Planed

Oddi ar Wicipedia
Seryddiaeth
Seryddiaeth

Lleuad
Planed
Seren
Galaeth
Bydysawd


Astroffiseg
Cosmoleg


Nifwl

Planed yw corff sy'n cylchdroi o amgylch seren, er enghraifft mae'r Ddaear yn blaned gan ei bod yn cylchdroi o amgylch ein seren ni, sef yr haul. Wyth planed sydd yn Nghysawd yr Haul, tair planed gorrach a sawl planed llai. Mae sawl planed enfawr wedi cael eu darganfod yn cylchdroi o amgylch sêr eraill, ac mae planedau llai eu maint yn cael eu darganfod trwy ficrolensio dwysterol; gelwir y planedau hyn yn blanedau allheulol.

Gellir rhannu'r planedau hyn yn ddau ddosbarth: y cewri mawr llawn nwyon ar y naill law a'r cyrff llai o greigiau ar y llaw arall. Ceir wyth planed yng Nghysawd yr Haul; mae Mercher, Gwenner, Y Ddaear a Mawrth yn blanedau daearol, Iau a Sadwrn yn gewri nwy, ac Wranws a Neifion yn gewri iâ.

Mae gennym faes magnetig o amgylch ein planed sy'n ein hamddiffyn rhag ffrwydradau ymbelydredd a gronynnau y mae'r Haul yn eu hanfon.

Diffiniad[golygu | golygu cod]

Mae planed yn gorff sydd:

  • mewn orbit o amgylch yr Haul;
  • â digon o fàs i gynnal disgyrchiant ei hun er mwyn trechu grymoedd gan gyrff eraill, fel y ffurfir siâp hydrostatig cytbwys;
  • wedi tyfu mor fawr fel ei fod wedi gorffen y gwaith o glirio neu atynnu'r mân lwch, y cerrig, y gwib a'r cyrff eraill sydd yn ei orbit.

Daeth y diffiniad uchod i fodolaeth yn 2006; diffiniad nad oedd yn caniatáu i Blwton fod yn blaned ac felly'n lleihau planedau cysawd yr haul o naw i wyth:

  1. ☿ Mercher
  2. ♀ Gwener
  3. 🜨 Daear
  4. ♂ Mawrth
  5. ♃ Iau
  6. ♄ Sadwrn
  7. ♅ Wranws
  8. ♆ Neifion

Iau yw'r fwyaf; 318 gwaith màs y Ddaear; a Mercher yw'r lleiaf; 0.055 gwaith màs y Ddaear.

Ystyrid Plwton bellach yn blaned gorrach.


Planedau yng Nghysawd yr Haul
Mercher
Mercher
Gwener
Gwener
Y Ddaear
Y Ddaear
Mawrth
Mawrth
Iau
Iau
Sadwrn
Sadwrn
Wranws
Wranws
Neifion
Neifion


Planedau allheulol[golygu | golygu cod]

Planed allheulol yw planed sydd y tu allan i Gysawd yr Haul. Er gwaethaf yr enw Daear-ganolog, mae pob planed allheulol (extrasolar) yn cylchu ei haul (seren) ei hun. Y cyntaf i gael ei darganfod oedd planed a oedd yn cylchu'r seren 51 Pegasi, a welwyd gyntaf ar Hydref 6, 1995 gan Michel Mayor a Didier Queloz o Brifysgol Genefa.

Roedd rhyw 306 o blanedau allheulog wedi'u darganfod erbyn Awst 2008. Un o'r ddiweddaraf i gael ei darganfod yw Gliese 581 c sy'n 20 blwyddyn goleuni i ffwrdd ac fe allai gynnal bywyd.

Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am planed
yn Wiciadur.