Himalaya
|
| |
| Math |
cadwyn o fynyddoedd |
|---|---|
|
| |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol |
Alpide belt |
| Gwlad |
Nepal, Myanmar, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Pacistan, India, Affganistan |
| Arwynebedd |
600,000 km² |
| Uwch y môr |
8,848 metr |
| Cyfesurynnau |
27.9881°N 86.9253°E |
| Hyd |
2,400 cilometr |
| Cyfnod daearegol |
Eocene |
Mae mynyddoedd yr Himalaya (Sanscrit: हिमालय) yn gadwyn o fynyddoedd yn Asia, yn gwahanu India oddi wrth Tibet. Defnyddir yr enw hefyd am yr holl fynyddoedd yn yr ardal yma, yn cynnwys y Karakoram a'r Hindu Kush.
Yn yr Himalya mae mynyddoedd uchaf y byd. Y mynydd uchaf yn y byd tu allan i'r Himalaya yw Aconcagua yn yr Andes, sy'n 6,962m o uchder, ond yn yr Himalaya mae dros gant o fynyddoedd dros 7,200m o uchder. Mae'r Himalaya yn rhedeg drwy chwe gwlad: Bhwtan, Tsieina, India, Nepal, Pacistan ac Affganistan. Yn y mynyddoedd hyn mae tarddle nifer o afonydd mawr y byd megis yr Indus, cy Ganga, y Brahmaputra a'r Yangtze. Maent yn ymestyn am tua 2,400km o Nanga Parbat (Pacistan) yn y gorllewin i Namche Barwa yn y dwyrain.
Prif fynyddoedd[golygu | golygu cod y dudalen]
Ymhlith prif fynyddoedd yr Himalaya mae:
- Qomolangma (Mynydd Everest) 8,848m (29,028 troedfedd), y mynydd uchaf yn y byd.
- K2 8,611m (28,251 troedfedd) ar y ffin rhwng Pacistan a Tsieina. Ystyrir hwn y mynydd anoddaf yn y byd i'w ddringo.
- Kangchenjunga 8,586m (28,169 troedfedd).
- Makalu 8,462m (27,765 troedfedd).
- Dhaulagiri 8,167m (26,764 troedfedd).
- Nanga Parbat 8,125m (26,658 troedfedd). Mynydd eithriadol o beryglus i'w ddringo.
- Annapurna 8,091m (26,545 troedfedd)
- Nanda Devi 7,817m (25,645 troedfedd)
Dringwyr a fforwyr enwog yn yr Himalaya[golygu | golygu cod y dudalen]
Un o'r cyntaf i ddringo mynydd yn yr Himalaya er mwyn ei ddringo oedd y Cymro Syr William Lloyd, a ddringodd Boorendo yn 1822.
- Heinrich Harrer (1912 - 2006) dringwr o Awstria, awdur y llyfr enwog Saith Mlynedd yn Tibet.
- Nazir Sabir dringwr o Pacistan. Y cyntaf erioed i ddringo dau fynydd wyth mil medr gyda'i gilydd.
- Tenzing Norgay (1914 - 1986) Sherpa o Nepal, dringwr ac arweinydd, y cyntaf i gyrraedd copa Qomolangma (Everest) gyda Edmund Hillary.
- Syr Edmund Hillary (ganed 1919) dringwr o Seland Newydd, gyda Tenzing y cyntaf i ddringo Everest.
- Reinhold Messner (ganed 1944) dringwr o'r Eidal, y cyntaf i ddringo pob un o'r 14 mynydd dros 8,000 medr.
| Y 14 copa dros 8,000 medr |
| Annapurna · Broad Peak · Cho Oyu · Dhaulagiri · Everest · Gasherbrum I · Gasherbrum II |
| K2 · Kangchenjunga · Lhotse · Makalu · Manaslu · Nanga Parbat · Shishapangma |