Seren
Seryddiaeth | |
Lleuad |
- Gweler hefyd Seren (gwahaniaethu).
Clwstwr o beli o nwy sydd yn cael eu rhyddhau gan adweithiau niwclear y tu mewn iddynt yw seren ac mae hyn yn gwneud iddi oleuo'n llachar yn y nen. Y lluosog yw sêr. Mae'r gair yn tarddu o'r gwreiddyn Celteg *sterā- sy'n tarddu o'r Indo-Ewropeg *h₂stḗr-. Yr Haul yw'r seren agosaf at y ddaear. Yr enw ar astudiaeth o'r sêr a gwrthrychau seryddol eraill yw seryddiaeth.
Mae seren yn cael ei hynni o'r adweithiau thermoniwclear yn ei chanol poeth. Mae ein Haul ni yn seren o fath cyffredin; mae màs sêr yn amrywio o 0.05 i 60 gwaith màs yr Haul.
Mae màs seren yn penderfynu ei disgleirdeb, tymheredd ei wyneb, ei maint a phriodoliaethau eraill, ynghyd â'i chwrs esblygol a'i hoes; uched y màs, disgleiriach, poethech a mwyaf y seren.
Yn ystod eu hoes mae sêr yn esblygu, proses a elwir yn esblygu seryddol. Mae seren ifanc yn esblygu o'r cyflwr o fod yn egin-seren i'r cyflwr lle maent yn cynhyrchu ynni trwy'r broses o ymasiad niwclear lle mae niwclei hydrogen yn asio ac yn ffurfio heliwm:
- H > He
Mae'r broses elfennol hon yn parhau am tua 10¹° o flynyddoedd yn achos seren o fàs tebyg i'r Haul ond dim ond am ychydig o filiynau o flynyddoedd yn achos sêr anferth. Pan gaiff y hydrogen ei losgi'n gyfan gwbl, mae sêr yn troi'n sêr corrach, a'r rhai o fàs tebyg i'r Haul yn troi'n gewri coch. Mae sêr o fàs isel, ar y llaw arall, yn tueddu troi'n gorachod gwynion ar ddiwedd eu hoesau.
Mae rhai o'r sêr mwyaf yn gorffen eu rhawd mewn uwchnofa anferth, gyda'r hyn sy'n weddill ohonynt yn ffurfio naill ai sêr niwtron neu dyllau duon, yn ôl eu màs.
Ni ddosberthir sêr yn gyson trwy'r bydysawd, ond yn hytrach y cânt eu cynllunio mewn cynulliadau anferth a elwir galaethau mewn canlyniad i rymusterau disgyrchiant.
Mae ein seren ni, yr Haul, yn rhan o'n galaeth leol, y Galaeth y Llwybr Llaethog, a leolir ar un o freichiau allanol yr alaeth. Mae'r seren agosaf i'r Haul yn 4.3 blwyddyn goleuni i ffwrdd.