Mizoram
![]() | |
![]() | |
Math |
talaith India ![]() |
---|---|
| |
Prifddinas |
Aizawl ![]() |
Poblogaeth |
1,097,206 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth |
Pu Lalthanhawla ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
India ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
21,081 km² ![]() |
Yn ffinio gyda |
Assam, Tripura, Manipur ![]() |
Cyfesurynnau |
23°N 93°E ![]() |
IN-MZ ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol |
Mizoram Legislative Assembly ![]() |
Corff deddfwriaethol |
Mizoram Legislative Assembly ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth |
Nirbhay Sharma ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Chief Minister of Mizoram ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Pu Lalthanhawla ![]() |
![]() | |
Mae Mizoram yn dalaith yng ngogledd-ddwyrain India, yn ffinio ar Myanmar yn y dwyrain a'r de a Bangladesh yn y gorllewin. Roedd yn rhan o dalaith Assam hyd 1973, pan ddaeth yn Diriogaeth yr Undeb. Daeth yn dalaith ym mis Chwefror 1987. Y brifddinas yw Aizawl.
Roedd y boblogaeth yn 888,573 yn 2001. Mae llythrennedd yn y dalaith yr ail-uchaf yn India, 88.8% o'r boblogaeth; dim ond Kerala sy'n uwch. Mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn perthyn i lwyth y Mizo, ac mae tua 87% o'r boblogaeth, gan gynnwys bron y cyfan o'r Mizo, yn Gristnogion.
Bu cyswllt rhwng Cymru â'r dalaith hon oddi ar i'r cenhadwr cyntaf o Gymru (y Parch. D. E. Jones o Landderfel, ger y Bala), gyrraedd yno ym 1894. Mae'r eglwys a sefydlwyd yno yn synod, ac yn ffurfio rhan o Eglwys Bresbyteraidd India. Dychwelodd y cenhadon olaf o Gymru oddi yno ym 1969 wedi cyfnod o ansefydlogrwydd gwleidyddol. Bu'r dalaith yn ardal gyda chyfyngiadau ar ymwelwyr hyd yn gymharol ddiweddar.