Mynydd Chomolungma

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Mynydd Everest)
Mynydd Chomolungma
Qomolangma
Everest
Mathmynydd, atyniad twristaidd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlGeorge Everest Edit this on Wikidata
Cylchfa amserAmser Safonol Nepal, Cylchfa Amser Safonol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolSagarmatha National Park Edit this on Wikidata
Rhan o'r canlynolHimalaya, Y Saith Pegwn, Copaon dros 8, ultra-prominent peak Edit this on Wikidata
LleoliadHimalaya Edit this on Wikidata
SirSolukhumbu District, Rhanbarth Ymreolaethol Tibet Edit this on Wikidata
GwladBaner Nepal Nepal
Baner Tsieina Tsieina
Uwch y môr8,848.86 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau27.988236°N 86.925018°E Edit this on Wikidata
Amlygrwydd8,848.86 metr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddMahalangur Himal Edit this on Wikidata
Map
Deunyddcraig,  Edit this on Wikidata

Mynydd Everest neu Qomolangma (hefyd Chomolungma, Nepaleg: Sagarmatha, Saesneg: Mount Everest) yw'r mynydd uchaf yn y byd. Fe'i lleolir ar y ffîn rhwng Tibet a Nepal yn yr Himalaya, ac ei uchder yw 8,848.86 medr (29,032 troedfedd) uwch lefel y môr.[1] Mae'r mynydd mor uchel fel nad oes llawer o ocsigen ar y top.

Mae ffin Tseina-Nepal yn croesi ei chopa. Y drychiad mwyaf diweddar yw'r un a gymerwyd gan awdurdodau Tsieineaidd a Nepali, sef drychiad (gydag eira) o 8,848.86 metr (29,031.7 tr).[2]

Mae Mynydd Chomolungma yn denu llawer o ddringwyr, gan gynnwys mynyddwyr profiadol iawn. Dau brif lwybr dringo sydd, un yn agosáu at y copa o'r de-ddwyrain yn Nepal (a elwir yn "llwybr safonol") a'r llall o'r gogledd yn Tibet. Er nad yw'n gosod heriau dringo technegol sylweddol ar y llwybr safonol, mae Everest salwch uchder yn taro'r dringwr ac yn hynod o beryglus. Felly hefyd y tywydd a'r gwynt, yn ogystal â pheryglon sylweddol o eirlithriadau a Rhew Khumbu. Hyd at 2019 roedddros 300 o bobl wedi marw ar Everest,[3] ac mae llawer o'u cyrff yn aros ar y mynydd.[4]

Cofnodwyd yr ymdrechion cyntaf i gyrraedd copa Chomolungma gan fynyddwyr o wledydd Prydain. Gan nad oedd Nepal yn caniatáu i dramorwyr ddod i mewn i'r wlad ar y pryd, gwnaeth y Prydeinwyr sawl ymgais ar lwybr crib y gogledd o ochr Tibet. Ar ôl i'r rhagdaith rhagchwilio (reconnaissance expedition) gyntaf gan y Prydeinwyr ym 1921 gyrraedd 7,000 metr, gwthiodd alldaith 1922 lwybr crib y gogledd nes cyrraedd 8,320 metr (27,3000 tr). Y Cymro cyntaf erioed i gyrraedd prif gopa Chomolungma oedd y Cymro o Bontrhydfendigaid, Ceredigion, sef Caradog 'Crag' Jones (g. 1958) a gyflawnodd y gamp ym 1995. Y Gymraes gyntaf i ddringo a chyrraedd copa Everest oedd Tori James o Sir Benfro, a gyrhaeddodd y copa yn 2007.

Arweiniodd alldaith 1924 at un o'r dirgelion mwyaf ar Everest hyd heddiw: gwnaeth George Mallory ac Andrew Irvine ymgais i'r copa ar 8 Mehefin ond ni ddychwelon nhw byth, gan sbarduno dadl ynghylch ai nhw oedd y cyntaf i gyrraedd y brig ai peidio. Gwnaeth Tenzing Norgay ac Edmund Hillary esgyniad swyddogol cyntaf Everest ym 1953, gan ddefnyddio llwybr crib y de-ddwyrain, o Nepal. Roedd Norgay wedi cyrraedd 8,595 metre (28,199 ft) y flwyddyn flaenorol fel aelod o alldaith y Swistir 1952. Gwnaeth tîm mynydda Tsieineaidd Wang Fuzhou, Gonpo, a Qu Yinhua yr esgyniad cyntaf yr adroddwyd amdano o'r grib ogleddol ar 25 Mai 1960.[5]

Enw[golygu | golygu cod]

Enwau hynafol y mynydd yn y Sansgrit yw Devgiri ("Mynydd Sanctaidd") a Devadurga. Chomolungma neu Qomolangma ("Mam y Bydysawd") yw'r enw Tibeteg, a Zhūmùlǎngmǎ Fēng (珠穆朗玛峰 neu 珠穆朗瑪峰) neu Shèngmǔ Fēng (圣母峰 neu 聖母峰) yw'r enw Tsieineeg. Yn y Nepaleg fe'i gelwir yn Sagarmatha (सगरमाथा), "Pen yr Awyr".

Ym 1865, rhoddwyd yr enw Saesneg Everest ar y mynydd gan Andrew Scott Waugh, Uwch-arolygydd India ar y pryd. Yn eironig, roedd Syr George Everest, a enwyd y mynydd ar ei ôl, wedi dysgu Waugh i roi enwau cynhenid neu frodorol i bob endid daearyddol, ond doedd ddim modd i estronwyr deithio i Nepal nac i Tibet ar y pryd. Dyma ddywedodd Waugh:

I was taught by my respected chief and predecessor, Colonel Sir George Everest to assign to every geographical object its true local or native appellation. But here is a mountain, most probably the highest in the world, without any local name that we can discover, whose native appellation, if it has any, will not very likely be ascertained before we are allowed to penetrate into Nepal. In the meantime the privilege as well as the duty devolves on me to assign…a name whereby it Mai be known among citizens and geographers and become a household word among civilized nations.

Yn y 1960au cynnar, sylweddolodd llywodraeth Nepal nad oedd gan y mynydd enw Nepaleg. Y rheswm am hyn yw nad oedd pobl yr ardaloedd traddodiadol Nepaleg (hynny yw, Dyffryn Kathmandu a'r ardaloedd cyfagos) yn gyfarwydd â'r mynydd.[angen ffynhonnell] Ceisiodd y llywodraeth ddarganfod enw i'r mynydd (doedd yr enw Sherpa/Tibeteg Chomolangma ddim yn dderbyniol iddynt, gan eu bod yn ceisio uno a "Nepaleiddio'r" wlad) . Dyfeisiwyd yr enw Sagarmatha (सगरमाथा) gan Baburam Acharya.

Yn 2002, cyhoeddodd y papur newydd Tsieinëeg Rénmín Rìbào erthygl yn dadlau na ddylid defnyddio'r enw Saesneg yn y byd Gorllewinol mwyach, ac y dylid defnyddio'r enw Tibeteg. Dadlent fod yr enw hwnnw'n hŷn na'r un Saesneg, gan i Qomolangma gael ei nodi ar fap Tsieineaidd mwy na 280 mlynedd yn ôl.[6]

Arolygon[golygu | golygu cod]

Arolygon o'r 19eg ganrif[golygu | golygu cod]

Map o dirwedd Mynydd Chomolungma (Everest)

Ym 1802, cychwynnodd y Prydeinwyr i wneud Arolwg Trigonometrig Mawr o India er mwyn canfod lleoliadau, uchderau ac enwau'r mynyddoedd. Gan ddechrau yn ne India, symudodd timau’r arolwg tua’r gogledd gan ddefnyddio theodolitau anferth, pob un yn pwyso 500 kg ac yn ei gwneud yn ofynnol i 12 dyn ei gario, i fesur uchder mor gywir â phosibl. Cyrhaeddon nhw odre'r Himalaya erbyn y 1830au, ond nid oedd Nepal yn fodlon caniatáu i'r Prydeinwyr ddod i mewn i'r wlad. Gwrthodwyd sawl cais gan y syrfewyr i fynd i mewn i Nepal.[7]

Ym 1852, wedi'i leoli ym mhencadlys yr arolwg yn Dehradun, Radhanath Sikdar, mathemategydd Indiaidd a syrfëwr o Bengal oedd y cyntaf i nodi mai Mynydd Chomolungma oedd copa ucha'r byd, drwy ddefnyddio cyfrifiadau trigonometrig yn seiliedig ar fesuriadau Nicolson.[8] Gohiriwyd y cyhoeddiad swyddogol mai Copa XV oedd yr uchaf am sawl blwyddyn wrth i'r cyfrifiadau gael eu gwirio dro ar ôl tro. Dechreuodd Waugh weithio ar ddata Nicolson ym 1854, ac ynghyd â’i staff treuliodd bron i ddwy flynedd yn gweithio ar y ffigyrau, gan orfod delio â phroblemau plygiant golau, pwysau barometrig, a thymheredd dros bellter.

Yn olaf, ym mis Mawrth 1856 cyhoeddodd ei ganfyddiadau mewn llythyr at ei ddirprwy yn Calcutta. Cyhoeddwyd bod Kangchenjunga yn 28,156 troedfedd (8,582 m). Daeth Waugh i'r casgliad fod Radhanath Sikdar yn gywir, ac mai Copa XV oedd "yr uchaf yn y byd, yn ôl pob tebyg".[7] Cyfrifwyd bod XV (wedi'i fesur mewn troeddfeddi) yn union 29,000 troedfedd, ond datganwyd yn gyhoeddus ei fod yn 29,002 troedfedd er mwyn osgoi'r argraff bod yr union uchder yn ddim mwy nag amcangyfrif wedi'i dalgrynu![9] Yn chwareus, nodir yn aml mai Waugh oedd "y person cyntaf i roi dwy droed(fedd) ar ben Mynydd Everest".[10]

Arolygon yr 20fed ganrif[golygu | golygu cod]

Wedi'i gyhoeddi gan 'Arolwg o Nepal', dyma Fap 50 o set o 57 map a osodwyd ar raddfa 1: 50,000 "ynghlwm wrth y prif destun ar yr Arolwg ar y Cyd Cyntaf, 1979-80, ffin Nepal -Tsieina." Yn y canol uchaf, mae llinell derfyn, y nodwyd ei bod yn gwahanu "Tsieina" a "Nepal", yn mynd trwy gyfuchlin y copa. Mae'r ffin rhwng y ddwy wlad yn dilyn prif raniad daearyddol Himalaya.

Ym 1955, felly, y pennwyd y drychiad o 8,848 m (29,029 tr) a hynny gan yr Indiaid. Mesur o 8,848.13 m (29,029.3 tr) oedd mesuriad y Tsieineiaid.[11][12] Yn y ddau achos mesurwyd eira'r copa hefyd, nid pen y graig.[13] Cynlluniodd Nepal arolwg newydd yn 2019 i benderfynu a oedd daeargryn Nepal Ebrill 2015 wedi effeithio ar uchder y mynydd.[14]

Credir bod tectoneg platiau'r ardal yn ychwanegu at yr uchder ac yn araf symud y copa i'r gogledd-ddwyrain. Mae dau gyfrif yn awgrymu bod y cyfraddau newid yn 4 mm (0.16 mod) y flwyddyn (i fyny) a rhwng 3 a 6 mm (0.12-0.24 mod) y flwyddyn (gogledd-ddwyrain),[15][16] ond mae cyfrif arall yn sôn am symud gwahanol o 27 mm i fyny a phosibilrwydd fod y mynydd yn lleihau.[17]

Cyfaddawd Tsieina - Nepal[golygu | golygu cod]

Roedd Nepal a Tsieina, y ddwy wlad sy'n rhannu'r mynydd, wedi dadlau ynghylch uchder gwirioneddol y mynydd am flynyddoedd. Ar 8 Rhagfyr 2020, cyhoeddodd y ddwy wlad ar y cyd mai 8,848.86 metr (29,032 tr) yw'r uchder swyddogol newydd.[18] Roedd hyn yn 0.86 m (2.8 tr) yn uwch na'r hyn a gyfrifwyd cyn hynny. Roedd awdurdodau Tsieineaidd wedi dadlau o'r blaen y dylid mesur Everest i uchder y graig, tra bod awdurdodau Nepal yn mynnu y dylid cynnwys yr eira ar ben y copa.[19]

Cymariaethau[golygu | golygu cod]

Maint yr Wyddfa, a saif ym Mharc Cenedlaethol Eryri yw 1,085 metr (3,560 troedfedd).

Copa Everest yw'r pwynt lle mae wyneb y Ddaear yn cyrraedd y pellter mwyaf o lefel y môr. Weithiau honnir fod sawl mynydd arall yn haeddu'r clod o fod y "mynydd talaf ar y Ddaear". Mauna Kea yn Hawaii yw'r talaf o'i fesur o'i draed i'w gopa;[20] mae'n codi dros 10,200 metr (33,464.6 tr) o'i fesur o'i waelod sydd ar lawr y cefnfor, ond dim ond 4,205 m (13,796 tr) uwch lefel y môr.

Mewn cymhariaeth, mae drychiadau sylfaen rhesymol ar gyfer Everest yn amrywio o 4,299 metr ar yr ochr ddeheuol i 5,200 m ar Lwyfandir Tibet, sy'n rhoi uchder (o'i draed i'w gopa) o rhwng 3,650 a 4,650 m.

Daeareg[golygu | golygu cod]

Mynydd Everest gydag eira wedi toddi, gan ddangos haenau daearegol uchaf mewn stribedi.

Mae daearegwyr wedi isrannu'r creigiau sy'n cynnwys Mynydd Everest yn dair uned a elwir yn "ffurfiannau" .[21][22] Mae pob ffurfiant wedi'i wahanu oddi wrth y llall gan ffaltiau ongl isel, a elwir yn ddatgysylltiadau (detachments), sydd wedi eu gwthio tua'r de dros ei gilydd. O gopa Mynydd Everest i'w waelod yr unedau creigiau hyn yw'r Ffurfiant Qomolangma, Ffurfiant Gogledd Col, a Ffurfiant Rongbuk.

Mae Mynydd Everest yn cynnwys creigiau gwaddodol a metamorffig sydd wedi cael eu ffaltio tua'r de dros gramen gyfandirol a gyfansoddwyd o granulitau Archean o'r Plât Indiaidd yn ystod gwrthdrawiad Cainosöig India ag Asia.[23][24][25] Credir bod ffurfiannau Qomolangma a Gogledd Col yn cynnwys gwaddodion morol a gronnodd o fewn silff gyfandirol gogleddol India cyn iddo wrthdaro ag Asia. Yn dilyn hynny, fe wnaeth gwrthdrawiad Cainosöig India ag Asia ddadffurfio a metamorffosio'r strata hyn wrth iddo gael ei daflu tua'r de ac i fyny.[26][27][28]

Fflora a ffawna[golygu | golygu cod]

Yak ar oddeutu 4,790 m (15,715 tr)

Ychydig iawn o fflora neu ffawna brodorol sydd ar Fynydd Chomolungma. Tyfa mwsogl ar uchder o 6,480 metr.[29] Efallai mai hwn yw'r rhywogaeth planhigion a all dyfu ar yr uchder uchaf.[29] Gwyddys bod planhigyn clustog alpaidd o'r enw Tywodlys mwsoglog (enw Gwyddonol: Arenaria) yn tyfu o dan 5,500 m yn yr ardal.[30] Yn ôl yr astudiaeth o ddata lloeren rhwng 1993 a 2018, mae llystyfiant yn ehangu ar lethrau'r mynydd. Daethpwyd o hyd i blanhigion mewn ardaloedd a oedd gynt yn cael eu hystyried yn foel a difywyd.[31]

Cafwyd hyd i'r Euophrys omnisuperstes, sef pry cop bychan, du ar ddrychiadau mor uchel â 6,700 metr. Dyma, o bosib, yr anifail di-ficrosgopig sy'n byw uchaf ar y blaned. Mae i'w gael yng ngwersyll sylfaen Everest,[32] yn llechu mewn ambell hollt, a gall fwydo ar bryfed wedi'u rhewi sydd wedi'u chwythu yno gan y gwynt. Mae'n fwy na phosib y ceir bywyd microsgopig ar uchderau uwch na hyn.[33]

Gwelwyd adar, fel yr wydd pen-bar, yn hedfan ar ar rannau ucha'r mynydd, tra bod eraill, fel y Pyrrhocorax, wedi cael eu gweld mor uchel â De'r Col ar 7,920 metr (25,980 tr).[34] Gwelwyd y Brân goesgoch Alpaidd mor uchel â 7,900 metr (20,000 tr) a gwyddau pen-bar yn mudo dros yr Himalaya.[35] Ym 1953, dywedodd George Lowe (rhan o alldaith Tenzing a Hillary) iddo weld gwyddau pen bar yn hedfan dros gopa Everest.[36]

Defnyddir iacod yn aml i dynnu gêr y mynyddwyr ar ddringfeydd Mynydd Everest. Gallant gario baich o 100 kg (220 pwys). Mae gan yr iac ffwr trwchus ac ysgyfaint mawr.[30][37] Ymhlith yr anifeiliaid eraill yn y rhanbarth mae'r tahr yr Himalaya sydd weithiau'n cael ei fwyta gan y llewpard eira.[38] Gellir dod o hyd i arth ddu yr Himalaya 4,300 metr (14,000 tr) ac mae'r panda coch hefyd yn bresennol yn y rhanbarth.[39] Canfu un alldaith ystod rhyfeddol o rywogaethau yn y rhanbarth gan gynnwys pika a deg rhywogaeth newydd o forgrug.[40]

Meteoroleg[golygu | golygu cod]

Yn 2008, aeth gorsaf dywydd newydd ar oddeutu 8,000 metr (26,000) tr) ar-lein.[41] Y data cyntaf a dderbyniwyd gan yr orsaf ym Mai 2008 oedd:

  • tymheredd yr aer −17 °C (1 °F)
  • lleithder cymharol 41.3%
  • gwasgedd atmosfferig 382.1 hPa (38.21 kPa)
  • cyfeiriad y gwynt 262.8°
  • cyflymder y gwynt 12.8 m / s (28.6 mya, 46.1 km / h)
  • ymbelydredd solar byd-eang 711.9 wat / m2
  • ymbelydredd solar UVA 30.4 W / m 2.[41]

Trefnwyd y prosiect gan Stations at High Altitude for Research on the Environment (SHARE), a osododd hefyd we-gamera hefyd yn 2011.[41][42] Mae'r orsaf dywydd, sydd â phŵer solar, ar y South Col.[43]

Un o'r problemau sy'n wynebu dringwyr yw'r gwyntoedd cyflym, aml.[44] Mae'r copa'n ymestyn i'r troposffer uchaf ac yn treiddio'r stratosffer,[45] lle ceir gwyntoedd cyflym a rhewllyd y jetlif.[46] Yn Chwefror 2004, cofnodwyd cyflymder gwynt o 175 mya ar y copa ac fel arfer mae'r gwynt yn chwythu ar gyflymder o tua 100 mya.[44] Gall y gwyntoedd hyn chwythu dringwyr oddi ar Everest yn hawdd.

Mae'r pwysedd aer ar y copa tua thraean yr hyn ydyw ar lefel y môr, ac yn ôl egwyddor Bernoulli, gall y gwyntoedd ostwng y pwysau ymhellach, gan achosi gostyngiad ychwanegol o 14 y cant mewn ocsigen i ddringwyr.[46] Daw'r gostyngiad yn argaeledd yr ocsigen o'r pwysau cyffredinol is, ac nid yn y gostyngiad yn y gymhareb ocsigen i nwyon eraill.[47]

Alldeithiau[golygu | golygu cod]

Dringwyr o dan Sbardyn Genefa

Oherwydd mai Mynydd Chomolungma yw'r mynydd uchaf yn y byd, mae wedi denu cryn sylw a sawl ymdrech i'w ddringo. Ni wyddys a ddringwyd y mynydd yn yr hen amser. Efallai iddo gael ei ddringo ym 1924, er na chadarnhawyd hyn erioed, gan na ddychwelodd yr un o'r dynion a aeth ati. Mae sawl llwybr dringo wedi'u sefydlu dros sawl degawd o alldeithiau.[48][49] 

Trosolwg[golygu | golygu cod]

Digwyddodd yr ymdrech cyntaf hysbys i ddringo Everest yn 1953, a chynyddodd diddordeb dringwyr wedi hynny.[50] Er gwaethaf yr ymdrech a'r sylw a roddwyd i alldeithiau, dim ond tua 200 o bobl oedd wedi cyrraedd y copa erbyn 1987.[50] Arhosodd Everest yn ddringfa anodd am ddegawdau, hyd yn oed ar gyfer ymdrechion difrifol gan ddringwyr gorau'r byd, ac alldeithiau cenedlaethol mawr, a oedd yn norm nes i'r oes fasnachol ddechrau yn y 1990au.[51]

Erbyn Mawrth 2012, roedd Everest wedi ei ddringo 5,656 o weithiau gyda 223 o farwolaethau.[52] Er bod gan fynyddoedd llai ddringfeyss hirach ac anoddach, a mwy serth, mae jetlif y gwynt yn rhoi her ychwanegol.[53] Ar rai adegau o'r flwyddyn mae'r jetlif yn symud i'r gogledd, gan ddarparu cyfnodau o dawelwch cymharol ar y mynydd.[54] Ymhlith y peryglon eraill mae stormydd eira ac eirlithriadau.[54]

eirlithriadau ar lethrau'r Everest

Yn 2013 cofnododd Cronfa Ddata Himalaya fod 6,871 ymweliad a'r copa wedi ei wneud, a hynny gan 4,042 o bobl wahanol.[55]

Bu nifer o ymdrechion i gyrraedd y copa cyn yr Ail Ryfel Byd, y cyfan ond un ohonynt gan dimau Prydeinig, gan nad oedd caniatâd i ddringo'r mynydd o ochr Tibet a bod Nepal yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig. Yn ystod un o'r rhain, yn 1924, diflannodd George Mallory ac Andrew Irvine wrth geisio cyrraedd y copa, a bu awgrymiadau eu bod efallai wedi cyrraedd y copa ond wedi marw ar y ffordd i lawr. Y farn gyffredinol, fodd bynnag, yw na allent fod wedi cyrraedd y copa. Yn 1999 cafwyd hyd i gorff Mallory ar y mynydd. Y cyntaf i gyrraedd y copa oedd Edmund Hillary a Tenzing Norgay ar 29 Mai 1953, newyddion a gyfathrebwyd i'r byd drwy'r newyddiadurwr Cymreig Jan Morris. Ers hynny mae cryn nifer o ddringwyr wedi cyrraedd y copa; mae'r mynydd yn haws yn dechnegol na rhai o'r copaon 8,000 medr eraill megis K2 a Nanga Parbat. Er hynny, mae uchder y mynydd yn creu problemau mawr, ac am flynyddoedd ystyrid fod yn rhaid cael ocsigen ychwanegol i'w ddringo. Fodd bynnag yn 1978 dringodd Reinhold Messner a Peter Habeler y mynydd heb ddefnyddio ocsigen ychwanegol.

Y Cymro cyntaf erioed i gyrraedd prif gopa Chomolungma oedd y Cymro o Bontrhydfendigaid, Ceredigion, sef Caradog 'Crag' Jones (g. 1958) a gyflawnodd y gamp ym 1995. Y Gymraes gyntaf i ddringo a chyrraedd copa Everest oedd Tori James o Sir Benfro, a gyrhaeddodd y copa yn 2007.

Ar 25 Mai 2008 cyrhaeddodd Bahadur Sherchan, 76 oed o Nepal, y copa gan osod record newydd am y person hynaf i ddringo'r mynydd.

Ymdrechion cynnar[golygu | golygu cod]

Ym 1885, awgrymodd Clinton Thomas Dent, llywydd y Clwb Alpaidd, fod dringo Mynydd Everest yn bosibl yn ei lyfr Above the Snow Line.[56]

Darganfuwyd y ffordd ogleddol at y mynydd gan George Mallory a Guy Bullock ar Alldaith Rhagchwilio Prydain yn 1921. Roedd yn alldaith archwiliadol nad oedd wedi'i chyfarparu ar gyfer ymgais ddifrifol i ddringo'r mynydd. Gyda Mallory yn arwain (a thrwy hynny ddod yr Ewropeaidd gyntaf i ddringo dros 7,005 metr (22,982 tr). O'r fan honno, ysbardunodd Mallory lwybr i'r brig, ond nid oedd y parti yn barod ar gyfer y dasg fawr o ddringo ymhellach ac aethon nhw i lawr.

Yr esgyniad llwyddiannus cyntaf gan Tenzing a Hillary, 1953[golygu | golygu cod]

Edmund Hillary a Tenzing Norgay

Ym 1953, dychwelodd y nawfed alldaith Brydeinig, dan arweiniad John Hunt, i Nepal. Dewisodd Hunt ddau ddringwr i geisio cyrraedd y copa. Daeth y pâr cyntaf, Tom Bourdillon a'r Cymro Charles Evans, o fewn 100 metr i'r copa ar 26 Mai 1953, ond trodd yn ôl ar ôl rhedeg i broblemau diffyg ocsigen. Eu gwaith oedd darganfod a thorri llwybr a gollwng poteli o ocsigen - a oedd o gymorth mawr i'r pâr dilynol. Dau ddiwrnod yn ddiweddarach, gwnaeth yr alldaith ei ail ymosodiad ar y copa gyda’r ail bâr dringo: Edmund Hillary o Seland Newydd a Tenzing Norgay, dringwr Sherpa o Nepal. Cyrhaeddon nhw'r copa am 11:30 amser lleol ar 29 Mai 1953 ar hyd llwybr South Col. Ar y pryd, roedd y ddau yn ei gydnabod fel ymdrech tîm gan yr alldaith gyfan, ond datgelodd Tenzing ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach fod Hillary wedi rhoi ei droed ar y copa'n gyntaf.[57] Oedodd y ddau ar y copa i dynnu lluniau a chladdu ychydig o losin a chroes fach yn yr eira cyn dod i lawr. 

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Mt Everest grows by nearly a metre to new height (en) , BBC News, 8 Rhagfyr 2020.
  2. "Mount Everest is two feet taller, China and Nepal announce". National Geographic. Cyrchwyd 8 December 2020.
  3. Meritt, Chris (25 Gorffennaf 2019). "Mount Everest Deaths Statistics by Year (1922-2019)". climbinggearlab.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-09-20. Cyrchwyd 2021-11-04.
  4. Nuwer, Rachel. "Death in the clouds: The problem with Everest's 200+ bodies". BBC Future.
  5. Lewis, Jon E. (2012). "Appendix 1". The Mammoth Book of How it Happened – Everest. Little, Brown Book Group. t. 212. ISBN 978-1-78033-727-2.
  6. Web Reference
  7. 7.0 7.1 Peter Gillman, gol. (1993). Everest – The Best Writing and Pictures from Seventy Years of Human Endeavour. Little, Brown and Company. tt. 10–13. ISBN 978-0-316-90489-6.
  8. Biswas, Soutik (20 Hydref 2003). "The man who "discovered" Everest". BBC News. Cyrchwyd 11 April 2008.
  9. Stegman, Charles E; Bellhouse, David; Ehrenberg, A.S. C; Mantel, Nathan; Proschan, Frank; Gianola, Daniel; Searle, S.R; Speed, F.M et al. (February 1982). "Letters to the Editor". The American Statistician 36: 64–67. doi:10.1080/00031305.1982.10482782. JSTOR 2684102. https://archive.org/details/sim_american-statistician_1982-02_36_1/page/64.
  10. Beech, Martin (2014). The Pendulum Paradigm: Variations on a Theme and the Measure of Heaven and Earth. Universal-Publishers. t. 267.
  11. Krakauer, Jon (1997). Into Thin Air: A Personal Account of the Mount Everest Disaster (arg. First). New York: Anchor Books. tt. 15–16. ISBN 978-0-385-49478-6. OCLC 36130642.
  12. "Everest not as tall as thought". News in Science. Australian Broadcasting Corporation. 5 Hydref 2005. Cyrchwyd 1 April 2007.
  13. "Nepal and China agree on Mount Everest's height". BBC News. 8 April 2010. Cyrchwyd 22 Awst 2010.
  14. Daley, Jason (15 April 2019). "Nepalese Expedition Seeks to Find Out if an Earthquake Shrunk Mount Everest Read". Smithsonian.com. Smithsonian Magazine.
  15. "Elevation of Mount Everest newly defined". Swiss Foundation for Alpine Research. 12 Tachwedd 1999. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Ionawr 2007. Cyrchwyd 1 April 2007.
  16. "Roof of the World". National Geographic Society. 1999. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Gorffennaf 2007. Cyrchwyd 1 April 2007.
  17. Lim, Louisa (25 Ionawr 2005). "China fears Everest is shrinking". BBC News. Cyrchwyd 1 April 2007.
  18. "Mount Everest, the world's highest mountain, officially just got a little bit higher". CBS. 8 December 2020. Cyrchwyd 2020-12-08.
  19. Navin Singh Khadka (8 December 2020). "Mt Everest grows by nearly a metre to new height". BBC. Cyrchwyd 2020-12-08.
  20. The "base" of a mountain is a problematic notion in general with no universally accepted definition. However, for a peak rising out of relatively flat terrain, such as Mauna Kea or Denali, an "approximate" height above "base" can be calculated. Everest is more complicated since it only rises above relatively flat terrain on its north (Tibetan Plateau) side. Hence the concept of "base" has even less meaning for Everest than for Mauna Kea or Denali, and the range of numbers for "height above base" is wider. In general, comparisons based on "height above base" are somewhat suspect.
  21. Yin, C.-H., and S.-T. Kuo. 1978. "Stratigraphy of the Mount Jolmo Langma and its north slope." Scientia Sinica. v. 5, pp. 630–644
  22. Sakai, H., M. Sawada, Y. Takigami, Y. Orihashi, T. Danhara, H. Iwano, Y. Kuwahara, Q. Dong, H. Cai, and J. Li. 2005. "Geology of the summit limestone of Mount Qomolangma (Everest) and cooling history of the Yellow Band under the Qomolangma detachment." Island Arc. v. 14 no. 4 pp. 297–310.
  23. "Tectonic Motion: Making the Himalayas". Nature on PBS. 11 Chwefror 2011. Cyrchwyd 6 Chwefror 2016.
  24. "The Himalayas: Two continents collide". USGS. 5 Mai 1999. Cyrchwyd 6 Chwefror 2016.
  25. "Press Release: An Earth Plate Is Breaking in Two".
  26. Myrow, P.M., N.C. Hughes, T.S. Paulsen, I.S. Williams, S.K. Parcha, K.R. Thompson, S.A. Bowring, S.-C. Peng, and A.D. Ahluwalia. 2003. Integrated tectonostratigraphic reconstruction of the Himalaya and implications for its tectonic reconstruction. Earth and Planetary Science Letters. vol. 212, pp. 433–441.
  27. Myrow, P.M., N.C. Hughes, J.W. Goodge, C.M. Fanning, I.S. Williams, S.-C. Peng, O.N. Bhargava, S.K. Tangri, S.K. Parcha, and K.R. Pogue. 2010. Extraordinary transport and mixing of sediment across Himalayan central Gondwanaland during the Cambrian-Ordovician. Geological Society of America Bulletin. vol. 122, pp. 1660–1670.
  28. Searle, M. 2012. Colliding Continents: A geological exploration of the Himalaya, Karakoram, & Tibet. Oxford University Press, Oxford. 464 pp. ISBN 978-0-19-965300-3
  29. 29.0 29.1 "High altitude plants". Adventure Scientists. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 April 2012. Cyrchwyd 15 Mai 2012.
  30. 30.0 30.1 Ann Heinrichs (2009). Mount Everest. Marshall Cavendish. t. 25. ISBN 978-0-7614-4649-1.
  31. Anderson, Karen; Fawcett, Dominic; Cugulliere, Anthony; Benford, Sophie; Jones, Darren; Leng, Ruolin (9 Ionawr 2020). "Vegetation expansion in the subnival Hindu Kush Himalaya". Global Change Biology 26 (3): 1608–1625. Bibcode 2020GCBio..26.1608A. doi:10.1111/gcb.14919. PMC 7078945. PMID 31918454. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=7078945.
  32. "Wanless, F. R. (1975). Spiders of the family Salticidae from the upper slopes of Everest and Makalu. Bulletin of the British Arachnological Society 3(5): 132-136". World Spider Catalog. Cyrchwyd 2021-04-11.
  33. Wanless, F.R. (1975). Spiders of the family Salticidae from the upper slopes of Everest and Makalu. British Arachnological Society.
  34. The Ascent of Everest by John Hunt (Hodder & Stoughton, 1953) In chapter 14, Hunt describes seeing a chough on the South Col; meanwhile Charles Evans saw some unidentified birds fly over the col
  35. Jesse Greenspan. "7 Things You Should Know About Mount Everest". History.com. Cyrchwyd 20 Medi 2015.
  36. "Bar-headed geese: Highest bird migration tracked". BBC News. Cyrchwyd 20 Medi 2015.
  37. Shaun Francis (12 Hydref 2012). "Trekking etiquette: Seek higher ground than the yaks or risk a push off the cliff". National Post. Cyrchwyd 20 Medi 2015.
  38. "Ale, Som B. "Ecology of the Snow Leopard and the Himalayan Tahr in Sagarmatha (Mt. Everest) National Park, Nepal." University of Illinois, 2007" (PDF).
  39. "List of Animals on Mount Everest". Pets on mom.me. Cyrchwyd 20 Medi 2015.
  40. "Everest Expedition Uncovers Exotic Species". LiveScience.com. 7 April 2006. Cyrchwyd 20 Medi 2015.
  41. 41.0 41.1 41.2 "Everest weather station goes online". UIAA. 16 Mehefin 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Ionawr 2009. Cyrchwyd 15 Mai 2012.
  42. Connelly, Claire (30 Medi 2011). "Mount Everest webcam gives new meaning to high-def". Herald Sun. Cyrchwyd 30 Medi 2011.
  43. da Polenza, Agostino; Vuillermoz, Elisa; Verza, Gian Pietro; Cortinovis, Alberto. "SHARE Everest Automatic Weather Station: South Col, Mt. Everest, Nepal" (PDF). Italy: Ev-K2-CNR Committee. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 19 Tachwedd 2011.
  44. 44.0 44.1 "The deadly odds of climbing Mount Everest: By the numbers". The Week.
  45. godhead/v. "The Open Graveyard of Mt. Everest's "Death Zone"". Gizmodo. Gawker Media. Cyrchwyd 20 Medi 2015.
  46. 46.0 46.1 Peplow, Mark (25 Mai 2004). "High winds suck oxygen from Everest". Nature. doi:10.1038/news040524-2.
  47. "The Physiological Effects of Altitude". TheTech. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Gorffennaf 2015. Cyrchwyd 20 Medi 2015.
  48. "The route - climbers guide to Everest". www.mounteverest.net. Cyrchwyd 2020-02-23.
  49. "Mount Everest: The Routes". Alpenglow. 2017-05-04. Cyrchwyd 2020-02-23.
  50. 50.0 50.1 "Mt. Everest's Popularity Is Still Climbing". Los Angeles Times. Cyrchwyd 20 Medi 2015.
  51. James, Victoria (27 Mai 2012). "Japan's Everest timeline". The Japan Times Online. Cyrchwyd 20 Chwefror 2016.
  52. "The World's Tallest Mountain". Earth Observatory. NASA. 2 Ionawr 2014.
  53. "Everest Facts for Kids".
  54. 54.0 54.1 "Window of Opportunity: Everest Climbing Season Underway". Accuweather. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Medi 2016. Cyrchwyd 23 Ionawr 2014.
  55. "Everest by the Numbers: The Latest Summit Stats" (Blog). alanarnette.com. Cyrchwyd 20 Medi 2015.
  56. William Buxton (5 Hydref 2015). From First Sight to Summit: A Guide to the Literature on Everest up to the 1953 Ascent (PDF). Cyrchwyd 31 Ionawr 2017.
  57. Norgay, Tenzing; Ramsey Ullman, James (1955). Man of Everest: The Autobiography of Tenzing. also published as Tiger of the Snows. G.G. Harrap. t. 320.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Y 14 copa dros 8,000 medr
Annapurna · Broad Peak · Cho Oyu · Dhaulagiri · Everest · Gasherbrum I · Gasherbrum II
K2 · Kangchenjunga · Lhotse · Makalu · Manaslu · Nanga Parbat · Shishapangma
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: Uwch-Arolygydd India o'r Saesneg "Surveyor-General of India". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]