Teml

Oddi ar Wicipedia
Teml
MathCreirfa Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Adeiladwaith ar gyfer gweithgareddau crefyddol neu ysbrydol, fel addoliad duw neu dduwiau a duwiesau, gweddio ac aberthu, yw teml (benthyciad o'r gair Lladin templum).

Yn y Rhufain hynafol, roedd y templum yn fangre cysegredig a sefydlwyd gan offeiriad neu augur fel cartref i dduw neu dduwiau. Ond mae'r cysyniad o deml fel y cyfryw yn hŷn o lawer na chyfnod y Rhufeiniaid ac yn tarddu o'r cyfnod cynhanesyddol. Gellir ystyrired adeiladau megalithig fel Côr y Cewri yn demlau, er enghraifft. Yn yr Henfyd codwyd nifer fawr o demlau i wahanol dduwiau, e.e. yn yr Hen Aifft, Groeg yr Henfyd a Carthago; ymhlith yr enghreifftiau enwocaf mai'r Pantheon yn Rhufain a'r Parthenon yn Athen. Ceir temlau mewn sawl crefydd arall, e.e. Bwdhiaeth a Hindŵaeth. Er y gellid ystyried eglwysi, mosgiau a synagogau yn demlau, fel arfer nid yw Cristnogion, Mwslemiaid ac Iddewon yn cyfeirio atynt felly.

Temlau Groeg-Rufeinig[golygu | golygu cod]

Er ein bod yn arfer galw adeiladau crefyddol Groegaidd yn gyffredinol yn "demlau", byddai'r addolwyr cyfoes yn cyfeirio at adeilad o'r fath fel temenos, neu fangre cysegredig. Roedd cysegredigrwydd y man yn bwysicach nag unrhyw adeilad a safai yno. Yn aml byddai llannerch sanctaidd gerllaw gydag allor awyr agored ar gyfer aberthau. Weithiau codwyd cysegrfan syml — y naos — i gysgodi cerflun duw neu dduwies ac efallai adeilad o'i gwmpas i'w amddiffyn. Erbyn y 6g CC roedd yr adeilad hwnnw yn troi'n gynyddol fwy cymhleth a datblygodd y deml Roegaidd glasurol sydd mor adnabyddus erbyn heddiw. Cafodd pensaernïaeth y temlau hyn ddylanwad mawr ar demlau eraill yn yr Henfyd, yn arbenig yn Rhufain.

Yn y Rhufain Hynafol, byddai'r augur proffesiynol yn mynd trwy ddefodau i sicrhau fod lleoliad y deml (templum) yn iawn, yn cynnwys gwylio hedfan adar. Fel rheol wynebai temlau Rhufeinig tua'r dwyrain a chyfeiriad y wawr, ond ceir ambell eithriad pwysig, e.e. y Pantheon yn Rhufain sy'n wynebu tua'r gogledd. Dim ond duwiau cydnabyddedig y pantheon Rhufeinig oedd yn cael eu haddoli mewn templum; yr enw am adeilad cyffelyb ar gyfer duwiau estron oedd fanum.

Cristnogaeth[golygu | golygu cod]

Anaml y defnyddir y gair 'teml' gan Gristnogion i ddisgrifio eu lleoedd addoliad am fod y Duw Cristnogol yn fod hollbresennol ac felly nid yw'n cael ei gynnwys gan adeilad. Dewisodd y Cristnogion cynnar osgoi'r gair Lladin templum oherywdd ei gysylltiadau "paganaidd". Y prif dermau Cristogol traddodiadol am leoedd addoli yw: basilica, eglwys ac eglwys gadeiriol (gweler hefyd capel). Fodd bynnag, yn yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol defnyddir y gair teml yn aml, e.e. Teml Sant Sava yn Beograd, Serbia. Yn Ffrainc a rhai gwledydd eraill, o gyfnod Yr Oleuedigaeth ymlaen, mae rhai enwadau Protestannaidd yn defnyddio'r term "teml" er mwyn gwahaniaethu rhwng eglwysi Protestannaidd ac eglwysi Catholig. Mae Eglwys y Seintiau Diweddar neu'r Mormoniaid yn arfer galw ei lleoedd addoliad yn demlau hefyd.

Mathau o demlau[golygu | golygu cod]

Oriel[golygu | golygu cod]