Neidio i'r cynnwys

Amphitrite

Oddi ar Wicipedia
Llun mosaic o Amphitrite ar lawr fila dan ddaear yn Bulla Regia, Tiwnisia

Amphitrite yw merch Nereus a Doris a gwraig Poseidon ym mytholeg Roeg. Hi yw duwies y môr a brenhines popeth sy'n byw ynddo.

Yn ôl y chwedl, gwelodd Poseidon hi'n dawnsio gyda'r Neriaid ar ynys Naxos un diwrnod. Cipiodd hi a'i dwyn i'w deyrnas. Nid yw hi'n cael ei glaw'n wraig Poseidon yng ngwaith Homer, ond yn dduwies y môr sy'n hyrddio'r tonnau yn erbyn y creigiau ac yn gofalu am creaduriaid y môr. Ei fab yw Triton, un o dduwiau'r môr.

Nid oedd yn arferol addoli Amphitrite ar wahân yn yr Henfyd. Roedd hi'n un o hoff wrthrychau dylunwyr mosaic a cherflunwyr yr Henfyd. Mae hi'n cael ei phorteadu gyda rhwyd am ei gwallt, crafangau crancod yn y goron ar ei phen, yn cael ei chludo gan Tritoniaid neu gan dolffinau neu greaduriaid morol eraill, neu'n cael eu tynnu ganddynt mewn cerbyd o gregynnau.

Yng nghrefydd y Rhufeiniaid uniaethid Amphitrite â Salacia, duwies y tonnau.