Callisto (lloeren)
Gwedd
| Enghraifft o: | lleuad o'r blaned Iau, lleuad arferol |
|---|---|
| Màs | 107.566 ±0.003 |
| Dyddiad darganfod | 7 Ionawr 1610 |
| Rhan o | Lloerennau Galileo |
| Yn cynnwys | Q16529658 |
| Echreiddiad orbital | 0.0074 |
| Radiws | 2,410.3 ±1.5 cilometr |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0bt_p |

Un o loerennau'r blaned Iau yw Callisto, ac un o'r lloerennau mwyaf yng Nghysawd yr Haul. Darganfuwyd y lloeren gan y seryddwr Galileo Galilei yn 1610. Enwodd y lloeren "newydd" ar ôl y nymff Roegaidd Callisto.
Gan ei fod mor bell o'r Haul, mae dŵr yn bodoli fel rhew ar wyneb Callisto; fodd bynnag, credir fod yna fôr o ddŵr o dan wyneb Callisto sydd yn cael ei gadw rhag rhewi gan wres sydd yn dod o ganol y lloeren.