Charles Evans

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Charles Evans
Ganwyd 19 Hydref 1918 Edit this on Wikidata
Lerpwl Edit this on Wikidata
Bu farw 6 Rhagfyr 1995 Edit this on Wikidata (77 oed)
Dinasyddiaeth Y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth fforiwr, llawfeddyg Edit this on Wikidata
Gwobr/au Medal y Noddwr Edit this on Wikidata

Mynyddwr a llawfeddyg o Gymro oedd Syr Robert Charles Evans (19 Hydref 1918 – 5 Rhagfyr 1995).[1]

Ganwyd yn Nerwen, Sir Ddinbych. Mynychodd Ysgol Amwythig, ac astudiodd feddygaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Rhydychen. Ymunodd â Chorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin ym 1943, a gwasanaethodd yn y Dwyrain Pell yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd ei ryddhau o'r fyddin ym 1947, a daeth yn gofrestrydd llawfeddygol i Ysbytai Rhanbarthol Lerpwl.

Roedd yn is-arweinydd y cyrch ar Fynydd Everest ym 1953, a dyma oedd yr ymgais lwyddiannus gyntaf i ddringo copa uchaf y byd, gan Edmund Hillary a Tenzing Norgay. Bu Evans hefyd yn arweinydd y cyrch ar Kangchenjunga ym 1955. Bu'n rhaid iddo roi'r gorau i fynydda wedi iddo gael diagnosis o sglerosis ymledol. Yn aml bu'n teithio i Ben-y-Gwryd ar droed yr Wyddfa i gwrdd ag aelodau eraill o gyrch 1953. Roedd yn llywydd ar yr Alpine Club o 1967 i 1970, a chafodd ei urddo'n farchog ym 1969.

Gwasanaethodd yn swydd Prifathro Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, o 1958 i 1984, ac yn is-ganghellor Prifysgol Cymru o 1965 i 1967 ac o 1971 i 1973. Er yr oedd yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, bu gwrthdaro rhwng Evans a myfyrwyr Cymraeg oedd yn ymgyrchu dros yr iaith.

Priododd Nea Morin ym 1957, a chawsant dri mab. Bu farw yn Negannwy, yn 77 oed.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Eye on Everest (1955)
  • On Climbing (1956)
  • Kangchenjunga: The Untrodden Peak (1956)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Tony Heath. "Obituary: Sir Charles Evans", The Independent (12 Rhagfyr 1995). Adalwyd ar 7 Rhagfyr 2017.