Eliffant (band)
Jump to navigation
Jump to search
- Mae hon yn erthygl am y band Eliffant, am yr anifail gweler Eliffant.
Grŵp roc Cymraeg poblogaidd o'r 1970au oedd Eliffant. Bu'r grŵp gyda'i gilydd am bron i 7 mlynedd, o 1977 tan 1984. Cyhoeddwyd dwy record hir gyda Cwmni Recordiau Sain - M.O.M. a Gwin Y Gwan. Enillodd Eliffant wobr Sgrech fel y 'Prif Grŵp Roc' ym 1979, y gystadleuaeth gyntaf o'r fath.
Aelodau[golygu | golygu cod y dudalen]
- John Davies - Gitar, llais.
- Geraint Griffiths - Prif lais, Gitar.
- Euros Lewis - Allweddellau.
- Colin Owen - Drymiau.
- Clive Richards - Gitar fas, llais.
- Gordon Jones - Drymiau ar ôl i Colin adael.