Neifion (planed)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Y blaned Neifion

Neifion yw'r wythfed blaned oddi wrth yr Haul. Mae Neifion yn llai ei thryfesur nag Wranws ond yn fwy ei chrynswth. Hi yw'r leiaf, yr oeraf a'r pellaf o'r bedair blaned fawr a elwir yn gewri nwy – er y byddai cewri rhew yn well disgrifiad o Iwranws a Neifion am fod y nwyon, sydd â'r rhan amlycaf yn eu cyfansoddiad, wedi rhewi'n gorn bron i gyd.

  • Cylchdro: 4,504,000,000 km (30.06 o Unedau Seryddol) oddi wrth yr Haul.
  • Tryfesur: 49,532 km (ar ei chyhydedd)
  • Cynhwysedd: 1.0247e26 kg

Duw yr eigion yw Neifion ym mytholeg Rufeinig.

Gwelwyd y blaned Neifion gan y seryddwr Galileo yn 1612, ond methodd wireddu ei fod o'n edrych ar blaned, gan gymryd ei bod yn seren.

Enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Wrth lwc ni chafwyd fawr o drafferth i enwi'r corff newydd. Ddim fel yn achos Iwranws, ddarganfyddwyd yn 1781, lle bu anghytuno am 70 mlynedd cyn i'r enw gael ei dderbyn gan bawb. Eisoes roedd y prif dduwiau clasurol (Rhufeinig yn bennaf) wedi eu cynrychioli'n deilwng wrth enwi'r planedau, ond roedd dau go amlwg ar ôl, sef Neifion a Phlwto, brodyr Iau y prif dduw. Yn ôl y chwedl, wedi i Iau drechu ei dad, Sadwrn, aeth y tri brawd ati i dynnu byrraf docyn i benderfynu pwy fyddai'n dduw ar yr awyr, y môr ac annwfn – y byd arall. O ganlyniad Iau gafodd yr awyr, Neifion y moroedd a Phlwto yr arall-fyd.

Roedd hynny'n siwtio personoliaeth Neifion i'r dim. Un anwadal a therfysglyd ei dempar oedd o beth bynnag ac yn hoff iawn o geffylau gwynion – fel y gwelwn weithiau yn carlamu ar frîg y tonnau adeg storm. Cyd-ddigwyddiad ffodus a rhyfeddol iawn oedd bod lliw y blaned Neifion, pan gafwyd telescop digon cryf i'w weld yn iawn, yn las tywyll fel y moroedd efo ambell gwmwl gwyn ar ei wyneb – yn union fel tonnau'n brigo.

Darganfod[golygu | golygu cod y dudalen]

Darganfuwyd Neifion ym 1846[1] Mae Neifion wedi cael un ymweliad gan ofodlestr, sef Voyager 2, ar y 25ain o fis Awst, 1989.

Mae Neifion yn ymddangos gyntaf fel un o'r sêr gofnodwyd gan Galileo o gwmpas y blaned Iau yn 1612 a 1613. Ond am ei bod yn symud mor eithriadol o araf fe fethodd Galileo a deall ei bod yn wahanol, gan feddwl mai seren sefydlog oedd hi. Chaiff o, felly, ddim y clod am ei darganfod.

Yn 1821 cyhoeddodd y Ffrancwr Alexis Bouvard dablau i ddisgrifio symudiadau Iwranws. Ond am ryw reswm doedd y blaned honno ddim yn dilyn y llwybr disgwyliedig yn ddigon manwl. Wedi ail fesur ac ailweithio ei ffigyrau dros nifer o flynyddoedd cynigiodd mai tynfa rhyw gorff neu blaned arall, ymhellach allan oedd yn achosi'r anghysondeb.

Erbyn 1843 roedd John Couch Adams yn Lloegr wedi geithio allan lle dylsid chwilio am y blaned ddirgel. Aeth at y Seryddwr Brenhinol yn Grenwich ac at bennaeth Gwylfa Caergrawnt i ofyn iddynt chwilio, ond wnaethon nhw ddim a gwneus hynny o ddifri. Ond yn ddiarwybod i'r seryddwyr saesnig roedd le Verrier ym Mharis hefyd wedi gweithio allan lle i chwylio. Drwy gyd-ddigwyddiad roedd yntau, yn yr un modd, wedi cael trafferth i berswadio arsyllwyr yn Ffrainc i weithredu am eu bod hwythau, fel y Saeson, yn amheus o'r fath ganlyniadau. Gyrrodd le Verrier ei nodiadau i arsyllfa Berlin, a'r noson honno dyma'r Almaenwyr yn troi eu telescop i'r rhan o'r awyr y'u cyfeirwyd nhw ati ac o fewn chydig funudau roeddent wedi canfod y blaned newydd!

Cyfansoddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae lliw glas Neifion yn ganlyniad o fethan yn yr awyrgylch yn llyncu golau coch, ond mae hefyd rhyw chromoffor anhysbys sy'n rhoi i'r cymylau eu lliw glas goludog. Fel y cewri nwy eraill, mae gan Neifion wyntoedd cyflym wedi eu cyfyngu i rwymynnau o ledred a stormydd enfawr neu drobyllau. Gwyntoedd Neifion yw'r cyflymaf yng Nghysawd yr Haul, yn cyrraedd 2000 km yr awr. Fel Iau a Sadwrn, mae gan Neifion ei ffynhonnell wres ei hun -yn rheiddiadu dwywaith yr egni y mae hi'n derbyn o'r Haul.

Mae cyfansoddiad Neifion yn debyg i gyfansoddiad Wranws: rhewogydd a chreigiau amrywiol a rhyw 15% hydrogen gydag ychydig o heliwm. Fel Wranws, ond yn wahanol i Iau a Sadwrn, gallai bod nad oes ganddi haenau gwahanol mewnol eithr ei bod mwy neu lai'n unffurf ei chyfansoddiad. Ond mae'n debyg fod ganddi galon fach greigiog, tua'r un maint â'r Ddaear. Mae awyrgylch Neifion wedi ei gyfansoddi o hydrogen a heliwm ac yn cynnwys methan.

Fel yn achos y cewri eraill ni ellir gweld wyneb Neifion, sy' wedi ei guddio dan haen o darth a chymylau trwchus mewn atmosffer o heidrogen a heliwm yn bennaf, gyda ryw chydig o fethên yn ychwanegol. Glas tywyll ydi lliw Neifion hefo ambell gwmwl gwyn yn gwibio o'i chwmpas ond o bryd i'w gilydd gwelir smotiau mawr tywyll hefyd. Stormydd enbyd ydi'r rhain – tebyg i'r smotyn mawr coch ar Iau mewn gwirionedd. O dan y cymylau ceir haen drwchus iawn o rew, sydd wedi ei wneud o ddŵr, methân ag amonia, yn amgylchynnu cnewyllun bychan creigiog.

Gorwedda Neifion tua 2.8 biliwn o filtiroedd o'r haul, sydd tua x30 gwaith pellach i'r gofod na'n daear ni. O ganlyniad mae ei blwyddyn hi yn hir iawn: mae'n cymeryd 165 o'n blynyddoedd ni i fynd un waith rownd yr haul.

Ond os yw ei blwyddyn yn hir mae ei dydd yn fyr – 16 awr. Am ei bod cymaint mwy (x57) na'r ddaear golyga hynny ei bod yn troi'n eithriadol o gyflym, sy'n creu'r gwyntoedd ffyrnicaf geir ar unrhyw un o blanedau'r haul: 600 – 700mya yn arferol a hyd at 1,200mya o gwmpas y smotiau mawr tywyll.

Modrwyau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gan Neifion fodrwyau hefyd. Mae gan un ohonynt strwythur wedi ei dirwyn (uchod). Fel Iau ac Wranws mae modrwyau Neifion yn dywyll, ond mae eu cyfansoddiad yn anhysbys. Mae gan modrwyau Neifion enwau: y fwyaf allanol ydy Adams, sy'n cynnwys tri bwa amlwg wedi eu henwi fel Rhyddid, Cydraddoldeb a Brawdoliaeth. Y nesaf ydy un ddi-enw sy'n cyd-gylchio gyda Galatea, yna Leverrier ac yn olaf Galle.

Dim ond un llong ofod – Voyager 2 – sydd wedi galw heibio Neifion hyd yn hyn a hynny yn 1989 ar ôl taith o 12 mlynedd. Erbyn iddi gyrraedd roedd yr offer cyfrifiadurol arni wedi mynd yn eithriadol o hen ffasiwn – fe fuasent yn well mewn amgueddfa! Ond, wrth lwc, er fod y signalau ohoni wedi gorfod teithio dros 4 biliwn o filltiroedd adre i'r ddaear, a bod eu nerth yn x20 biliwn gwaith gwanach na'r golau o wyneb oriawr ddigidol, roedd cyfrifiaduron daearol wedi gwella digon i fedru eu derbyn a'u prosesu fel y gellid gweld Neifion yn ei holl ogoniant.

Cadarnhaodd Voyager fod cylchoedd main gwan yn cylchdroi am Neifion, 4 ohonynt i gyd, sy'n ei gwneud yn debyg i'r cewri nwy eraill. Ar ben hynny ychwanegwyd 6 lleuad newydd at y 7 welwyd eisoes drwy delesgop – sy'n dwad â'r cyfanswm i 13. Y mwyaf o'r rhain yw Triton – y corff oeraf fesurwyd hyd yn hyn yng nghusawd yr haul: -235°C. Enwyd Triton ar ôl fforch dri-phig duw'r môr.

Lloerennau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gan Neifion 13 lloeren; 7 bach gydag enwau, Triton, 4 wedi eu darganfod yn 2002 ac un wedi ei darganfod yn 2003 sydd eto i gael ei henwi.

Astroleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu i Neifion, fel Iwranws a ddarganfyddwyd 65 mlynedd ynghynt, achosi cryn dipyn o grafu pen i astrolegwyr oherwydd doedd y planedau 'newydd' hyn ddim yn ffitio i'r drefn arferol. Ers miloedd o flynyddoedd ystyrid bod y planedau, wrth iddynt deithio'n araf ar eu llwybr drwy gytserau'r Sidydd, yn dylanwadu ar ffawd pobol y ddaear. Ond rwan dyma ddau newydd a rheiny heb unrhyw effeithiau gwybyddus. Roedd hyn yn codi'r cwestiwn: os oedd yna y fath blanedau dieffaith onid oedd hynny'n codi amheuaeth am effeithiau'r 'hen' blanedau hefyd ac felly am ddilysrwydd astroleg yn gyfangwbwl?

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).




Planedau yng Nghysawd yr Haul
Mercher
Gwener
Y Ddaear
Mawrth
Iau
Sadwrn
Wranws
Neifion