Odisha
| Math | talaith India |
|---|---|
| Prifddinas | Bhubaneswar |
| Poblogaeth | 41,974,218 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | Bande Utkala Janani |
| Pennaeth llywodraeth | Mohan Charan Majhi |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Odia |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | India |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 155,707 km² |
| Yn ffinio gyda | Gorllewin Bengal, Jharkhand, Chhattisgarh, Andhra Pradesh |
| Cyfesurynnau | 20.15°N 85.5°E |
| IN-OD | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Odisha Legislative Assembly |
| Pennaeth y wladwriaeth | Ganeshi Lal |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Chief Minister of Odisha |
| Pennaeth y Llywodraeth | Mohan Charan Majhi |
![]() | |
Mae Odisha (Orissa cyn 2011) yn dalaith ar arfordir dwyreiniol India. Roedd ei phoblogaeth yn 36,706,920 yn 2001. Bhubaneswar yw prifddinas y dalaith, a'r prif borthladd yw Paradip. Mae dinas Puri yn cael ei hystyried yn ddinas sanctaidd ac yn safle teml enwog Jagannath. Iaith swyddogol y dalaith yw Oriya, iaith Indo-Ariaidd sy'n perthyn yn agos i Bengaleg. Hindwaeth yw'r brif grefydd; roedd 94.35% o boblogaeth y dalaith yn Hindwiaid yn 2001.
Mae'r hinsawdd yn wlyb, ac mae tyfu reis yn bwysig iawn yma, yn enwedig ar y tir ffrwythlon ger glannau'r môr. Ceir tua chwarter mwyn haearn India yn Odisha, a phumed rhan o'i glo, yn ogystal â chanran uchel o nifer o fwynau eraill. O ganlyniad tyfodd cryn dipyn o ddiwydiant yn y dalaith. Yn Odisha y bu Rhyfel Kalinga yn 261 CC.; y rhyfel yma a berswadiodd yr ymerawdwr Ashoka i droi ei gefn ar ryfela a throi'n Fwdydd.

| Taleithiau a thiriogaethau India | |
|---|---|
| Taleithiau | Andhra Pradesh • Arunachal Pradesh • Assam • Bihar • Chhattisgarh • Goa • Gorllewin Bengal • Gujarat • Haryana • Himachal Pradesh • Jharkhand • Karnataka • Kerala • Madhya Pradesh • Maharashtra • Manipur • Meghalaya • Mizoram • Nagaland • Orissa • Punjab • Rajasthan • Sikkim • Tamil Nadu • Telangana • Tripura • Uttarakhand • Uttar Pradesh |
| Tiriogaethau | Ynysoedd Andaman a Nicobar • Chandigarh • Dadra a Nagar Haveli • Daman a Diu • Delhi • Jammu a Kashmir • Lakshadweep • Puducherry |

