Ethan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Strwythur ethan

Cyfansoddyn cemegol a ddynodir â'r fformiwla gemegol C2H6 yw ethan. Dyma'r unig enghraifft o alcan dau-garbon, h.y. hydrocarbon aliphatig. Ar dymheredd a phwysau safonol, mae ethan yn nwy heb liw nac arogl.

Ceir rhywfaint o ethan yn awyrgylch y ddaear ac ar rai wrthrychau seryddol, fel ar wyneb y blaned gorrach Makemake. Yn achos awyrgylch y ddaear, mae'n cael ei greu fel adwaith i ymbelydredd yr haul ar y nwy methan. Ond mae presenoldeb ethan ar blanedau allanol fel Makemake, ar y lloeren Titan[1] ac mewn rhai comedau, wedi arwain rhai gwyddonwyr i ddadlau y bu ethan yn un o gynhwysiad gwreiddiol nifwl yr haul y credir y ffurfiwyd yr haul ei hun a'r planedau ohoni.

Yn y diwydiant olew, ynysir ethan o nwy naturiol ac mae'n sgil-gynnyrch puro petroliwm hefyd. Ei phrif ddefnydd yw fel stoc bwydo petrogemegol ar gyfer cynhyrchi ethylen.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Bob Brown et al. (2008). "NASA Confirms Liquid Lake on Saturn Moon" Archifwyd 2011-06-05 yn y Peiriant Wayback. Gwefan NASA.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: