Nwy naturiol

Oddi ar Wicipedia
Tanc storio i nwy naturiol

Tanwydd ffosil yw nwy naturiol. Mae'n cynnwys cymysgedd o nwyon, ond methan yw'r pennaf. Mae'r nwy yn casglu o dan y ddaear mewn creigiau athraidd (e.e. tywodfaen), fel arfer mewn meysydd olew. Caiff y nwy ei storio fel nwy naturiol cywasgedig (CNG) neu nwy naturiol hylifedig (LNG).

Ffurfiant[golygu | golygu cod]

Fel olew a glo, ffurfir y nwy o bydredd anaerobig gwastraffoedd organig dros filiynnau o flynyddoedd. Yn wahanol i lo, ffynhonnell y deunydd organig yw micro-organebau morol fel plancton, ac mae pob maes nwy wedi bod o dan moroedd twym pan casglodd y deunydd organig. Gan fod nwy naturiol ac olew yn medru llifo, maent yn ymgasglu mewn creigiau athraidd fel tywodfaen. Pan mae haen o dywodfaen yn cael ei gorchuddio gan haen o graig anathraidd fel sial, gall olew a nwy gael eu dal mewn man lle mae'r haenau yn cael eu plygu gan newidiadau daearegol.

Priodweddau'r nwy[golygu | golygu cod]

Mae nwy naturiol yn nwy di-liw a di-arogl. Er mwyn osgoi ffrwydradau os mae'r nwy yn dianc, ychwanegir cyfansoddyn sylffwr er mwyn achosi arogl cryf. Mae'r nwyon yn fflamadwy iawn ac yn gallu creu cymysgeddau ffrwydradol gydag ocsigen neu aer.

Cludir nwy mewn llong fel tancer nwy neu drwy beipen cludo nwy.

Llosgir nwy naturol am ei ynni, er enghraifft mewn injan bysiau a nifer o moduron eraill ac i gynhyrchu trydan.

Ystadegau[golygu | golygu cod]

Yn ystod 2003, treuliwyd 2.470 biliwn m³ nwy naturiol ledled y byd (tua 25% yr ynni a treuliwyd yn ystod y flwyddyn hon). Yn ystod yr un flwyddyn, cynhyrchwyd y rhan fwyaf o nwy naturiol yn Rwsia (23%), Unol Daleithiau America (20%), Canada (7%) a'r Deyrnas Unedig (4%).

Yn 2003 fuodd hi'n debyg fod tua 154.000 biliwn m³ o nwy naturol yn dal i fod o dan daeaer ledled y byd: