Chhattisgarh
Math |
talaith India ![]() |
---|---|
| |
Prifddinas |
Raipur ![]() |
Poblogaeth |
25,545,198 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth |
Bhupesh Baghel ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Hindi, Chhattisgarhi ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
India ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
135,194 km² ![]() |
Yn ffinio gyda |
Madhya Pradesh, Maharashtra, Orissa, Jharkhand, Uttar Pradesh, Telangana, Andhra Pradesh ![]() |
Cyfesurynnau |
21.27°N 81.6°E ![]() |
IN-CT ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol |
Chhattisgarh Legislative Assembly ![]() |
Corff deddfwriaethol |
Chhattisgarh Legislative Assembly ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth |
Anusuiya Uikey ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Chief Minister of Chhattisgarh ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Bhupesh Baghel ![]() |
![]() | |
Chhattisgarh (Chhattisgarhi/Hindi: छत्तीसगढ़), yw talaith ddiweddaraf India. Fe'i lleolir yng nghanolbarth y wlad a chafodd ei ffurfio pan enillodd 16 ardal Chhattisgarhi eu hiaith de-ddwyrain Madhya Pradesh statws talaith ar 1 Tachwedd, 2000. Raipur yw'r brifddinas. Chhattisgarh yw'r dalaith ddegfed mwyaf India o ran ei maint. Daw'r enw Chhattisgarh o'r 36 o dywysogaethau hynafol yn yr ardal (Chattis, '36' yn Hindi, a garh 'caer').
Mae'r dalaith yn ffinio â Madhya Pradesh i'r gogledd-orllewin, Maharashtra i'r gorllewin, Andhra Pradesh i'r de, Orissa i'r dwyrain, Jharkhand i'r gogledd-ddwyrain ac Uttar Pradesh i'r gogledd.
Chhattisgarhi, iaith Indo-Araidd yw prif iaith yr ardal, ond Hindi, sy'n agos iawn i Chhattisgarhi, yw iaith swyddogol y dalaith. Yn y bryniau mae'r pobloedd Gond yn byw, sy'n siarad ieithoedd Dravidaidd.