Puri
Gwedd
| Math | dinas fawr |
|---|---|
| Poblogaeth | 201,026 |
| Cylchfa amser | UTC+05:30 |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Odia |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Puri district |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 16.3268 km² |
| Uwch y môr | 0 ±1 metr |
| Cyfesurynnau | 19.8°N 85.82°E |
| Cod post | 752001 |
![]() | |
Dinas yn nhalaith Odisha yn India yw Puri (ynganer: pŵ-ri). Fe'i lleolir ar lan Bae Bengal yn nwyrain India. Mae'n ganolfan grefyddol ac yn ganolfan gwyliau glan môr gyda thraethau da. Poblogaeth: tua 157,610 (2001).
Mae Puri yn enwog fel canolfan addoliad y duw Jagannatha. Bob blwyddyn mae'r Rath Yaga yn gorymdeithio trwy strydoedd y ddinas gan ddenu miloedd lawer o addolwyr o bob rhan o India a'r byd Hindwaidd. Tynnir tri cherbyd gyda delweddau Jagannatha a'i frawd Balarama a'i chwaer Subadra gan griw o dros bedair mil o addolwyr. Cerbyd Jagannatha yw'r mwyaf a dyma darddiad y gair Saesneg juggernaut.
Mae lleoedd cyfagos yn cynnwys dinas Bhubaneswar, prifddinas Odisha, a Konarak, safle teml hynafol enwog ar y traeth ar lan Bae Bengal.


