw y glaw. Cynrychiolai Iau awdurdod, trefn a chyfiawnder ac roedd hefyd yn athronydd, yn rhoi cyngor doeth ac yn athro. Ceir rhywbeth tebyg yn rhai o grefyddau'r dwyrain – enw'r blaned Iau i Hindwiaid yn yr India yw 'Guru', sy'n golygu athro ysbrydol.

Yn y byd Celtaidd y duw gyfatebai agosa i Iau oedd duw'r awyr, ddeuai mewn sawl ffurf, gyda sawl enw lleol arno. Yn amlycaf, mae'n debyg, oedd Taranis, neu'r Taranwr, a gariai daranfollt yn un llaw ac olwyn yn y llall. Cynrychiolai'r olwyn droiad y rhod (y tymhorau) ac roedd hefyd yn symbol o'r haul. Cysylltir duw'r awyr â rhyfel, stormydd a ffrwythlondeb y ddaear.

Fel yn achos duw'r haul ceid perthynas agos rhwng duw'r awyr a'r dderwen. Fe barhaodd hynny mewn llên gwerin tan yn lled ddiweddar. Er enghraifft ceid coel fod y dderwen yn cynnig noddfa, i'r cyfiawn, rhag mellt. Ond nid i'r anghyfiawn – fel y profwyd, yn nhŷb rhai, pan laddwyd gan fellten y crogwr fu'n gyfrifol am ddienyddio 200 o 'rebeliaid' yr Iarll Mynwy gondemniwyd gan y Cymro gorfrwdfrydig hwnnw, y Barnwr Jeffreys, wedi'r 'Brawdlys Gwaedlyd' yn 1685. Roedd y crogwr wedi llochesu dan dderwen ar y pryd! Bu farw Jeffreys yn Nhŵr Llundain.

Ond efallai mai'r delweddau grymusaf o'r duw awyr Celtaidd yw'r rheiny gafwyd ar bennau colofnau cerrig anferth yn Ffrainc a de'r Almaen. Yno, mor uchel yn yr awyr a phosib, fe'i portreadir yn carlamu ar draws y wybren ar ei geffyl, efo'i glogyn yn chwirlîo fel banner o'i ôl. Mae'n dal olwyn neu fellten yn ei law ac o dan garnau ei geffyl ddraig anrhefn neu anghenfil gyda choesau fel seirff. Cynrychiola hyn y frwydr barhaus rhwng yr awyr a'r dyfnder; rhwng bywyd a marwolaeth; da a drwg; goleuni a thywyllwch. Drwy hynny deuwn yn ein holau yn daclus at Marduk y duw Mesapotamaidd a'i frwydr yntau â dreigiau.


Planedau yng Nghysawd yr Haul
Mercher
Gwener
Y Ddaear
Mawrth
Iau
Sadwrn
Wranws
Neifion
Saturn template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).