Poseidon

Oddi ar Wicipedia
Poseidon, cerfun yn ninas Copenhagen

Duw'r môr ym Mytholeg Roeg oedd Poseidon (Ποσειδῶν), yn cyfateb i Neifion (Lladin: Neptunus) ym mytholeg Rhufain. Roedd hefyd yn dduw ceffylau a daeargrynfeydd.

Roedd yn fab i Cronus a Rhea ac yn frawd i Zeus a Hades, ac roedd ganddo blant niferus; ei wraig oedd Amphitrite. Wedi'r rhyfel rhwng y duwiau a'r Titaniaid, rhannodd y tri brawd y ddaear rhyngddynt; yr awyr i Zeus, y môr i Poseidon a'r isfyd i Hades. Roedd yn brif dduw nifer o ddinasoedd Groegaidd, yn cynnwys Corinth, er iddo golli cystadleuaeth ag Athena i benderfynu pwy fyddai prif dduw Athen.