Daeargryn Nepal 2015
UTC time | ?? |
---|---|
Dyddiad * | 25 Ebrill 2015 |
Cychwyn (amser) * | 11:56:26 Amser Nepal[1] |
Nerth | 7.8Mw[1] neu 8.1 Ms |
Dyfnder | 15.0 km (9.3 mi)[1] |
Math | Ffawlt gwthiad[1] |
Ardaloedd a effeithiwyd | |
Ôl-siociau | 7.3Mw ar 12 Mai am 12:51[2] 6.7Mw ar 26 Ebrill am 12:54[3] Nifer ôl-gryniadau( >=4ML )=311 [4] |
Anafedigion | 8,786 wedi'u lladd yn Nepal (swyddogol) ac 8,947 i gyd[5][6] Anafwyd 21,952 (swyddogol)[5] |
* Deprecated | See documentation. |
Lladdwyd dros 8,800 o bobl gan Ddaeargryn Nepal 2015 (neu Ddaeargryn Gorkha) ac anafwyd oddeutu 23,000.[4][7] Roedd daearegwyr wedi rhagweld y byddai daeargryn angheuol yn taro ryw bryd oherwydd natur y creigiau, pensaernïaeth leol ayb.[8][9]
Teimlwyd y cryndodau cyntaf ar 25 Ebrill 2015, a thyfodd i faint 7.8Mw[1] neu 8.1Ms ac uchafbwynt o IX (Treisgar) ar Raddfa Dwysedd Mercalli. Roedd canolbwynt y ddaeargryn wedi'i lleoli i'r dwyrain o ardal Lamjung, oddeutu 15 km (9.3 mi) o dan wyneb y Ddaear.[1] Hwn oedd trychineb gwaethaf Nepal ers 1934 pan drawod Daeargryn Nepal–Bihar.[10][11][12]
Creodd y cryndodau dirlithriadau a rhewlithriadau eraill, gan gynnwys sawl eirlithrad (neu avalanches) ar Fynydd Everest, gan ladd 19 o ddringwyr,[13] sef y golled mwyaf mewn un diwrnod ar y mynydd ers cadw cofnodion.[14] Canlyniad arall i gryndodau'r ddaeargryn oedd eirlithrad anferthol yn nyffryn Langtang, ble collwyd 250 o bobl.[15][16]
Gwnaed cannoedd o filoedd o bobl yn ddigartref o fewn munudau a lloriwyd sawl pentref cyfan mewn sawl rhan o Nepal.[17] Dymchwelwyd llawer o adeiladau hynafol, nifer ohonynt oddi fewn i Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn Nyffryn Kathmandu.[18]
Gwlad | Marwolaeth | Anafiadau | Ffynhonnell |
---|---|---|---|
![]() |
> 8,786 | > 22,304 | [5][19] |
![]() |
130 | 560 | [20] |
![]() |
27 | 383 | [21] |
![]() |
4 | 200 | [22] |
Cyfanswm | > 8,947 | > 23,447 |
Ôl-gryniadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Parhaodd yr ôl-gryniadau drwy Nepal gyfan mewn ysbeidiau o 15-20 munud, gydag un ôl-gryniad o faint 6.7 ar 26 Ebrill (am 12.54 Amser Nepal).[3]
Yr ôl-gryniad mwyaf oedd hwnnw am 12.35 ar y 12fed o Fai 2015 - a oedd o faint (Mw) o 7.3.[23] Roedd canolbwynt y ddaeargryn hon yn nes at y ffin gyda Tsieina, rhwng prifddinas y wlad Kathmandu a Mynydd Everest.[24] Lladdwyd dros 200 o bobl ac anafwyd dros 2,500.[25]
Effaith ar yr economi[golygu | golygu cod y dudalen]
Gyda chynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) o oddeutu USD$19.921 biliwn,[26] Nepal yw un o wledydd tlotaf Asia heb iddi lawer o adnoddau i ailadeiladu ar raddfa mor fawr a hyn.[27] Hyd yn oed cyn y Ddaeargryn roedd yn fwriad ganddi geisio codi pedair gwaith yn fwy o arian ar ei hisadeileddau (infrastructure) angenrheidiol.[27] Amcangyfrifir y bydd y golled i'r economi oddeutu 35% o GDP. Dywedodd llefarydd ar ran yr Asian Development Bank (ADB) ei fod yn fwriad ganddynt gynnig nawdd o USD$3 ar unwaith i Nepal i gychwyn y gwaith o ailadeiladu a hyd at USD$200 miliwn dros y cyfnod cychwynnol.[27]
Yn ôl yr economegydd Rajiv Biswas, bydd angen o leiaf USD$5 biliwn, hy oddeutu 20% o GDP Nepal.[27][28]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 "M7.8 – 34 km ESE of Lamjung, Nepal". United States Geological Survey. 25 April 2015. Cyrchwyd 12 Mai 2015.
- ↑ "M6.6 - 49km E of Lamjung, Nepal".
- ↑ 3.0 3.1 "M6.7 - 17km S of Kodari, Nepal". usgs.gov.
- ↑ 4.0 4.1 "Aftershocks of Gorkha Earthquake". National Seismological Centre, Nepal.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 "Incident Report of Earthquake 2015". Nepal Disaster Risk Reduction Portal. drrportal.gov.np. Cyrchwyd 28 Mai 2015. Italic or bold markup not allowed in:
|work=
(help) - ↑ "Nepal earthquake death toll rises to 8,413". The Times of India. 7 Mai 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-10. Cyrchwyd 9 Mai 2015.
- ↑ Chidanand Rajghatta (26 Ebrill 2015). "Is this the 'Big Himalayan Quake' we feared?". The Times of India. Cyrchwyd 26 Ebrill 2015. Italic or bold markup not allowed in:
|work=
(help) - ↑ "Experts had warned for decades that Nepal was vulnerable to a killer quake". Washington Post. Cyrchwyd 29 Ebrill 2015.
- ↑ Colin Stark (26 Ebrill 2015). "Nepal earthquake: 'A tragedy waiting to happen' - CNN.com". CNN. Cyrchwyd 29 Ebrill 2015.
- ↑ "What 1934 Told Nepal to Expect About the Next Big Quake".
- ↑ "Timeline: Nepal 2015 to 1934, the worst quake disasters in the last 80 years". Cyrchwyd 28 Ebrill 2015.
- ↑ "Nepal earthquake: Eerie reminder of 1934 tragedy".
- ↑ nytimes.com 2015-04-27 katmandu-nepal-fear-loss-and-devastation, nytimes.com; adalwyd 28 Ebrill 2015.
- ↑ "Trapped at 20,000 feet: Hundreds of Everest climbers await choppers as supplies run low". Fox News. The Associated Press. 26 Ebrill 2015. Cyrchwyd 26 April 2015.
- ↑ Dr Dave (29 Ebrill 2015). "Landslides in Langtang during and after the Nepal earthquake". AGU Blogosphere. AGU Blogosphere. Cyrchwyd 1 Mai 2015.
- ↑ "Up to 250 missing after avalanche hits Nepal trekking route". "Mail Online". Cyrchwyd 28 Ebrill 2015.
- ↑ Dr Dave (29 April 2015). "Landslides in Langtang during and after the Nepal earthquake". AGU Blogosphere. AGU Blogosphere. Cyrchwyd 1 Mai 2015.
- ↑ Colin Stark (26 April 2015). "Nepal earthquake: 'A tragedy waiting to happen' - CNN.com". CNN. Cyrchwyd 29 Ebrill 2015.
- ↑ "National Emergency Operation Centre". National Emergency Operation Centre (Nepal Govt.) on Twitter (yn Nepali). 3 Mai 2015. Cyrchwyd 3 May 2015.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ "Quake toll in India now 78". Zee News. 29 Ebrill 2015. Cyrchwyd 4 Mai 2015.
- ↑ "25 dead, 383 injured in Tibet following Nepal earthquake". Xinhua. 28 Ebrill 2015. Cyrchwyd 5 Mai 2015.
- ↑ "4 killed, 18 Bangladesh districts affected in earthquake, says govt". Bdnews24.com. Cyrchwyd 26 Ebrill 2015.
- ↑ [url=http://naturaldisasters.tk/ The Natural Disasters;] adalwyd 23 Mai 2015
- ↑ "Nepal earthquake, magnitude 7.3, strikes near Everest". BBC News. 12 Mai 2015.
- ↑ Manesh Shrestha (14 Mai 2015). "Death toll from this week's Nepal earthquake rises above 125". CNN. Cyrchwyd 14 Mai 2015.
- ↑ "Nepal Economy Devastated Following Earthquake". PrimePair. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-18. Cyrchwyd 27 Ebrill 2015.
- ↑ 27.0 27.1 27.2 27.3 "Nepal's Slowing Economy Set for Freefall Without Global Help". Bloomberg Business. Cyrchwyd 26 Ebrill 2015.
- ↑ "The Latest on Nepal Quake: Aid arriving as deaths top 4,000". The New Indian Express. Cyrchwyd 4 Mai 2015. Italic or bold markup not allowed in:
|work=
(help)
- CS1 errors: markup
- EQ articles needing UTC timestamp
- EQ articles waiting for ISC event id
- EQ articles needing ANSS url
- EQ articles using 'date' or 'time' (deprecated)
- EQ articles using 'origintime' (deprecated)
- EQ articles needing 'local-date'
- EQ articles needing 'local-time'
- EQ articles using 'aftershock'
- Nodynnau
- Daeargrynfeydd
- Nepal