Adeilad Morgannwg, Prifysgol Caerdydd
Gwedd
| Math | adeilad prifysgol |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Prifysgol Caerdydd |
| Lleoliad | Parc Cathays, Castell, Caerdydd |
| Sir | Caerdydd, Castell, Caerdydd |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 12.7 metr |
| Cyfesurynnau | 51.4859°N 3.1815°W |
![]() | |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
Adeilad rhestredig Gradd I yn perthyn i Brifysgol Caerdydd yw Adeilad Morgannwg. Neuadd sir Forgannwg ydoedd yn wreiddiol; fe'i brynwyd gan y brifysgol ym 1997 a lleolir ei Hysgol Gwyddorau Cymdeithasol yno bellach.[1] Cynlluniwyd yr adeilad yn yr arddull glasurol gan y penseiri Vincent Harris a T. A. Moodie; enillasant y gystadleuaeth ar ei gyfer ym 1908 ac fe'i gwbwlhawyd ym 1912.[2] Codwyd estyniad i'r de i gynlluniau Syr Percy Thomas o 1931 i 1932.[3]
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Alegori o Fwyngloddio, cerflun gan Albert Hodge i'r chwith o'r brif fynedfa
-
Alegori o Forwriaeth, cerflun arall gan Hodge, i'r dde o'r brif fynedfa
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) The Glamorgan Building. Prifysgol Caerdydd. Adalwyd ar 14 Ionawr 2014.
- ↑ Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin. t. 230
- ↑ Chappell, Edgar L. (1946). Cardiff's Civic Centre: A Historical Guide. Caerdydd: Priory Press. t. 43
