Nagaland
| Math | talaith India |
|---|---|
| Prifddinas | Kohima |
| Dinas fwyaf | Dimapur |
| Poblogaeth | 1,978,502 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Neiphiu Rio |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | India |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 16,579 km² |
| Yn ffinio gyda | Arunachal Pradesh, Assam, Manipur |
| Cyfesurynnau | 26°N 95°E |
| IN-NL | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Nagaland Legislative Assembly |
| Corff deddfwriaethol | Nagaland Legislative Assembly |
| Pennaeth y wladwriaeth | La Ganesan |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Chief Minister of Nagaland |
| Pennaeth y Llywodraeth | Neiphiu Rio |
![]() | |
Mae Nagaland neu Wlad y Nagas[1] yn dalaith ym mryniau coediog gogledd-ddwyrain eithaf India. Mae'n ffinio â thaleithiau Assam i'r gorllewin, Arunachal Pradesh a rhan o Assam i'r gogledd, gwlad Myanmar i'r dwyrain a thalaith Manipur i'r de. Kohima yw prifddinas Nagaland, a Dimapur yw'r ddinas fwyaf. Gyda phoblogaeth o 1,988,636, (2001) ac arwynebedd tir o 16,579 km² yn unig mae'n un o daleithiau lleiaf India. Cafodd ei sefydlu fel talaith yn 1963.
Mae'r dalaith wedi dioddef o ansefydlogrwydd gwleidyddol ers degawdau ac mae'n anodd cael caniatad i fynd yno. Ers i India ennill eu hannibyniaeth mae galwadau am annibyniaeth i Nagaland wedi dominyddu gwleidyddiaeth y dalaith sydd wedi gweld lefelau uchel o drais ar adegau.
Ar un adeg bu'r Naga yn adnabyddus fel helwyr pennau. Mae'r 16 o lwythau yn cynnwys yr Angamis, Rengmas, Aos, Konyaks, Wanchus, Semas a'r Lothas. Roedd ganddynt grefydd animistaidd cyn i'r cenhadon cyntaf gyrraedd o'r Gorllewin. Erbyn heddiw mae dros 90% o'r Nagas yn Gristnogion a Saesneg yw iaith swyddogol y dalaith, er bod nifer o ieithoedd brodorol yn cael eu siarad yn ogystal.
Daearyddiaeth a hinsawdd
[golygu | golygu cod]Talaith fynyddig yw Nagaland. Mae Bryniau Naga yn codi o ddyffryn Afon Brahmaputra yn Assam i tua 2,000 troedfedd ac yna'n codi'n graddol uwch i'r de-ddwyrain, hyd at 6,000 troedfedd. Mynydd Saramati, 12,552 troedfedd uwch lefel y môr, yw copa uchaf y dalaith - yma mae Bryniau Naga Hills yn ymdoddi i Gadwyn Patkai dros y ffin yn Myanmar. Mae nifer o afonydd, yn cynnwys afonydd Doyang a Dhiku yn y gogledd, Afon Barak yn y de-orllewin ac Afon Chindwin (sy'n llifo o Fyanmar) yn y de-ddwyrain, yn llifo ar draws y dalaith.
Mae gan Nagaland flora a fauna cyfoethog. Mae tua 15% o Nagaland yn orchuddiedig gan coedwigoedd trofaol ac is-drofaol bytholwyrdd - yn cynnwys palmwydd, bambŵ a rattan ynghyd â fforestydd mahogani. Yn yr ardaloedd coediog ceir high nifer o anifeiliaid fel cŵn gwyllt, pangolins, porciwpeins, eliffantod, llewpardiaid, eirth, mwncïod, sambar, ceirw, ychen a byffalos. Mae'r Hornbill Mawr Indiaid yn un o'r adar mwyaf enwog o'r dalaith.
Hinsawdd monsŵn sydd gan Nagaland, gyda lefel uchel o leithder. Ceir rhwng 70-100 troedfedd o law y flwyddyn, gyda rhan helaeth yn disgyn ym mis Mai. Ceir tymheroedd rhwng 70 i 104 gradd ffahrenheit. Yn y gaeaf ceir rhywfaint o farrug yn yr ucheldiroedd.


Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, [Nagaland].
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol y dalaith Archifwyd 2010-06-17 yn y Peiriant Wayback
| Taleithiau a thiriogaethau India | |
|---|---|
| Taleithiau | Andhra Pradesh • Arunachal Pradesh • Assam • Bihar • Chhattisgarh • Goa • Gorllewin Bengal • Gujarat • Haryana • Himachal Pradesh • Jharkhand • Karnataka • Kerala • Madhya Pradesh • Maharashtra • Manipur • Meghalaya • Mizoram • Nagaland • Orissa • Punjab • Rajasthan • Sikkim • Tamil Nadu • Telangana • Tripura • Uttarakhand • Uttar Pradesh |
| Tiriogaethau | Ynysoedd Andaman a Nicobar • Chandigarh • Dadra a Nagar Haveli • Daman a Diu • Delhi • Jammu a Kashmir • Lakshadweep • Puducherry |

