Sikkim

Oddi ar Wicipedia
Sikkim
Mathtalaith India Edit this on Wikidata
PrifddinasGangtok Edit this on Wikidata
Poblogaeth657,876 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 16 Mai 1975 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethPawan Kumar Chamling, Prem Singh Tamang Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+05:30 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirIndia Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Arwynebedd7,096 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGorllewin Bengal Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau27.55°N 88.5°E Edit this on Wikidata
IN-SK Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolCouncil of Ministers of Sikkim Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSikkim Legislative Assembly Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethShriniwas Dadasaheb Patil, Lakshman Acharya Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Chief Minister of Sikkim Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethPawan Kumar Chamling, Prem Singh Tamang Edit this on Wikidata
Map

Talaith yng ngogledd-ddwyrain India, rhwng Nepal a Bhwtan, sy'n rhannu ffin â Tibet yn y gogledd a Rhanbarth Darjeeling yn y de, yw Sikkim neu Sicim.[1] Arwynebedd tir 7214 km². Ystyr yr enw Sikkim yw "Y Tŷ Newydd"; yr enw Tibeteg arni yw Denjong, sef "Cwm Reis". Gangtok (poblogaeth 82,00) yw'r brifddinas.

Allan o'r boblogaeth o tua 500,000 mae 70% yn Nepalwyr, tua 15% yn Lepchiaid a 10% yn Bhutiaid. Nepaleg yw prif iaith y dalaith; mae Saesneg yn cael ei defnyddio fel iaith swyddogol ar gyfer gweinyddiaeth ac fe siaredir hefyd Tibeteg, yr iaith Bhutia a Lepcha, yn ogystal â Bengaleg a Hindi. Hindŵaeth (60%) a Bwdhiaeth (28%) yw'r prif grefyddau. Mae gan y dalaith senedd un siambr gyda rheolaeth ar faterion mewnol a llywodraeth daleithiol a arweinir gan brif weinidog. Mae'r wlad yn cael ei rheoli ers degawdau gan y Sikkim National Democratic Front; mae'r ychydig wrthbleidiau'n fychan a dibwys. Mae economi y dalaith yn seiliedig ar amaethyddiaeth, coedwigaeth, twristiaeth a diwydiant ysgafn.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Kangchendzonga o Gangtok

Mae Sikkim yn gorwedd rhwng Nepal yn y gorllewin, Tibet yn y gogledd a'r gogledd-ddwyrain, Ardal Darjeeling (Gorllewin Bengal) yn y de a Bhwtan yn y de-ddwyrain. Yng ngogledd Sikkim mae mynyddoedd yr Himalaya gyda'u eira tragwyddol yn dominyddu'r tirwedd, yn cynnwys Kangchendzonga (neu Kangchenjunga; 8598m), y mynydd trydydd uchaf yn y byd. Mae'r ardal o gwmpas Kangchendzonga yn barc cenedlaethol sy'n cynnwys hefyd Rhewlif Zemu, un o'r fwyaf yn yr Himalaya. O'r ardal fynyddig hon rhed afonydd Lachen a Lachung, a fwydir gan eira'r copaon, i lawr i'r de i gwrdd ag Afon Teesta ac Afon Rangeet, prif afonydd Sikkim. Mae Afon Rangeet yn ffurfio'r ffin rhwng Sikkim a Rhanbarth Darjeeling. Mae dwy fraich anferth yn ymwthio o'r mynyddoedd mawr i'r de; mae'r fraich orllewinol yn ffurfio Cadwyn Singalila ac yn gwahanu Sikkim a Nepal; yn y dwyrain mae Cadwyn Chola yn ffurfio'r ffin rhwng y dalaith a Thibet gyda blwch y Nathu La yn ei chroesi. Yn bellach i'r de o'r gadwyn honno mae Cadwyn Pango-la yn nodi'r ffin rhwng Sikkim a Bhwtan. Rhwng y ddwy fraich hyn mae trydedd yn gwahanu cymoedd Afon Teesta ac Afon Rangeet, sy'n cwrdd ar flaen deheuol y gadwyn, ac yn trywanu ucheldiroedd Tibet dros y ffin yn y gogledd. Mae'r mynyddoedd yn droi'n fryniau gwyrdd coediog yng nghanolbarth y dalaith ac yn y de eithaf mae'r cymoedd yn isel gyda thyfiant a hinsawdd is-drofaol.

Hanes[golygu | golygu cod]

Gangtok o'r de
Mam a'i phlentyn, Gangtok

Ni wyddys llawer am hanes cynnar Sikkim. Mae’n bosibl fod y Lepchiaid wedi symud o fryniau Assam neu Myanmar (Myanmar) i fyw yn Sikkim rywbryd yn y 13g gan raddol ddisodlu’r brodorion cynhanesyddol, y Naong, y Chang a’r Mon. Pobl heddychlon a arferai gasglu eu bwyd o’r fforestydd oedd y Lepchiaid ac nid oedd ganddynt y gallu i wrthsefyll y tonnau o fewnfudwyr o Dibet a ddaeth dros fylchau uchel gogledd Sikkim yn y 15g i osgoi’r gwrthdaro gwleidyddol yn y wlad honno. Daeth y Tibetwyr, a elwid yn Bhotiaid gan eu cymdogion, â dysgeidiaeth y Bwdha i’r wlad. Roedd y mwyafrif ohonynt yn perthyn i enwad y Nyingma-pa ("Yr Hetiau Cochion") a’i is-enwadau, ac wrth iddynt gymysgu â’r Lepchiaid datblygodd ffurf arbennig o Fwdhiaeth Dibetaidd yn Sikkim, yn gymysgfa o ddefodau ac ofergoelion hynafol y Nyingma-pa ac elfennau o natur-addoliaeth shamanaidd y Lepchiaid. Ffrwyth gwleidyddol y croesffrwythloni hyn oedd y frawdoliaeth waed a wnaed rhwng Thekong Tek, arweinydd y Lepchiaid, a Khye-Bumsa, arweinydd y Bhotiaid, yn Kabi Longtsok. O ganlyniad i hynny sefydlwyd brenhiniaeth yn Sikkim a gynhwysai yn ei diriogaeth rannau o ddwyrain Nepal, Dyffryn Chumbi yn Tibet a bryniau Darjeeling a Kalimpong, yn ogystal â’r dalaith bresennol. Yn anffodus ni pharhaodd yr oes aur hwn dan reolaeth y chogyals (rajas neu frenhinoedd Sikkim) am hir. Yn ystod y 18g collwyd tir i’r Bhwtaniaid yn y de ac i’r Gorkhiaid yn y dwyrain. Yna, yn y 19g, daeth yr Ymerodraeth Brydeinig yn rhan o’r darlun pan yrrwyd y Gorkhiaid allan gan y British East India Company a throwyd Sikkim yn glustog-wlad rhwng Nepal, Tibet (a hawliai ei bod yn ddeiliad iddi), Bhwtan a thiriogaeth y Cwmni yng ngogledd Bengal. Dirywiodd rheolaeth y chogyal dros ei wlad a bu’n rhaid iddo ildio Darjeeling a’r cylch i’r Prydeinwyr. Roedd y Tibetiaid yn amheus iawn o amcanion y Prydeinwyr ac ar ôl i Brydain gyhoeddi fod Sikkim yn dalaith warcheidiol yn 1861 bu gwrthdaro rhwng y ddwy blaid a arweiniodd i ymgais gan Dibet i oresgyn Sikkim. Gorchfygwyd y Tibetiaid a daeth Sikkim, a’r chogyal, dan reolaeth Swyddog Gwleidyddol Prydeinig yn Gangtok.

Nid oedd y chogyal olaf, Palden Thondup Namgyal, yn boblogaidd oherwydd iddo wrthsefyll y galwadau cynyddol am ddiwygiadau cyfansoddiadol. Roedd Tsieina, a hawliai Sikkim yn enw Tibet, yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa hefyd ac ofnai nifer o Sikkimiaid ddeffro ryw fore i weld milwyr Tsieineaidd ar ei strydoedd. Daeth yr argyfwng i’w ben ar ddechrau’r 1970au pan ofynnodd y chogyal i India gymryd yr awennau yn Sikkim. Yn refferendwm 1975 pleidliosiodd 97% o’r boblogaeth am undeb ag India ac ers hynny mae Sikkim wedi bod yn dalaith Indiaidd. Un o ganlyniadau polisïau’r Swyddogion Gwleidyddol Prydeinig oedd mewnfudiad sylweddol o Nepalwyr i Sikkim i ddatblygu amaeth ac i weithio yn y gerddi te, ac erbyn hyn mae dros 7O% o’r hanner miliwn o bobl sy’n byw yn Sikkim yn Nepaliaid a’r Nepaleg yw prif iaith y dalaith. Mae’r rhan fwyaf o’r Lepchiaid a’r Bhotiaid yn byw yn y gogledd ac yn ogystal ceir nifer cynyddol o fewnfudwyr o rannau eraill o India sy’n tueddu i redeg siopau a busnesau yn y trefi. Er bod tensiynau rhwng y cymunedau hyn erys Sikkim yn wlad werdd gymharol dawel ac mae’r safon byw yn uwch na’r cyfartaledd Indiaidd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Baner Sikkim
  • K.C. Bhanja, History of Darjeeling and the Sikkim Himalaya (Delhi Newydd, 1993). ISBN 81-212-0441-0
  • P.N. Chopra, Sikkim (Delhi Newydd, 1979)
  • H.H. Risley, The Gazetteer of Sikkim (1928; adargraffiad Delhi, 1999) ISBN 81-86142-50-9

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]


Taleithiau a thiriogaethau India
Taleithiau Andhra PradeshArunachal PradeshAssamBiharChhattisgarhGoaGorllewin BengalGujaratHaryanaHimachal PradeshJharkhandKarnatakaKeralaMadhya PradeshMaharashtraManipurMeghalayaMizoramNagalandOrissaPunjabRajasthanSikkimTamil NaduTelanganaTripuraUttarakhandUttar Pradesh
Tiriogaethau Ynysoedd Andaman a NicobarChandigarhDadra a Nagar HaveliDaman a DiuDelhiJammu a KashmirLakshadweepPuducherry