Daeargryn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Difrod daeargryn yn El Salvador

Dirgryniad wyneb y daear yw daeargryn. Gelwir astudiaeth gwyddonol o ddaeargrynfeydd yn Seismoleg. Mesurir yr ynni straen a ryddheir gan ddaeargryn (sef cryfder y daeargryn) ar y Raddfa Richter.

Mae daeargrynfeydd yn digwydd pob dydd, ond rhai gwan yw'r mwyafrif ohonynt, nad ydynt yn achosi niwed mawr. Ond mae daeargrynfeydd mawrion yn achosi niwed erchyll gan ladd llawer o bobl.

Achosir daeargrynfeydd yn bennaf oll gan symudiad platiau tectonig, lle mae dau blât mewn gwrthdrawiad neu yn symud i gyfeiriad dirgroes (daeargryn tectoneg). Mae symudiad magma mewn llosgfynydd yn gallu achosi daeargryn hefyd. Weithiau, mae cwymp gwagle tanddaearol yn achosi daeargryn.

Cyn daeargryn tectonig mae diriant yng nghramen y ddaear yn cynnyddu. Fe ddigwydd y daeargryn pan fod y ddaear yn torri ac yn symud. Mae'r ddaear yn dirgrynu yn llorfeddol ac yn fertigol, ond symudiad llorfeddol sydd yn achosi mwyafrif y niwed i adeiladau. Yn ystod daeargryn San Francisco ym 1906 symudodd wyneb y daear yn sydyn am dros 4m gyda chanlyniadau erchyll.

Mae daeargryn yn achosi tonnau sy'n cael eu cofnodi gan seismograffau ledled y byd. Mae'n bosib gwybod lle y digwyddodd daeargryn a dyfalu strwythur y ddaear trwy ddadansoddi cofnodion y seismograffau.

Mae'n bosib i don anferth (tsunami) godi o ganlyniad i ddaeargryn neu ffrwydrad llosgfynydd ar waelod y môr. Yn y Môr Tawel y mae hyn yn fwyaf tebyg o ddigwydd.

Ar hyn o bryd mae'n dal i fod yn anodd rhagfynegu daeargryn.

Ardaloedd lle y digwydd llawer o ddaeargrynfeydd[golygu]

Ewrop[golygu]

Asia[golygu]

America[golygu]

glan y Môr Tawel bron a bod bob cam ar hyd arfordir Gogledd America a De America:

Dolenni allanol[golygu]

Gweler hefyd[golygu]