Assam
| Math | talaith India |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | uneven, Ahom Kingdom |
| Prifddinas | Dispur |
| Dinas fwyaf | Guwahati |
| Poblogaeth | 31,205,576 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Himanta Biswa Sarma |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Asameg, Bodo, Bengaleg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | India |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 78,438 km² |
| Yn ffinio gyda | Nagaland, Arunachal Pradesh, Manipur, Meghalaya, Tripura, Gorllewin Bengal, Mizoram, Sylhet Division, Bhwtan |
| Cyfesurynnau | 26°N 93°E |
| IN-AS | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Assam Legislative Assembly |
| Corff deddfwriaethol | Assam Legislative Assembly |
| Pennaeth y wladwriaeth | Banwarilal Purohit |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Chief Minister of Assam |
| Pennaeth y Llywodraeth | Himanta Biswa Sarma |
![]() | |
Mae Assam neu Asám[1] yn dalaith yng ngogledd-ddwyrain India. Arwynebedd y dalaith yw 78,438 km sgwar, tua'r un faint ag Iwerddon. Roedd y boblogaeth yn 26,655,528 yn 2001. Ei phrifddinas yw Dispur, rhan o Guwahati. Mae'n ffinio â thaleithiau Indiaidd Arunachal Pradesh, Nagaland, Manipur, Mizoram, Tripura a Meghalaya, a hefyd â Bhwtan i'r gogledd a Bangladesh i'r de. Y prif grefyddau yw Hindwaeth (63.13%) ac Islam (32.43%). Tua diwedd y 1980au ac yn y 1990au bu galw am fwy o ymreolaeth gan gymuned y Bodo a thyfodd grwpiau arfog megis yr United Liberation Front of Assam (ULFA), sy'n galw am annibyniaeth i Assam, a'r National Democratic Front of Bodoland (NDFB) sy'n galw am greu talaith ymreolaethol Bodoland o fewn Assam.
Mae'r dalaith yn adnabyddus am de Assam (tyfir 60% o de India yno), ac am yr amrywiaeth o fywyd gwyllt, yn cynnwys y Rheinoseros Indiaidd ym Mharc Cenedlaethol Kaziranga. Mae Afon Brahmaputra yn llifo trwy'r dalaith.

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, [Assam].
| Taleithiau a thiriogaethau India | |
|---|---|
| Taleithiau | Andhra Pradesh • Arunachal Pradesh • Assam • Bihar • Chhattisgarh • Goa • Gorllewin Bengal • Gujarat • Haryana • Himachal Pradesh • Jharkhand • Karnataka • Kerala • Madhya Pradesh • Maharashtra • Manipur • Meghalaya • Mizoram • Nagaland • Orissa • Punjab • Rajasthan • Sikkim • Tamil Nadu • Telangana • Tripura • Uttarakhand • Uttar Pradesh |
| Tiriogaethau | Ynysoedd Andaman a Nicobar • Chandigarh • Dadra a Nagar Haveli • Daman a Diu • Delhi • Jammu a Kashmir • Lakshadweep • Puducherry |

