Meghalaya
| |
![]() | |
Math |
talaith India ![]() |
---|---|
| |
Prifddinas |
Shillong ![]() |
Poblogaeth |
3,211,000 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth |
Conrad Sangma ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+05:30 ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Saesneg, Garo, Khasi ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
India ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
22,429 km² ![]() |
Yn ffinio gyda |
Assam, Sylhet Division ![]() |
Cyfesurynnau |
25.57°N 91.88°E ![]() |
IN-ML ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol |
Meghalaya Legislative Assembly ![]() |
Corff deddfwriaethol |
Meghalaya Legislative Assembly ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth |
Tathagata Roy ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Chief Minister of Meghalaya ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Conrad Sangma ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol |
0.585 ![]() |
Mae Meghalaya yn dalaith fechan yng ngogledd-ddwyrain India. Ystyr yr enw "Meghalaya" yn Hindi a Sanskrit yw "Cartref y Cymylau". Mae'r dalaith tua 300 km o hyd o'r gorllewin i'r dwyrain a thua 100 km o'r gogledd i'r de. Yn 2000 roedd y boblogaeth yn 2,175,000. Mae'r dalaith yn ffinio ar Assam yn y gogledd a Bangladesh yn y de. Shillong yw'r brifddinas, gyda phoblogaeth o 260,000.
Mae tua thraean o'r dalaith yn goedwig, sy'n cynnal amrywiaeth ddiddorol o blanhigion, adar ac anifeiliaid.
Ffurfiwyd taliaith Meghalaya ar 21 Ionawr 1972 trwy gyfuno dwy ardal oedd cynt yn rhan o dalaith Assam: Bryniau Khasia a Jaintia Unedig a Bryniau Garo. Mae tua 85% o boblogaeth y dalaith yn bobl lwythol; y Khasi yw'r grŵp mwyaf. Cristionogaeth yw'r grefydd fwyaf yn y dalaith, sy'n un o dair talaith yn India lle mae Cristionogion yn y mwyafrif.
Meghalaya yw'r dalaith wlypaf yn India, gyda 1200 cm o law y flwyddyn mewn ambell ardal. Tref Cherrapunji ym Mryniau Khasia sy'n dal record y byd am y cyfanswm mwyaf o law mewn mis.