Neifion (duw)

Oddi ar Wicipedia
Neifion
Enghraifft o'r canlynolduw dŵr, duwdod Rhufeinig Edit this on Wikidata
Enw brodorolNeptunus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Duw dŵr croyw a'r môr ym mytholeg Rufeinig yw Neifion (Lladin: Neptunus). Mae'n cyfateb i'r duw Groegaidd Poseidon. Y dduwies Salacia yw ei wraig. Mae hithau'n cyfateb i'r dduwies Amphitrite.

Mae'n debyg bod Neifion yn gysylltiedig â ffynhonnau dŵr croyw cyn y môr.[1] Addolwyd Neifion gan y Rhufeiniaid hefyd fel duw ceffylau, dan yr enw Neptunus Equester, noddwr rasio ceffylau.

Fe'i darlunnir yn aml mewn gweithiau celf o'r cyfnodau'r Henfyd, y Dadeni ac yn ddiweddarach, gyda thryfer a morfeirch.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Georges Dumézil, La religion romaine archaïque (Paris, 1966), t. 381