Eliffant
- Ar gyfer y band cerddorol gweler: Eliffant (band)
Eliffant | |
---|---|
![]() | |
Eliffant Affricanaidd ym Mharc Cenedlaethol Mikumi, Tanzania | |
![]() | |
Eliffant Asiaid ym Mharc Cenedlaethol Bandipur, India | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Is-ffylwm: | Vertebrata |
Dosbarth: | |
Uwchurdd: | Afrotheria |
Urdd: | Proboscidea |
Teulu: | Elephantidae Gray, 1821 |
Genera | |
Mamal enfawr sy'n perthyn i deulu'r Elephantidae yw eliffant. Mae gan eliffantod ysgithrau (tusks) ifori, trwnc hir a chlustiau mawr. Mae nhw'n bwyta planhigion, yn arbennig glaswellt a dail a byw nes eu bont yn 70 neu hŷn. Yn draddodiadol cânt eu dosbarthu'n ddau ddosbarth ar wahân sef:Eliffant Asiaidd (Loxodonta africana) ac Eliffant Affricanaidd (Elephas maximus). Erbyn heddiw, fodd bynnag, credir fod y "Eliffant y Safana" (L. africana) ac "Eliffant y Fforest" (L. cyclotis) yn ddau rywogaeth gwahanol.
Mae nhw'n perthyn yn agos i'r mamoth a'r mastadon sydd ill dau bellach wedi darfod o'r tir; hwy ydy rhywogaeth olaf y teulu proboscideans. Nhw hefyd ydy'r mamal mwyaf sydd i'w gael, gyda'u taldra oddeutu 4 m (13 ft) a'u pwysau'n medru bod cymaint â 7,000 kg (15,000 lb).