Meinwe
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o strwythurau anatomegol, dosbarth o endid anatomegol ![]() |
Math | strwythur amlgellog, group of cells, strwythur anatomegol, biogenic substance, endid anatomegol arbennig ![]() |
Rhan o | organ ![]() |
![]() |
Casgliad neu grŵp o gelloedd ydy meinwe. Mae meinweoedd i gyd yn tarddu o'r un lle, ond er eu bod wedi eu creu o'r un math o gell yn wreiddiol, maent yn newid eu siap a'u pwrpas drwy arbenigo mewn rhyw fodd neu'i gilydd. Er mwyn gweithredu, mae sawl cell o whanol siapiau yn cyfuno i greu meinwe arbenig, unir y gwahanol feinweoedd i greu organ.
Histoleg ydy'r enw ar yr astudiaeth o'r feinwe. Defnyddir y meicrosgop a'r bloc paraffîn yn draddodiadol wrth eu hastudio. Mae datblygiadau technegol y ddau ddegawd diwethaf, yn enwedig gyda'r meicrosgop electron a'r defnydd o feinwe wedi'i rhewi, yn golygu y gellir gweld llawer mwy o fanylder o fewn y feinwe. Mae hyn yn golygu y gallwn adnabod afiechydon yn llawer cynt, a chreu ateb i lawer o broblemau yn ymwneud ag afiechydon.
Meinweoedd anifeiliaid[golygu | golygu cod]
Yn seiliedig ar forffoleg, mae pedwar math elfennol o feinwe mewn anifeiliaid. Mae amryw o fathau o feinweoedd yn cyfuno i greu organau a strwythrau'r cordd. Tra y gall cysidro pob anifail i gynnwys y pedwar math o feinwe, mae rhain yn ymddangos yn wahanol yn dibynnu ar y math o organeb.
Epitheliwm[golygu | golygu cod]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Meinwe gyswllt[golygu | golygu cod]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Meinwe'r cyhyr[golygu | golygu cod]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Meinwe'r nerfau[golygu | golygu cod]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Meinweoedd planhigion[golygu | golygu cod]
Mewn planhigion, mae tri math.
Mae enghreifftiau o feinweoedd mewn organebau amlgellog eraill yn cynnwys meinwe fasgiwlar mewn planhigion, megis sylem a ffloem. Caiff meinweoedd planhigion eu dosbarthu yn fras yn dri fath: yr epidermis, y feinwe ddaear, a'r feinwe fasgiwlar. Cyfeirir atynt ar y cyd fel biomas.
- Epidermis – celloedd sy'n ffurfio ar ymylon allanol dail a'r planhigyn ifanc.
- Meinwe fasgiwlar – prif gyfansoddion meinwe fasgiwlar yw'r sylem a'r ffloem sy'n symud hylif a mwynau o fewn y planhigyn.
- Meinwe ddaear – mae meinwe ddaear yn llai gwahaniaethol na meinweoedd eraill. Mae'n cynhyrchu maeth drwy ffotosynthesis ac yn ei storio.