Bengaleg
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | iaith, iaith fyw ![]() |
Math | Bengali languages ![]() |
Rhan o | Ieithoedd Indo-Ariaidd, Ieithoedd Indo-Ewropeaidd ![]() |
![]() | |
Enw brodorol | বাংলা ![]() |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | bn ![]() |
cod ISO 639-2 | ben ![]() |
cod ISO 639-3 | ben ![]() |
Gwladwriaeth | Bangladesh, India, Sierra Leone ![]() |
System ysgrifennu | Bengali script, Bengali Braille ![]() |
Corff rheoleiddio | Academi Bangla, Paschimbanga Bangla Akademi ![]() |
![]() |
Siaredir Bengaleg (Bengaleg: বাংলা Bangla) ym Mengal, rhanbarth yn is-gyfandir India yn ne Asia sy'n ymestyn rhwng Bangladesh a thalaith Gorllewin Bengal yn India.
Mae'n aelod o'r ieithoedd Indo-Ariaidd ac mae'n perthyn i ieithoedd eraill Gogledd India, yn enwedig Assameg, Orïa a Maithili.
Llenyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae gan y Fengaleg lenyddiaeth hen a diddorol. Rabindranath Tagore yw'r awdur Bengaleg enwocaf.
Yr Wyddor[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae system ysgrifennu arbennig gan yr iaith Fengaleg. Yn hytrach na gwyddor fel y cyfryw, mae'n abwgida ble mae pob symbol yn cynrycholi sillaf. Dyma enghraifft o destun yn Bengaleg (o'r Datganiad Cyffredinol am Hawliau Dynol)
ধারা ১: সমস্ত মানুষ স্বাধীনভাবে সমান মর্যাদা এবং অধিকার নিয়ে জন্মগ্রহণ করে। তাঁদের বিবেক এবং বুদ্ধি আছে; সুতরাং সকলেরই একে অপরের প্রতি ভ্রাতৃত্বসুলভ মনোভাব নিয়ে আচরণ করা উচিত।[golygu | golygu cod y dudalen]
Gramadeg[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn wahanol i'r Gymraeg a llawer o Ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill, nid oes gan enwau genedl gramadegol (gwryw neu benyw). Trefn arferol y frawddeg yw SOV (goddrych, gwrthrych, berf), felly mae'r ferf ar ddiwedd y frawddeg, yn hytrach nag ar y cychwyn fel yn Gymraeg.
Siaradwyr y tu hwnt i is-gyfandir India[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae cymunedau sylweddol o siaradwyr Bengaleg yn:
- De-ddwyrain Asia: Maleisia, Nepal a Singapôr, Myanmar
- Awstralia
- Y Dwyrain Canol: Sawdi Arabia, Yr Emiradau Arabaidd Unedig
- Ewrop: Cymru[4], Lloegr, yr Alban, Ffrainc
- Gogledd America: Unol Daleithiau America.
Dolenni Allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
Ymadroddion cyffredin gyda chyfieithiadau Saesneghttps://www.omniglot.com/language/phrases/bengali.php
- ↑ http://www.ethnologue.com/18/language/ben/.
- ↑ 2.0 2.1 https://www.ethnologue.com/language/ben; dyddiad cyrchiad: Medi 2018.
- ↑ http://www.ethnologue.com/18/language/ben/.
- ↑ "Bengali - languages spoken in Wales". Casgliad y Werin Cymru. Cyrchwyd 2021-04-10.