Bengal

Oddi ar Wicipedia
Bengal
Mathardal hanesyddol, rhanbarth Edit this on Wikidata
LL-Q1571 (mar)-Vj18081991-बंगाल.wav Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGorllewin Bengal, Bangladesh, Tripura, Hills and Barak Valley division Edit this on Wikidata
GwladIndia, Bangladesh Edit this on Wikidata
Arwynebedd236,322 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau23.9888°N 88.7311°E Edit this on Wikidata
Map

Rhanbarth yn isgyfandir India yn ne Asia yw Bengal. Mae'n ymestyn rhwng Bangladesh yn y dwyrain a thalaith Gorllewin Bengal yn y gorllewin, yn India.

Gorwedd Bengal ar lan Bae Bengal yng ngogledd-ddwyrain yr isgyfandir. Y prif afonydd yw Afon Ganges ac Afon Brahmaputra sy'n ffurfio aberoedd anferth, gyda'r gyntaf gyntaf yn gorwedd yn India a'r ail yn llifo trwy Fangladesh trwy gwastadir gorlif eang a ffrwythlon.

Bengaleg yw iaith Bengal a cheir llenyddiaeth gyfoethog yn perthyn iddi.

O ran crefydd, Hindwiaid yn bennaf a geir yn y gorllewin tra bod bron pawb ym Mangladesh yn ddilynwyr Islam. Roedd y rhaniad yn bod ers canrifoedd, ond fe ddyfnheuwyd pan ymranwyd yr hen dalaith yn ddwy ran yn 1947, gyda'r gorllewin yn aros yn India a'r dwyrain, dan yr enw Dwyrain Pacistan, yn mynd yn rhan o'r wlad newydd honno.

Eginyn erthygl sydd uchod am Asia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato